Bywyd a Gwaith Henry Richard AS/Pennod VI

Pennod V Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts

Pennod VII


PENNOD VI

Mr. Richard yn ceisio deffro Etholwyr Cymru,—Llythyrau a Thraethodau ar Gymru—Ei etholiad yn Aelod Seneddol—Ei Briodas.


(1862) Yn ystod yr holl amser hwn yr oedd Cymru a'i helyntion yn agos iawn at galon Mr. Richard. Parod ydoedd unrhyw amser i ymffrostio ei fod yn Gymro. Ymwelai â rhyw barth o'r Dywysogaeth yn fynych. Ym mis Medi, 1862, aeth ef a Mr. Edward Miall, a Mr J. Carvell Williams—tri o ddewrion Anghydffurfiaeth—i Abertawe, ar ran Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Cynhaliwyd Cynhadledd, yn yr hon yr oedd tua dau gant o wŷr cyfrifol Yr oedd y Gynhadledd yn un bwysig, yn gymaint ag y pasiwyd penderfyniad mewn cyfarfod mawr cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Richards, yn datgan nad oedd Anghydffurfiaeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn deg yn y Senedd, a dygwyd ffeithiau amlwg i ddangos hynny. Nid oedd ond 16 allan o 32 o'r aelodau Cymreig wedi pleidleisio dros ddiddymiad y Dreth Eglwys, a dim ond dau wedi pleidleisio dros ddadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig. Ac eto, yn ol cyfrifeb 1851, yr oedd 79 allan o bob 100 o'r Cymry yn Anghydffurfwyr. Gwnaeth Mr. Richard apêl yn y cyfarfod ar fod i'r Cymry ddod i deimlo eu rhwymedigaethau gwladwriaethol.

"Yr oeddent," meddai, "wedi gwneud gwaith ardderchog yn y gorffennol yn efengyleiddiad y wlad—y gwaith pwysicaf yn gyntaf—ond yr oedd ganddynt ddyledswyddau gwladwriaethol i'w cyflawni, a dylent godi o ddifrif atynt. Dylent fyned i gyfarfodydd y plwyf i wrthwynebu y Dreth Eglwys, a dylent ofalu ar fod eu henwau ar restr yr etholwyr, fel y gellid danfon dynion cymhwys i'w cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd amser carcharu a dirwyo am fod yn Anghydffurfwyr drosodd; ond yr oedd, er hynny, demtasiynau i'w gwrthsefyll, ac aberthau i'w gwneud yn yr oes hon. A oeddem (gofynnai) yn barod i wrthsefyll yr hudoliaethau cymdeithasol hynny, y rhai, trwy wennau a geiriau teg, a ddefnyddid er ceisio gennym liniaru rhyw gymaint ar ein hegwyddorion? A oeddem yn barod i gyfarfod gwg y Pendefig hwn neu y Bendefiges Haelionus arall? A oeddem yn barod i gymeryd ein troi allan o'n ffermydd yn hytrach nag aberthu ein hegwyddorion? A oeddem yn penderfynnu, er pob perygl, na chaffai Cymru ei cham-gynrychioli yn Nhŷ y Cyffredin?"

Ar ol rhai sylwadau cryfion ereill, gofynnai,— "Pam na wnewch chwi ethol dynion o'r eiddoch eich hunain, y rhai a allent siarad drosoch yn Nhŷ y Cyffredin?" Pan gofiom fod Adroddiad o'r Gynhadledd hon wedi ei hargraffu a'i gwasgaru trwy y Dywysogaeth, ac wrth ddarllen drachefn apêl ddifrifol Mr. Richard, y mae yn amhosibl llai na chydnabod fod y geiriau hyn wedi dwyn ffrwyth sydd i'w weled yn amlwg yn sefyllfa ein cynrychiolaeth Seneddol yn y dyddiau hyn; ac yn yr ysbryd pybyr a amlygwyd gan luaws o ffermwyr, y rhai a erlidwyd mor greulon, ar ol hyn, am sefyll dros eu hegwyddorion wrth yr Etholfa. Ac y mae Cymru, ar y cyfan, wedi parhau yn ffyddlon i wneud hynny hyd yn awr. Cafodd Mr. Richard ei hun ei ddanfon i'r Senedd ar ol hynny—yr "Aelod dros Gymru," fel y gelwid ef—a gwelwyd gan Gymru 28 o wir gynrychiolwyr ei hegwyddorion arbennig. Dyma ddechreuad "codi'r hen wlad yn ei hol" mewn gwirionedd.

