Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod V

Pennod IV Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod VI


PENNOD V.

Rhyfel y Crimea-Cynhadledd Paris—Yr adran ar gyflafareddiad yn y Gytundeb—Rhyfel â China—Y Morning Star—Gweithydd Amddiffynnol—Yr Arddanghosfa—Yr ymdrech o blaid heddwch cyffredinol—Rhyfel Cartrefol yr America—Achos y Trent—Yn ysgrifennu Bywgraffiad Joseph Sturge a Mr. Cobden.


(1854) Ysmotyn du ar hanes Prydain ydyw rhyfel y Crimea. Nid oes bron neb yn awr nad yw yn barod i addef ei fod, o leiaf, yn gamgymeriad ofnadwy, os nad oedd yn bechod arswydus.[1] Mae Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr yn cytuno i'w gondemnio. Addefodd Arglwydd Salisbury ei hun yn Nhy yr Arglwyddi amser yn ol, ein bod, trwy y rhyfel hwn, wedi rhoi ein harian ar y "wrong horse." Ond costiodd y camgymeriad hwn tua miliwn o fywydau dynol, a chan miliwn o bunnau i'r wlad hon yn unig. Taflodd gynnydd gwareiddiad flynyddau lawer yn ol, bu yn foddion i osod Twrci—y gallu mwyaf creulon a fu erioed—ar ei thraed, creodd deimlad drwg rhyngom â Rwsia, yr hyn, drachefn, a fu yn rhwystr i unrhyw un o'r galluoedd mawr ymyrryd yn achos y creulonderau a arferwyd tuag at yr Armeniaid yn y blynyddau diweddaf; arweiniodd, fel y profa Mr. Richard, i'r gwrthryfel yn India, ac y mae ei effeithiau niweidiol yn aros hyd y dydd hwn. Ac eto, ni fu erioed ryfel mwy poblogaidd. Yr oedd teimlad y wlad mor angherddol o'i blaid fel nad oedd modd ei wrthsefyll. Ychydig o amser cyn hynny gwaeddai y bobl am i ni osod y wlad mewn sefyllfa o ddiogelwch rhag y trahaus—ddyn Louis Napoleon; ond yn awr ymunent âg ef yn galonnog mewn rhyfel gwaedlyd yn erbyn Rwsia, a mawrygent ef gan ei alw "ein cynghreiriad dewr a theyrngarol." Llusgwyd y wlad i'r rhyfel hwn, yn ddiau, gan y Wasg, yr hon oedd yn porthi nwydau gwaedwyllt y bobl, ac fel march, a'r ffrwyn ar ei war, rhuthrodd ymlaen heb falio am y canlyniadau. Gwnaeth Mr. Cobden, Mr. Bright, a Mr. Richard eu goreu i atal rhywfaint ar y gwallgofrwydd, ond yr oedd fel llifeiriant yn ysgubo popeth o'i flaen. Gomeddwyd gwrando ar Mr. Sturge, hyd yn oed yn Birmingham, lle yr oedd, oherwydd ei garedigrwydd a'i haelioni mor boblogaidd cyn hynny. Llosgwyd gwawd-ddelw o John Bright ar yr heol yn Manchester, ac yn y diwedd collodd ef a Cobden eu seddau. Ond er hynny ni pheidiodd y gwŷr hyn a llefaru yn groew yn erbyn y rhyfel, a gwnaethant bob ymgais i wrthweithio y llifeiriant. Ond yr oedd y cwbl yn ofer. Fel y dwedai Cobden unwaith, yr oedd ceisio dadleu â John Bull, wedi unwaith i'r fagnel gyntaf gael ei thanio, yr un peth a cheisio ymresymu â chi cynddeiriog.

Pe gofynnid yn awr beth oedd gwir achos rhyfel y Crimea, byddai yn anhawdd ateb. Cododd y cweryl ar y dechreu rhwng Eglwys Rhufain ac Eglwys Groeg mewn perthynas i gael allweddau y "lleoedd santaidd" yn Jerusalem. Amddiffynnai Rwsia y naill, a Ffrainc y llall, ac ymyrrai Lloegr yn y cweryl, er mwyn dal i fyny "gyfanrwydd Twrci," ac i amddiffyn yr hyn y sonnid llawer am dano y pryd hwnnw, er mai ychydig a allai ddweud beth ydoedd, sef "mantoliad, neu gydbwysedd gallu."[2] Nid oedd y wlad yn gyffredinol yn deall llawer, ac yr oedd yn malio llai, am wir achos y cweryl. Yr hyn a deimlai hi oedd fod Rwsia yn Allu mawr gormesol, a'i bod yn helaethu ei therfynnau ar bob llaw. Cyhoeddid mapiau lliwiedig yn dangos hynny, ac nid oedd neb yn aros i ystyried fod y wlad hon wedi gwneud mwy na Rwsia bedair gwaith yn y cyfeiriad hwnnw yn yr un amser. Yr oedd Rwsia wedi llyncu Poland, wedi cymeryd rhan yng nghorchfygiad Hungari, ac yr oedd yn awr yn bygwth gormesu ar Twrci. Yr oedd pobl y wlad hon mewn cydymdeimlad dall â'r deyrnas a ystyriai yn wan, ac yn penderfynnu cymeryd ei phlaid. Ond y peth mwyaf gofidus oedd, fod y Wasg grefyddol a gweinidogion yr Efengyl, dynion fuont yn bleidiol i achos heddwch ychydig amser cyn hynny, megys Dr. Campbell, ac ereill, a lluaws yng Nghymru, fel mae gwaetha'r modd, wedi cael eu cymeryd ymaith gyda'r rhyferthwy.