Mae yn anhawdd i'r rhai sydd yn ieuainc feddu syniad am yr anwybodaeth oedd ymysg y Saeson am y Cymry a'u hynodion, a'r cam ddarluniadau o honynt a ymddanghosai yn y papurau, o bryd i bryd, flynyddau yn ol. Derbynnid Adroddiadau y Dirprwywyr fel gwirionedd gan ryw rai, er mor lwyr oedd yr atebion i'r cyhuddiadau a ddygid yn ein herbyn. Yr oeddem, meddent, yn baldordd iaith aflafar nad oedd modd ei siarad heb beryglu y peiriant llafar; ac y mae rhyw syniad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon y Sais fod pawb nad yw yn gallu siarad Saesneg yn hanner barbariaid.

(1866) Yr oedd teimlad gwladgarol Mr. Richard mor gryf ynddo fel y penderfynnodd wrthweithio y syniad cyfeiliornus hwn am danom fel cenedl, ac, yn 1866, ysgrifennodd gyfres o lythyrau ar sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y Cymry i'r Morning and Evening Star. Ysgrifenwyd y llythyr cyntaf ym mis Chwefrol, a'r olaf ym mis Mai. Tynasant sylw ar unwaith. Dyfynwyd o honynt i wahanol bapurau, cyfieithwyd hwynt i'r papurau Cymraeg, pasiwyd penderfyniadau gan y gwahanol gyfundebau Cymreig yn diolch i Mr. Richard am danynt, a buont yn agoriad llygad i luaws o Saeson diragfarn, a chodwyd cymeriad y Cymry raddau lawer yn uwch yng ngolwg y deyrnas mewn canlyniad i'w hymddanghosiad. Ymysg y cyfryw yr oedd yr enwog Mr. W. E. Gladstone ei hun. Yn Eisteddfod y Wyddgrug, yn 1873, dygodd Mr. Gladstone y dystiolaeth a ganlyn i'r effaith a gawsant arno ef,—

"Yr wyf," meddai, "yn cyfaddef yn onest i chwi fy mod, amser yn ol, a chyn i mi ymgydnabyddu â'r mater, wedi cyfranogi o'r rhagfarnau oeddent yn ffynnu i fesur yn Lloegr, ac ymysg y Saeson, mewn perthynas i iaith a hanesiaeth henafol y Cymry; ac yr wyf wedi dod yma i ddweud i chwi paham a pha fodd yr wyf wedi newid fy marn. Nid yw ond teg i mi ddweud mai cydwladwr i chwi, Cymro tra rhagorol, sef Mr. Richard, A.S., a wnaeth gryn lawer i agor fy llygaid i wir seyllfa y ffeithiau, trwy gyfres o lythyrau, y rhai, flynyddau yn ol, a ymddangosasant mewn newyddiadur boreuol, a'r rhai, wedi hynny, a gyhoeddwyd mewn cyfrol fechan, yr hon yr wyf yn ei hargymhell i sylw pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn y mater."

Yn 1884, daeth argraffiad newydd allan o'r Gyfrol hon, ac ychwanegwyd yn ei diwedd rai Traethodau ar yr un mater. Yr oedd y Llythyrau a'r Traethodau wedi eu hysgrifennu mewn iaith goeth a chlir, fel y medrai Mr. Richard wneud, ac eto mewn iaith gref a phendant, ac weithiau gyda chryn dipyn o watwareg; ond bob amser yn llawn o ffeithiau cadarn a diysgog yn cael eu gwasgu adref gyda nerth anwrthwynebol. Mae yr holl gopiau o'r llyfr bellach wedi eu gwerthu, ac y mae yn anhawdd cyfarfod â chopi yn un man. Gresyn nad ail argreffid y llyfr, fel y gwelo Cymry y dyddiau hyn mor rwymedig ydynt i Mr. Richard am eu hamddiffyn mor effeithiol pan oedd gwir angen am hynny. Nid yw gofod yn caniatau i ni roddi dyfyniadau helaeth o'r llythyrau meistrolgar hyn, ond nis gallwn ymatal rhag ceisio rhoi crynodeb o'u cynhwysiad. Credwn y bydd hynny yn well na phigo darnau anghysylltiol yma ac acw fel esiamplau.