Nid ein gorchwyl yma ydyw myned i mewn i fanylion y rhyfel ofnadwy hwn. Dywedasom fod Mr. Richard, ymysg ychydig ereill, wedi gwneud gwaith mawr yn ceisio gwrthweithio y llifeiriant. Do, fe wnaeth waith mwy o lawer nag oedd yn y golwg. Traddododd lawer iawn o areithiau, lle y caffai wrandawiad, ar hyd a lled y wlad; ond yr oedd ei lafur yn bennaf gyda'i ysgrifell. Pwy bynnag a garai wybod am y modd medrus yr oedd Mr. Richard yn gwrthwynebu y rhyfel, darllenned ei erthyglau campus yn yr Herald of Peace, yr areithiau a draddododd, a'r traethodau a ysgrifennodd, os gall gael gafael arnynt. Buom yn eu darllen drosodd drachefn yn ddiweddar, ac y mae y modd y mae Mr. Richard yn cyfarfod â phob dadl o blaid rhyfel—a rhyfel y Crimea yn arbennig—y modd y mae yn ateb ymresymiadau areithwyr Seneddol ac ereill, a hynny mewn iaith gref ond coeth, wedi ein taro â syndod ac edmygedd adnewyddol.

Ysgrifennodd Mr. Richard hanes y cweryl, wedi ei gymeryd allan o'r "Llyfrau Gleision," a lledaenwyd ei Draethawd wrth y miloedd gan y Gymdeithas Heddwch. Ceir yma hanes dechreuad yr helynt, ac i'r neb sydd yn awyddus i gael y gwir ar y cwestiwn nis gall wneud yn well na darllen y Traethawd hwnnw. Y mae yn ddiameu, am y nifer amlaf o lawer o bobl y dyddiau hyn, na wyddant nemawr am wir achos y cweryl, mwy nag y gwyddai yr hen Kasper beth oedd gwir achos rhyfel Blenheim. Gofynnai Wilhelmina iddo,—

"Now, tell us all about the war
And what they killed each other for ?"

Ond y cwbl a allai yr hen filwr ddweud, yn ol Southey, oedd,—

"It was the English," Kasper cried,
That put the French to rout,
But what they killed each other for
I could not well make out;


"But every body said," quoth he,
"That was a famous victory!"[3]

Ar ol bod yn rhyfela am ddwy flynedd llawn, ac i Brydain ei hun golli tros ugain mil o fywydau, pedwar o bob pump o honynt, nid ar faes y gwaed, ond yn yr yspytai, gwnaed Cytundeb Heddwch yn Paris, ym mis Mawrth, 1856. Ynglŷn â'r Cytundeb hwnnw, fe wnaeth Mr. Richard waith ag sydd yn haeddu cael ei groniclo yn lled fanwl, gwaith ag y mae un awdwr, nad yw yn ffafriol iawn i amcanion y Gymdeithas Heddwch, yn ei alw y "gwaith mwyaf Cristionogol a wnaeth y Gymdeithas erioed."

Tybiodd Mr. Richard fod y wlad wedi cael digon ar ryfela, ac y gallai fod yn amser ffafriol i geisio cael adran yn y Gytundeb Heddwch o blaid Cyflafareddiad yn y dyfodol. Dygodd sylw Pwyllgor Cymdeithas Heddwch at y mater, a ffurfiwyd dirprwyaeth gref a dylanwadol— ugain o honynt yn Aelodau Seneddol—ac aed â'r mater o flaen Arglwydd Palmerston, yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd. Cawsant dderbyniad digon oeraidd, fel y gallesid disgwyl gan y fath un. Ond nid oedd Mr. Richard yn un i'w ddigaloni gyda'r fath amcan clodwiw. Cynhygiai ar fod dirprwyaeth yn myned i Paris ac yn dwyn y mater o flaen teyrn-genhadon y gwahanol wledydd. Yr oedd rhai o'i gydweithwyr yn teimlo yn rhy lwfr i ymgymeryd â'r fath waith. Aeth Mr. Richard at ei hen gyfaill, Mr. Sturge, un oedd wedi anturio at Ymherawdwr Rwsia ei hunan gyda'i ddau gyfaill yn nechreu y rhyfel, a dywedodd y Crynwr dewr wrtho,—"Yr wyt yn iawn, Richard, os nad a neb arall gyda thi i Paris, mi af fi." Felly fu. Aethant i Paris, ac ymunwyd â hwynt yno gan Mr. Charles Hindley. Tynwyd allan ddeiseb at y gwahanol Alluoedd a gynrychiolid yn y Gynhadledd, a danfonwyd copiau o honynt at y teyrn-genhadon yn Paris. Cawsant dderbyniad gwell na’u disgwyliad. Ond yr anhawster oedd sut i osod y ddeiseb o flaen y Gynhadledd. Aethant at Arglwydd Clarendon. Derbyniodd hwynt yn foesgar—y tri chennad heddwch hyn—a dadleuasant eu hachos ger ei fron. Ceisiodd ef godi yr hen gwestiwn o anrhydedd cenedl a'r anhawster i gario allan yr hyn a geisid. Danghosai Mr. Richard mor fanteisiol fyddai fod cytundeb mewn bod i gyflwyno materion mewn dadl i gyflafareddwyr, cyn i nwydau pobl gael eu cyffroi, ac yn arbennig cyn i'r newyddiaduron gael cyfleustra i gythruddo y bobl. "Cododd Arglwydd Clarendon ei ysgwyddau," meddai Mr. Richard, wrth adrodd yr hanes, "taflodd ei ddwylaw allan, a chododd ei aeliau, yn dangos ei fod yn teimlo min y sylw, oblegid gwyddai y fath ddylanwad niweidiol a fu y newyddiaduron yn y rhyfel." O'r diwedd dywedodd,—"Mi wnaf fy ngoreu." A chwareu teg iddo, y mae yn ymddangos iddo wneud. Er nad oedd gan y tri wŷr hyn ond gobaith gwan y llwyddent yn eu hamcan, eto yr oedd yn dda ganddynt ddeall wedi hynny fod y Gynhadledd wedi pasio yr adran ganlynol,—

"Nid yw y teyrn-genhadon yn petruso datgan, yn enw eu gwahanol lywodraethau, y dymuniad ar fod teyrnasoedd, rhwng y rhai y gall camddealltwriaeth godi, cyn apelïo at arfau milwrol, yn gwneud defnydd, mor bell ag y bo amgylchiadau yn caniatau, o wasanaeth caredig ryw Allu cyfeillgar."