Yn y llythyr cyntaf cawn hanes sefyllfa foesol a chrefyddol Cymru yn yr amser a fu. Datgennir yn groew mai cenedl o Ymneillduwyr ydyw y Cymry, a rhydd Mr. Richard yr hanes pa fodd y daethant i fod felly. Yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi cael y maes bron yn gwbl iddi ei hun. Ond sut y darfu iddi drin y maes? Rhoddir dyfyniadau o lyfrau yr Eglwyswyr eu hunain i ddangos y cyflwr isel, o ran gwybodaeth a moes, yr oedd y Cymry wedi syrthio iddo o dan eu dwylaw. Dengys yn yr ail lythyr fod yr Eglwys, nid yn unig wedi esgeuluso ei dyledswydd, ond fod ei chlerigwyr wedi gwrthweithio pob ymgais ar ran ereill i wella sefyllfa pethau. Felly y gwnaethant gyda'r Puritaniaid, yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid. Dygir ymlaen brofion diymwad o hyn, sef o erledigaethau y clerigwyr, profion nad oes un Cymro darllengar heb wybod am danynt, er na wyr y Saeson nemawr am y pethau hyn yn ein hanes. Ie, dywed Mr. Richard nad ydoedd yr ysbryd erlidgar wedi llwyr ddarfod eto, ond ei fod yn cymeryd ffurf arall; a noda engraifft o wraig foneddig, rhyw ddeng mlynedd cyn hynny, yn troi tenantiaid allan o'u ffermydd am nad oeddent yn Eglwyswyr. Ac eto, y mae clerigwyr yn awr, meddai, yn galaru na wnai y Cymry ddychwelyd yn ol i "fynwes eu mam ysbrydol!" Na, ni fu yr Eglwys erioed yn ddim amgen na llysfam i'r Cymry. O'u hanfodd y gadawodd y Methodistiaid yr Eglwys ar y dechreu, ond bellach y maent yn Anghydffurfwyr egwyddorol a phenderfynnol.

Yn y trydydd llythyr y mae Mr. Richard yn myned i mewn i'r cwestiwn o gryfder cymhariaethol yr Eglwys ac Anghydffurfiaeth. Gwyddai y Cymry yn burion sut yr oedd pethau yn bod, ond ceisiai y clerigwyr, yn y papurau Seisnig, argyhoeddi y Saeson anwybodus mai yr Eglwys oedd gryfaf. Mae Mr. Richard, yn y llythyr hwn, yn profi trwy ystadegau diymwad nad oedd nerth cyfartal yr Eglwys i Ymneilltuaeth ond megis 21 i 79; mai nid yr Eglwys Sefydledig oedd gwir Eglwys Cymru, ac oni buasai am lafur yr Ymneillduwyr y buasai mewn cyflwr truenus, neu, yng ngeiriau y Parch. William Howells, o Long Acre, y gallasai y diafol honni mai ei blwyf ef oedd Cymru. Yr oedd yr Ymneillduwyr wedi gorchuddio y Dywysogaeth â 3,000 o Addoldai. A pha fodd y dygwyd hynny oddiamgylch? Mae Mr. Richard yn ateb y cwestiwn, mai trwy ddylanwad gallu anghydmarol y pulpud Cymreig, trwy y Cyfarfodydd Eglwysig—y "Seiadau"—a dylanwad yr Ysgol Sul. Mae'r teyrnged o barch a delir gan Mr. Richard i ddylanwad pregethwyr Cymru yn werthfawr iawn. Mae yn cyfaddef y gall fod ei dystiolaeth ef yn orffafriol, ond dywed, ar ol caniatau popeth o'r fath, mai ei farn ef ydoedd fod y pregethwyr a glywsai efe yn ei ddyddiau boreuol yn "feistriaid anghydmarol mewn hyawdledd pregethwrol," ac ychwanegai, megis rhwng cromfachau, nad oedd eu rhywogaeth wedi darfod eto. Er gwrando, meddai, ar rai o wŷr pennaf y pulpud Seisnig, nid oedd yn credu eu bod yn dod yn agos at y gwŷr a enwai mewn gallu i ddeffro, ysgogi, a lleddfu cynulleidfa boblogaidd. Mae ei ddesgrifiad o'r pregethwyr Cymreig yn rhagorol, ac y mae yn hawdd deall y buasai ei ddarllen, gan un fel Mr. Gladstone, a dynion cyffelyb, ac wedi ei ysgrifennu gan un o allu a barn bwyllog Mr. Richard, yn meddu dylanwad mawr ar eu meddyliau yn ffafr pregethwyr Cymru. Mae ei ddesgrifiad hefyd o ddylanwad daionus y Seiadau Cymreig a'r Ysgol Sul yn dra effeithiol.