Nid oedd y penderfyniad hwn mor gryf ag y buasai cyfeillion Heddwch yn dymuno; ond yr oedd yn llawn mor gryf a'u disgwyliadau, a digon cryf i dynnu allan o'r hen Mr. Sturge lythyr diolchgar at Arglwydd Clarendon, am yr hyn a alwai ei Arglwyddiaeth "y newydd-beth hapus hwn," ac i beri i Mr. Gladstone ddweud yn y Senedd, ar ol hynny, ei fod yn "datgan math o anghymeradwyaeth o ryfel, ac yn dal i fyny uwchafiaeth rheswm, cyfiawnder, dyngarwch, a chrefydd." Gwnaeth Arglwydd Derby ac Arglwydd Malmesbury sylwadau i'r un perwyl; ac nid oes un amheuaeth fod cael fath adran mewn Cytundeb mor bwysig rhwng teyrnasoedd mawrion fel y rhai a gynrychiolid yn Paris, yn gam pwysig yng nghyfeiriad Cyflafareddiad, a'i fod hefyd yn adlewyrchu clod i lafur, ynni, a phenderfyniad Mr. Richard, yr hwn a fu yn offeryn i ddwyn hyn oddiamgylch. Mae'n wir nad yw y gwahanol Alluoedd wedi dangos nemawr o barodrwydd i gario allan yr adran bwysig hon, mwy na phenderfyniadau Cynhadledd yr Hague ar ol hynny, ond y mae yr Adran yn y Cytundeb er hynny, a bydd yn rhag-gynllun i gyfeirio ato yn y dyfodol.

(1857) Yn y flwyddyn 1857, torrodd rhyfel allan rhwng y wlad hon a China, ac, fel arferol, yr oedd yr achos dechreuol o hono yn un bychan iawn. Gwnaeth Mr. Richard, fel bob amser, ymchwiliad manwl i'r amgylchiadau oddiwrth y papurau Seneddol, a chafwyd mai fel hyn yr oedd pethau yn bod,—Yn Hydref, 1856, byrddiwyd a chymerwyd llong o'r enw Arrow gan yr awdurdodau Chineaidd. Yr oedd y Cadben yn Sais, a honnid mai llong Brydeinig ydoedd, gan ei bod yn chwifio baner y wlad hon. Ar unwaith y mae ein Consul ni yn Canton yn gofyn am i'r llong gael ei rhoi i fyny, onite y tan-belennid Canton ymben wyth awr a deugain. Profwyd wedi hynny mai math o forladron oedd y dwylaw arni, ac nad oedd ganddi un hawl i godi baner Lloegr. Mae Mr. Richard, mewn erthygl gadarn, yn dangos nad oedd y bygythiad ond esgus i geisio cael porthladd Canton yn un rhydd, a hynny, nid er mwyn masnach onest, ond masnach mewn opium yn groes i gyfraith China. Ymosodwyd ar Canton gan ein llongau rhyfel, llosgwyd y ddinas, a chollodd lluaws o wŷr, gwragedd, a phlant eu bywydau. Defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell i bwrpas, cyffrodd y wlad hon drwyddi, cymerwyd y mater i fyny gan y papurau, dygwyd ef ger bron Tŷ yr Arglwyddi gan Arglwydd Derby, a chan Mr. Cobden yn Nhŷ y Cyffredin, yr hwn a siaradodd am ddwy awr a hanner arno. Gwefreiddiwyd y Tŷ hefyd gan Mr. Gladstone ar yr un ochr. Wrth gwrs, yr oedd Arglwydd Palmerston, y Prif Weinidog, yn amddiffyn yr hyn a wnaed, ond ar raniad y Tŷ cafwyd mwyafrif o 16 yn ei erbyn. Datgorfforwyd y Senedd, ond—fel yn gyffredin, pan fydd nwydau dynion wedi codi o blaid yr hyn a elwir yn Wladweinyddiaeth Dramor benderfynnol—trodd y y wlad yn erbyn barn a chyfiawnder, a chafodd Arglwydd Palmerston fwyafrif o tua 30 o'i blaid. Collodd Cobden a Bright eu seddau. Prawf eto oedd hyn mai ofer ymresymu â gwlad o'i phwyll. Yr oedd y cri am anrhydedd y faner Brydeinig yn byddaru pob cri o blaid tegwch ac iawnder. Heblaw ysgrifau lawer ereill ar y mater, ysgrifennodd Mr. Richard erthygl i'r Morning Star, yn datgan ei ofid fod papurau a ystyrrid yn rhai crefyddol ymysg y rhai mwyaf aiddgar yn amddiffyn yr ymosodiad creulon a barbaraidd hwn ar Canton, pryd y dinistriwyd saith mil o dai, ac y gwnaed deng mil ar hugain yn ddigartref, heb son am y rhai a laddwyd. Amddiffyniad y papurau hyn ydoedd yr agorid drysau i'r Efengyl, ond gofynna Mr. Richard, gyda difrifwch, a ydyw y dynion hyn yn tybied y "derbynia y Chineaid y Beibl o'u dwylaw gyda mwy o lawenydd a diolchgarwch am ei fod wedi ei lychwino â gwaed eu hanwyliaid."

Tua'r amser yma y daeth Mr. Richard i gysylltiad â'r newyddiadur dyddiol, y Morning and Evening Star, yr hwn a gychwynwyd yn 1855. Yr oedd llawer o gyfeillion Heddwch yn tybied y dylesid cael newyddiadur a fyddai yn fwy rhyddfrydig, a llai rhyfelgar ac eglwysyddol na'r rhai a gyhoeddid ar y pryd ; a bu Mr. Sturge, gyda'i ddylanwad a'i bwrs, yn ymdrechgar iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Penodwyd Mr. Richard yn gydolygydd ag un Mr. Hamilton. Ysgrifennodd Mr. Cobden ato i ddatgan ei obaith y byddai ganddo arolygiaeth llawn ar yr erthyglau arweiniol yn y papur. Gweithiodd Mr. Richard yn egniol ynglŷn â'r papur, ac ysgrifennodd lawer iddo, canys, fel y dywed ef ei hun, yr oedd ei galon yn y gwaith. Ond cyn pen hir daeth y cwestiwn o elw i gymeryd lle moesoldeb i'r gofalaeth; methodd Mr. Richard a chadw yr arolygiaeth a ddisgwyliasai ar gynnwys y papur, ac er mwyn cadw ei gydwybod yn ddilychwin, rhoes i fyny ei gysylltiad ag ef. Nid dyma'r waith gyntaf, fel y profwyd gyda rhyfel y Crimea a rhyfel y Transvaal, a rhyfeloedd ereill o ran hynny, yr aberthwyd egwyddor ar allor elw. Bu y papur yn cael ei olygu ar ol hyn gan Mr. Justin McCarthy am bedair blynedd, ac wedi hynny gan Mr. John Morley, ac ymysg y gwŷr enwog a ysgrifennent iddo yr oedd Mr. Washington Wilks, awdwr The Half Century; Syr Edward Russell, golygydd presennol y Liverpool Daily Post; Syr John Gorrie; Mr. W. Black, y ffug-hanesydd enwog, ac ereill.

(1860) Ym mis Gorffennaf, 1860, dygodd Arglwydd Palmerston fesur i'r Tŷ o blaid cael gweithydd amddiffynnol o gwmpas y dockyards, a'r ystordai arfau, a phorthladdoedd Dover a Portland, ac yr oedd am wario un filiwn ar ddeg o bunnau arnynt. Cymerodd yn ei ben fod perygl y buasai Louis Napoleon yn ceisio glanio milwyr ar yr ynys hon. Yr oedd, meddai, mewn llythyr at Arglwydd John Russell, yn ei ddrwgdybio, er mai efe oedd y cyntaf i fyned allan o'i ffordd i'w dderbyn â breichiau agored pan, wedi hynny, y trawsfeddiannodd lywodraeth Ffrainc. Byddai Mr. Richard yn gwawdio yr "hen gri" hwn am ddisgyniad sydyn Ffrainc arnom, cri a godwyd lawer gwaith cyn, ac wedi hynny, a gwnaeth ei oreu i geisio ei wrthweithio. Areithiodd ac ysgrifennodd yn erbyn y cri ynfyd a disail. Galwodd sylw at y treuliadau anferth ar y fyddin a'r llynges, a bod y wlad, er hynny, byth a hefyd yn gwaeddi ei bod yn ddiamddiffyn; danghosodd mai cri ydoedd ag oedd wedi codi oddiwrth y swyddogion milwrol, ac mai mwy rhesymol o lawer fuasai defnyddio rhyw foddion i geisio gan wahanol Alluoedd Ewrob leihau, yn hytrach nag ychwanegu, eu harfau milwrol. Yr oedd ganddo sail i gredu, meddai, nad oedd y cyffro ond ymgais y blaid filwrol a'r diffyndollwyr i wrthweithio ymdrech Mr. Cobden i uno Ffrainc a Lloegr trwy y Cytundeb Masnachol yr ydoedd yn ceisio ei ddwyn oddiamgylch. Heblaw ysgrifennu fel hyn, traddododd Mr. Richard areithiau mhrif drefydd Lloegr ar y cwestiwn.

(1861) Yn Ebrill, 1861, aeth gyda Mr. Joseph Cooper, fel dirprwyaeth dros y Gymdeithas Heddwch, gydag anerchiad at bobl Ffrainc ar yr achos. Derbyniwyd y "cenhadon hedd" hyn yn groesawus yn Paris, ac argraffwyd yr anerchiad ym mhrif bapurau Ffrainc a gwledydd ereill y Cyfandir. Ymhen blwyddyn wedi hyn cynhaliwyd yr Arddanghosfa fawr yn Llundain; daeth y Ffrancod ac ereill drosodd, nid i oresgyn Prydain, ond i'r Arddangosfa Cymerodd Mr. Richard fantais ar yr achlysur i gyhoeddi anerchiadau i'r dieithriaid mewn gwahanol ieithoedd, gwahoddwyd hwynt i gyfarfod mawr, lle y cyflwynwyd anerchiad cyfeillgar iddynt, ac arwyddwyd yr anerchiad gan Mr. Joseph Pease, llywydd Cymdeithas Heddwch, a Mr. Richard, yr ysgrifennydd. Anogwyd hwynt i gyffroi eu gilydd i ffurfio barn gref o blaid lleihau nifer milwyr ac arfau milwrol eu gwahanol wledydd. Ar ol hyn traddododd Louis Napoleon araeth dra heddychol, a chynhygiodd ar fod Cynghrair Heddwch i gael ei gynnal yn Paris i osod Ewrob, os oedd modd, ar sail gadarnach nag erioed. Hyd yn oed yn y flwyddyn 1860, yng nghanol yr holl gyffroadau mewn perthynas i ymosodiad ar Loegr gan Louis Napoleon, ysgrifennodd yr Ymherawdwr hwnnw at gennad Ffrainc yn Llundain ar iddo ddweud wrth Arglwydd Palmerston mai ei amcan mawr oedd bod yn heddychol â'i gymdogion, ac yn enwedig Lloegr. Gallwn grybwyll yn y cysylltiad hwn fod yr Ymherawdwr yn 1863 wedi gwneud cynhygiad ffurfiol at wahanol benaduriaid Ewrob i alw Cynghrair rhyng-wladwriaethol yn Paris i'r diben o ystyried a phenderfynnu cwestiynau mewn dadl, a diogelu heddwch Ewrob. Cydsyniodd Rwsia a Phrwsia, Itali, Denmarc, Belgium, Yspaen, Sweden, Norway, Portugal, Groeg, a'r galluoedd ereill â'r cynhygiad. Ond, y mae yn ofidus dweud, y gwrthododd Lloegr, trwy law Arglwydd John Russell, yr Ysgrifennydd Tramor, ar y tir na fyddai dim grym y tu ol i benderfyniadau y Cynghrair i'w cario allan! Buasid yn meddwl y buasem yn cofleidio pob cynhygiad o'r fath. Ond yr oedd yn eglur nad oedd gennym ar y pryd ddim ffydd mewn nerth moesol. Dadleuodd Mr. Richard dros y cynhygiad yn gryf, a thynnodd allan anerchiad oddiwrth y Gymdeithas Heddwch at yr Ymherawdwr, yn yr hwn y dywedai, os llwyddai yn ei amcan o arwain Galluoedd Ewrob yn llwybrau cyflafareddiad a diarfogiad, yr enillai fwy o ogoniant nag y gallai byth ennill oddiwrth fuddugoliaethau milwrol. Danfonodd yr Ymherawdwr atebiad caredig yn ol, yn datgan cymeradwyaeth o'r syniadau yn yr anerchiad, a'i awydd am gadw heddwch yn Ewrob. Onid yw yn resyn, mewn difrif, na wnai penaduriaid Ewrob gydymgais mwy yn y cyfeiriad hwn yn lle yng nghyfeiriad buddugoliaethau milwrol? Ond i ddychwelyd, cymerodd Mr. Richard ran arbennig ac anibynnol yn helynt y rhyfel cartrefol yn America y flwyddyn hon (1861). Gwyr y rhan fwyaf o'n darllenwyr, yn ddiau, y modd yr arweiniwyd i'r rhyfel ofnadwy hwnnw. Bod etholiad Abraham Lincoln, yn 1860, wedi tynnu llinnell glir rhwng Gogledd a De Unol Dalaethau yr America, a bod y gaethfasnach wrth wraidd y drwg-deimlad rhyngddynt sydd eglur, er bod rhai cwestiynau masnachol yn eu gwahannu hefyd. Penderfynnodd y De ymwahannu, ac ar y 9fed o Ionawr taniwyd y belen gyntaf ganddi; ond penderfynnodd Lincoln na cheid torri yr Undeb, a phenderfynwyd ei gadw trwy nerth milwrol. Yr oedd Mr. Richard, er cymaint ei gasineb at y gaethfasnach, yn erbyn gwaith y Gogledd yn penderfynnu cadw yr Undeb trwy rym arfau. Dadleuai nad oedd yn iawn ceisio rhoddi un drwg i lawr trwy gyflawni drwg arall; a mwy, profai trwy dystiolaeth Lincoln a'r Gogleddwyr eu hunain mai nid diddymu caethwasiaeth oedd eu hamcan, ond cadw yr Undeb. Dadleuai Mr. Gladstone yn yr un modd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ddadleuent dros fyned i ryfel â'r De yn cashau y dyn du gymaint a'r Deheuwyr, os nad yn fwy. Gofidiai Mr. Richard fod cynifer o bleidwyr Heddwch yn America wedi ymollwng gyda'r llifeiriant rhyfelgar, ac ysgrifennodd lythyr maith atynt—caredig, ond cryf—yn dadleu yr holl gwestiwn. Ysgrifennodd un yn benodol at Mrs. H. B. Stowe, llythyr sydd yn dangos medr ymresymiadol tu hwnt i'r cyffredin, ond llythyr sydd yn llawn o gydymdeimlad âg ysbryd Mrs. Stowe er hynny. Hyd yn oed, a chaniatau fod gwŷr y Gogledd yn ymladd dros ddiddymiad caethwasiaeth—yr hyn nad oedd yn amcan uniongyrchol ganddynt—ac er fod y gyfundrefn honno yn un mor felldigedig, eto yr oedd Mr. Richard yn haeru fod rhyfel yr un mor felldigedig. "A ydyw yn bosibl," gofynnai, "y gallwn edrych gyda phleser ar ddynion yr ydym yn eu parchu gymaint, pan welwn hwynt, gyda breichiau agored, yn rhedeg i gofleidio drwg arall sydd yr un mor echryslon?" Yr oedd Mr. Richard yn pleidio gwaith y wlad hon yn edrych ar y De fel yn meddu hawliau cenedl, a'r rhyfel, o ganlyniad, fel rhyfel rhwng dwy genedl wahannol, a dadleuai, gyda nerth a dysgeidiaeth anghyffredin, yr un wedd ar y cwestiwn a Mr. Gladstone ac Arglwydd John Russell. Nid ydym am geisio penderfynnu y cwestiwn dyrus hwn, ond os darllennir ysgrifau Mr. Richard ar y mater, credwn y canfyddir fod yn haws eu hwtio na'u hateb.

Yng nghanol y cythrwfl ofnadwy rhwng y De a'r Gogledd, torrodd achos y Trent allan. Mae'n ymddangos fod y De wedi danfon dau Seneddwr, Mri. Sliddell a Mason, fel cenhadon i Loegr a Ffrainc. Pan yn y llong Brydeinig, y Trent, cymerwyd hwy i'r ddalfa gan y San Jacinto, llong yn perthyn i'r Gogledd, a chariwyd hwynt i Fort Warren. Yr oedd Lloegr ar ei thraed ar unwaith yn gofyn am eu rhyddhad neu ryfel. Danfonwyd milwyr i Canada, hyd yn oed cyn cael amser i gael atebiad mewn perthynas i ryddhad y ddau genad. Tra yr oedd yr ystorm o deimladau brwd fel hyn yn rhuo, cyhoeddodd Mr. Richard anerchiad at y gwahannol enwadau crefyddol i erfyn arnynt arfer eu dylanwad i "sefyll i fyny yng nghanol yr ystorm, ac yn enw eu Meistr Dwyfol, i geryddu y dygyfor ofnadwy o nwydau dynol." Yr oedd yr anerchiad hwn yn un cryf dros ben. Heblaw hynny, aeth Mr. Pease ac yntau yn genhadon at Arglwydd Palmerston i erfyn arno, os methid cytuno, i gyfeirio y mater i farn cyflafareddwyr. Yn ffodus, yn y cyfwng hwn, cyfryngodd Louis Napoleon yn ffafr Lloegr, a rhyddhawyd y ddau gennad.

Parhaodd y rhyfel rhwng y De a'r Gogledd, fel y gwyddis, am bedair blynedd. Daliai Mr. Richard o'r farn o hyd mai unig amcan y Gogledd oedd cadw yr Undeb. Dyfynnai eiriau y Llywydd Lincoln, yr hwn a ddywedai,—"Fy amcan uwchaf yn yr ymdrech ydyw cadw yr Undeb, ac nid i gadw na dinistrio y gaethfasnach. Pe gallwn gadw yr Undeb, heb ryddhau un caethwas, mi wnawn; a phe gallwn ei wneud trwy ryddhau yr holl gaethion, mi wnawn hynny hefyd. Yr hyn yr wyf yn ei wneud gyda golwg ar y gaethfasnach, yr wyf yn ei wneud i gadw yr Undeb, a'r hyn yr wyf yn ymatal rhag ei wneud, yr wyf yn ymatal er cadw yr Undeb."

Nid peth ysgafn oedd gan Mr. Richard wahaniaethu oddiwrth ei gyfeillion mynwesol, Mri Cobden a Bright, ar y modd y dylasai Prydain edrych ar sefyllfa y De a'r Gogledd yn eu perthynas â'r wlad hon, ond meddai ar ddigon o benderfyniad i lynnu wrth yr hyn a ystyriai yn egwyddor, hyd yn oed i wneud hynny. Pan ddaeth y Parch. Henry Ward Beecher drosodd i'r wlad hon i ddadleu achos y Gogledd, ac y datganodd ei benderfyniad i ymladd hyd y diwedd, costied a gostio, yr oedd Mr. Richard yn ddigon dewr i'w geryddu mewn iaith gref.

"Ymha le yn efengyl Duw" gofynnai, "y mae gennym warant i gefnogi dynion yn eu penderfyniad addefedig i ddinistrio pum miliwn o ddynion, oni ymostyugant i'w hewyllys hwy, neu gael eu dinistrio eu hunain yn yr ymdrech? Mae bod y rhai sydd yn proffesu eu hunain yn ddisgyblion i'r Hwn a ddaeth i'r byd, nid i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw, yn tybied eu bod yn gwasanaethu Duw wrth ymgymeryd â'r gwaith creulawn hwn, o'u hewyllys eu hunain, i ddal i fyny ffurf neilltuol o lywodraeth, neu—yr hyn sydd yn fwy gwrthun fyth—i hyrwyddo achos dyngarwch a Christionogaeth ar y ddaear, yn un o'r engreifftiau mwyaf hynod o hunan-dwyll, trwy yr hwn y mae duw y byd hwn yn dallu meddyliau dynion, ag a gofnodir yn hanes yr hil ddynol."

Beth bynnag a ddywedir am yr ymgyrch ofnadwy hwnnw, a'r modd y darfu i'r Gogledd gyhoeddi rhyddhad y caethion tua chanol y rhyfel, fel moddion goruchafiaeth, nid oes un amheuaeth na ddarfu i Mr. Richard ymlynnu yn bybyr wrth ei egwyddorion gwrth-ryfelgar; ac y mae llawer yn tybied y buasai moddion gwahanol, a llawer llai costus mewn arian a bywydau, a llawer llai dinistriol i foesau a gwareiddiad Cristionogol, wedi gwneud y gwaith yn llawer iawn mwy effeithiol. Nid yw fod Rhagluniaeth wedi dwyn da o'r ymgyrch yn profi ei fod yn un uniawn. Yn wir, y mae cryn nifer o wŷr doeth yn teimlo fod cwestiwn y dyn du yn yr America ymhell o fod wedi ei benderfynnu eto. Pa fodd bynnag, gadewch i ni droi i weled sut yr oedd Mr. Richard yn edrych arno ar derfyniad y rhyfel. Mae y brawddegau canlynol allan o adroddiad blynyddol y Gymdeithas Heddwch yn 1865, yn werth eu dyfynnu, gan eu bod yn eiriau Mr. Richard ei hun,—

"Boddhad anhraethadwy i ni ydyw fod y rhyfel cartrefol, dinistriol ac ofnadwy hwn, yn tynnu at ei ddiwedd. Nid oes dim dychymyg a all ddyfalu, dim iaith a all yn ddigonol draethu, paint y niwed a wnaeth i'r wlad honno i'r byd. Mae'n debyg nad oes dim llai na miliwn o wyr ieuainc wedi trengu cyn eu hamser, ac ym mhob ffurf o ing a phoen, trwy'r cleddyf, newyn, a haint. Ac am y gost, byddem yn sicr o fewn y marc pe dywedem fod, ar y ddwy ochr, fil o filiynnau o bunnau, wedi eu tyunu oddiwrth wasanaeth gwareiddiad i'w hafradu mewn celanedd a gwaed."

Ar ol nodi y dinistr ar eiddo, yr ing meddyliol mewn miloedd o deuluoedd trwy'r gweledydd, dylanwad niweidiol y rhyfel mewn ystyr foesol, dywed,—

"Y mae un ysmotyn disglaer, pa fodd bynnag, yn aros…Nid oes, mae'n wir, un canlyniad all gyfiawnhau defnyddio moddion anghyfreithlon, ond fe ellir caniatau, hyd yn oed i'r rhai hynny oeddent yn anghymeradwyo y rhyfel fwyaf, lawenhau oherwydd y ffaith, neu yr hyn a hyderant a fydd yn ffaith, mai un canlyniad fydd, derfydd y peth ffiaidd hwnnw, caethwasiaeth, o'r tir am byth. Credai y pwyllgor, fod moddion ereill, a mwy effeithiol, er, fe allai, nid mor gyflym, o ddwyn hyn oddiamgylch. Byddai dweud nad oes un modd i ddymchwel drygioni, ond yr un y mae Cristionogaeth yn ei gondemnio, yn wadiad ymarferol o'i effeithioldeb. Yr ydys yn llawenhau, er hynny, fod y caeth i gael ei wneud yn rhydd; ond buasai y llawenydd yn fwy pe buasai llawryf buddugoliaeth am y waredigaeth fawr hon yn cael ei osod ar ben Brenin Heddwch yn lle ar ben

"Moloch, horrid King! besmeared with blood,"

i ychwanegu at ei ogoniant, ac estyn ei lywodraeth anifeilaidd ar feddyliau a chalonnau plant dynion."

(1863) Gwnaeth Mr. Richard ei oreu gyda chyfeillion Heddwch i rwystro ein rhyfel diangenrhaid â Japan. Yr oedd llynges Prydain yn myned ymlaen i fynnu iawn am ryw ymosodiad a wnaed ar Saeson yn Yokohama; ac ar y 14eg o Awst, 1863, tan-belennwyd Kagosima, gyda'i phoblogaeth o 180,000, a llosgwyd yr holl dref mewn ychydig iawn o amser. Nid rhyfedd i Mr. Cobden, wrth ddesgrifio yr hafog ofnadwy, ofyn pa drosedd oedd y trueiniaid hyn wedi ei gyflawni i alw am y fath ymosodiad creulon. Mewn canlyniad i ymdrechion y Gymdeithas Heddwch, trwy ei hysgrifennydd, yn gosod y mater ger bron, a llafur eu cyfeillion, llwyddwyd i gael gan Arglwydd Clarendon ddanfon at y prif-lyngeswyr nad oeddent o hyn allan i ymgymeryd â than-belennu trefydd heb ganiatad! Mor dyner y cerydd am y fath gamwri ofnadwy!

(1864) Yn nechreu 1864 gwnaeth Mr. Richard a phlaid Heddwch waith da, yn ceisio atal Prydain rhag ymyryd i wneud rhyfel yn erbyn Prwsia ac Awstria ar ran Denmarc; Heb fyned i mewn i achos yr helynt, digon yw dweud fod Arglwydd John Russell ac Arglwydd Palmerston yn awyddus i roddi eu bys yn y cawl hwnnw, ond arferodd Mr. Cobden yn y Tŷ, a Mr. Richard y tu allan iddo, bob moddion a allent i wrthweithio yr ymyriad. Yr oedd Prydain yn dibynnu hefyd i fesur ar yr hyn a wnai Ffraingc, a darfu iddi hi, ar y diwedd, betruso; a thrwy y cyfan, llwyddwyd i atal y gyflafan ofnadwy a fuasai yn canlyn y fath ymyriad annoeth, ac i roddi un esiampl arall o'r hen athrawiaeth ryddfrydig o beidio ymyryd â chwerylon gwledydd tramor.

Pan dorrodd gwrthryfel allan yn Poland, yn y flwyddyn 1864, yr oedd Mr. Richard yr un mor wrthwynebol i ymyryd y pryd hwnnw, nid yn unig oddiar egwyddorion heddwch, ond am ei fod yn credu nad oedd y blaid wrthryfelgar yn codi i amddiffyn rhyddid, ac mai y dosbarth pendefigaidd oedd yn llawn o ddallbleidiaeth Babaidd. Danghosodd ynfydrwydd y fath ymyriad, er fod rhai yn dadleu fod gennym hawl i wneud hynny yn ol hen gytundeb Vienna!

Ebai y Manchester Examiner and Times y pryd hwnnw,—"Y nefoedd fawr a'n gwaredo rhag cael ein gorfodi i ymladd dros bob hawl sydd gennym. Mae gan bob teithiwr hawl i ochr dde y ffordd, ond byddai yn ddoeth i ddyn gwan, teneu, beidio mynnu ei hawl yn erbyn cawr o lafurwr ymladdgar."

Yr oedd Mr. Richard yn gyfaill calon, fel y gwelwyd, i'r hen Grynwr dewr a haelfrydig, Joseph Sturge o Birmingham, gŵr yr oedd ei enw yn hysbys trwy yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Nid oedd un symudiad dyngarol na diwygiadol heb fod Mr. Sturge yn barod i'w gynhorthwyo â'i arian ac â'i lafur personol. Pan fu Mr. Sturge farw, dymunai y teulu i Mr. Richard ysgrifennu Cofiant iddo. Nis gallai nacau, er fod ei ddwylaw yn llawn o waith eisoes. Nid oedd un cyfaill mwy haelionnus at y Gymdeithas Heddwch na Mr. Sturge, nac un a wnaeth fwy drosti. Ymgymerodd Mr. Richard, gan hynny, a'r gwaith o ysgrifennu ei Fywgraffiad. Bu farw Mr. Sturge yn 1859, ond oherwydd nad oedd gan Mr. Richard ond ei oriau hamddenol, megys, i ysgrifennu y bywgraffiad, ni chyhoeddwyd ef hyd 1864. Yr oedd y llafur yn fawr iawn. Mae y gyfrol yn un fawr, drwchus, o 622 o dudalennau. Mae darllen y llyfr hwn, a syllu ar wynebpryd hardd yr hen wron yn ei ddechreu—yr hwn, ynddo ei hun, sydd yn fath o ysbrydoliaeth i'r neb a'i gwelodd—a nodi arddull brydferth a choeth Mr. Richard o ysgrifennu, a'r syniadau goruchel a chrefyddol sydd yn gymhlethedig â'r cyfan trwy yr holl gyfrol, yn gadael argraff ddofn a daionus ar bob meddwl ystyriol. Ac nid oes dim yn yr holl gyfrol yn fwy hynod na'r gwyleidd-dra gyda pha un y mae Mr. Richard yn gallu anghofio ei hun yn y Cofiant, a hynny pan yn croniclo digwyddiadau y rhai yr oedd ganddo ef law mwy arbennig ynddynt nag oedd gan Mr. Sturge ei hun.

Fel y gwyddys, yr oedd Mr. Richard hefyd yn gyfaill mynwesol i Mr. Cobden a Mr. Bright. Iddo ef yr ydys i fesur yn ddyledus am y cysylltiad agos rhwng y ddau wr enwog hyn a'r Gynhadledd Heddwch.

Yr oedd gwybodaeth hanesyddol Mr. Richard mor fawr, a'i gydnabyddiaeth helaeth, fel y dywedwyd, â'r "Llyfrau Gleision" a gyhoeddid mewn perthynas i ryfeloedd Prydain, yn ei wneud yn wasanaethgar iawn i'r ddau wleidyddwr enwog pan mewn angen cyfnerthu eu hareithiau â ffeithiau o'r fath. Tua diwedd 1868, gwahoddwyd Mr. Richard i dreulio rhai dyddiau gyda Mr. Cobden yn ei dŷ yn Midhurst. Buasai yn ddifyr myned dros yr hanes fel y mae i'w gael yn nyddlyfr Mr. Richard, ei ymddiddanion a Mr. Cobden am Mr. Gladstone a Mr. Bright, y pwnc o heddwch, a phynciau gwladwriaethol yn gyffredinol, ond rhaid myned heibio. Nis gallwn eu talfyrru heb wneud cam â hwynt.

(1865) Pan fu farw Mr. Cobden yn 1865, gofynnodd ei weddw i Mr. Richard ysgrifennu Bywgraffiad iddo, yr hyn sydd yn dangos y parch oedd ganddi iddo, a'r ymddiried llwyr a feddai yn ei alluoedd, a'i gymhwysder i gyflawni gwaith mor bwysig. Pan ar ymweliad a Switzerland, ac yn ei unigrwydd tawel, dechreuodd Mr. Richard drefnu llythyrau Mr. Cobden ar gyfer y Bywgraffiad; ac yr oedd ei ddyddordeb ynddynt yn fawr iawn. Ond yr oedd ei orchwylion mor lluosog fel y methodd ag ymgymeryd a chwblhau y gwaith, ac yn y diwedd cyflwynwyd ef i ofal Mr. John Morley, yr hwn, fel y gwyr ein darllenwyr, a ysgrifennodd ddwy gyfrol o Fywgraffiad i'r Rhyddfrydwr hyglod hwn. Ond er nad ysgrifennodd Dr. Richard Gofiant Mr. Cobden yn gyfrolau, ysgrifennodd erthygl gampus arno i'r Enclyclopædia Britannica, ac y mae ei darllen, medd un awdwr, braidd yn peri i ni ofidio na fuasai wedi gwneud y gwaith a ymddiriedwyd i Mr. Morley, er cystal ydyw y Cofiant hwnnw.

Mae yn demtasiwn i ni yn y fan hon i roddi geiriau Mr. Richard yn y Gynhadledd Heddwch a gynhaliwyd yn Newcastle-on-Tyne yn 1865, mewn cyfeiriad at Mr. Cobden.

"Dydd Gwener diweddaf," meddai, "sefais uwchben bedd Mr. Cobden, ac i gyfaddef fy ngwendid wrthych, pan yn edrych i'r gell, a gweled yr arch yno, a galw i gof mor hir y bu y dyn hwnnw yn dir o gadernid i mi, ar yr hwn y gallwn bwyso bob amser; ei ddoethineb mewn cyngor, a'i wroldeb anbyblig mewn gweithredoedd, tuedd gyntaf fy ngwendid oedd penderfynnu mai gwell fyddai i mi encilio oddiwrth bob rhan o lafur cyhoeddus, a rhoi y cyfan i fyny mewn anobaith a digalondid. Ychydig o fisoedd yn ol, yr oeddwn wedi bod yn cydgerdded ag ef ar hyd yr un ffordd ag yr aeth yr orymdaith angladdol ddydd Gwener, a gallwn gofio y sylwadau a wnai ar fannau neilltuol o'r ffordd; a'm teimlad, fel y dywedais, oedd, ar ol colli y fath golofn o nerth, i roddi popeth i fyny, Ond fy ail feddwl oedd, mai nid dyna'r wers yr oedd bywyd ac esiampl Mr. Cobden wedi eu dysgu i'w gyfeillion ar ei ol; y dyn hwnnw, yr hwn, bum mlynedd ar hugain yn ol, a gododd ei lais ymysg ei genedl o blaid masnach rydd a heddwch rhwng cenhedloedd, a'r hwn a barhaodd hyd ddydd olaf ei fywyd yn ffyddlon a di-ildio i ymlynnu wrth egwyddorion ei ddyddiau boreuol. Ai iawn, gan hynny, oedd i mi gilio oddiwrth y gwaith a roddasai Rhagluniaeth i mi i'w gyflawni? Na, fel Cadfridog Carthaginia, yr hwn gymerodd ei fachgen at yr allor i dyngu gelyniaeth anghymodlawn yn erbyn Rhufain, felly y teimlais innau yn barod, wrth sefyll ar lan bedd fy nghyfaill, cyfeillgarwch yr hwn am bymtheng mlynedd oedd fy rhagorfraint a’m hymffrost, i gymeryd llw o ffyddlondeb i achos Heddwch, achos yr oedd efe wedi gwneud mwy drosto nag un dyn yn ei amser; a phe buasai yn fy ngallu, cymeraswn gannoedd o wŷr ieuainc Lloegr yno, ac uwchben bedd y gŵr heddychlawn hwn, tyngaswn hwy i gyffelyb ffyddlondeb diymarbed i'r un achos."

Pe cymerasai Mr. Richard ei ddigaloni wrth weled ei gyfaill, Mr. Cobden, yn cwympo wrth ei ochr, dios y buasai gwedd dra gwahanol ar achos Heddwch yn awr. Ond nid felly y bu. Neidiodd i'r adwy, ac ymladdodd hyd angeu, a gwnaeth wrhydri digyffelyb. Coded y nefoedd luaws eto o wŷr ieuainc yng Nghymru o'r un ysbryd dewr a Mr. Cobden a Mr. Richard, rhai a benderfynant ymladd yn erbyn y gelyn Rhyfel, yr hwn a wnaeth gymaint i anrheithio gwledydd y ddaear. Collodd Prydain yn unig yn y rhyfel diweddaf yn Affrica 22,450 trwy farwolaeth, clwyfwyd 22,829, a danfonwyd 75,430 adref wedi colli eu hiechyd! Onid yw ffeithiau noeth fel hyn yn ddigon i'w symbylu? A chofier mai nid y bywydau a gollir, a'r arian a dreulir, ydyw drygau penaf rhyfel. Mae y drygau ereill yn annisgrifiadwy.

Nodiadau golygu

  1. Dwedai Mr. Bright, unwaith, y dylid dodi y llythyren a yn y gair Crimea yn ei ddechreu, a'i alw a Crime.
  2. Yr oedd rhyw ddylanwad swyngyfareddol gan y geiriau hyn ar y bobl yn gyffredin, fel yr oedd i'r geiriau suzerainty a paramountcy yn nechreu rhyfel Deheudir Affrica.
  3. Hwyrach y caniateir i ni mewn nodiad fel hyn ddweud nad oes dim yn rhoddi mwy o bleser i ni yn awr yu ein hen ddyddiau na’n bod wedi gwneud a allem, pan yn ysgrifennu i'r Amserau ar y pryd i ddadleu yn erbyn y rhyfel ynfyd hwnnw. Dyna'r pryd y daethom i adnabyddiaeth personol a Mr. Richard, ac y cawsom y pleser o ysgwyd llaw â'r hen wron, Joseph Sturge o Birmirgham.—Gwel Y Traethodydd am 1896, t.d. 139.