Yn ei pumed lythyr y mae yn trin sefyllfa ddeallol y Cymry fel canlyniad y llafur hwn ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed nas gŵyr am well danghosiad o sefyllfa ddeallol y Cymry na'r llenyddiaeth a ddefnyddiant. Yr oedd y syniad mwyaf ynfyd yn ffynnu ymysg y Saeson am lenyddiaeth Gymraeg y Dywysogaeth. Prin y credent fod gan y Cymry lenyddiaeth o gwbl. Dengys Mr. Richard fod y pryd hwnnw 25 o fisolion ac wyth o wythnosolion yn yr iaith Gymraeg, a'u cylchrediad yn 120,000 o gopiau. Nodai yr Esboniadau a'r llyfrau ereill a ddeuent allan o'r Wasg yn ein hiaith, a'r llyfrau cerddorol a barddonol; a dengys, trwy gyfrifon manwl, fod y Cymry yn tra rhagori ar y Saeson, o'r un dosbarth, yn nifer y llyfrau buddiol a ddarllennent.

Mae dylanwad daionus yr Eisteddfod hefyd yn cael ei drin yn y chweched llythyr. Yr oedd Matthew Arnold wedi dweud mai "math o gyfarfod Olympaidd oedd yr Eisteddfod;" ac yr oedd y ffaith fod y Cymry yn cymeryd dyddordeb ynddynt yn profi fod rhywbeth Groegaidd yn eu cyfansoddiad.

Ond yr hyn y ceisid cyhuddo y Cymry yn rhy fynych o hono oedd eu hanfoesoldeb, ac y mae Mr. Richard, yn ei seithfed lythyr, yn chwalu y cyhuddiad hwn i'r pedwar gwynt. Dengys eu bod yn fwy rhydd oddi wrth droseddau o bob math na'r Saeson; dwg dystiolaethau a ffigyrau di-os i brofi ei fater, ac, yn ei wythfed lythyr, y mae yn myned i mewn yn fanwl i'r cwestiwn o aniweirdeb Cymru, a phrofa ei bod yn sefyll yn is, o gryn dipyn, na chyfartaledd Lloegr, hyd yn oed yn y peth hwnnw ag y mae y Saeson wedi bod, ac ydynt eto, yn rhy barod i daflu i'n gwynebau. Dywed, gydag effaith arbennig, mai arf beryglus i'w harfer ydyw y cyhuddiad yn erbyn Ymneillduaeth Cymru fod aniweirdeb yn ffynnu yn fawr yn eu mysg; oblegid, dengys, os ydyw yn ffaith fod 6-9 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn yn profi fod dysgeidiaeth yr Ymneillduwyr yn cynhyrchu anfoesoldeb, yna y mae y ffaith fod yn Cumberland, lle y mae yr Eglwys fwyaf blodeuog, 12 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn, yn profi fod dysgeidiaeth yr Eglwys gymaint arall yn fwy anfoesol.

Cymerir y nawfed llythyr i fyny i drin y cwestiwn o haelioni y Cymry. Yn y mater hwn y mae Cymru Ymneillduol yn sefyll yn uchel iawn. Yr oeddent wedi codi 3,000 o Addoldai, ac os rhoddid dim ond 500p. fel cost pob un, yr oedd yn dod i fwy na miliwn a hanner o bunnau. Cyfrifai fod yr Ymneillduwyr yn cyfrannu at draul eu Capelau, ac achosion ereill; ddim llai na 300,000p. yn y flwyddyn. A dylid cofio fod y boneddwyr cyfoethog, oll o'r bron, yn Eglwyswyr. Mewn gwirionedd, yr oedd yr Ymneillduwyr cymharol dlawd yn cyfrannu yn wirfoddol yn agos gymaint ag yr oedd holl gyllidau yr Eglwys Wladol yn ei osod arnynt trwy orfodaeth; er nad oeddent yn dewis mynychu ei gwasanaeth. Yr oedd eu cyfraniadau at y Feibl Gymdeithas, yn ol yr herwydd, yn fwy nag mewn un rhan arall o'r deyrnas. Yr oeddent yn cynnal Cenhadaethau Tramor hefyd, ac yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd Genhadaethau Tramor o'r eiddynt eu hunain. Buasai yn dda gennym allu dwyn sylw at y rhan o'r llythyr hwn sydd yn dwyn cysylltiad âg Ysgolion Dyddiol Cymru, a'r anhegwch dybryd fod awydd aniwall y bobl am addysg i'w plant yn eu gorfodi i'w danfon i ysgolion lle y mae egwyddorion cyfeiliornus, yn ol eu tyb hwy, yn cael eu dysgu i'w plant ynddynt, am nad oedd ysgolion ereill i'w cael yn eu cymdogaeth. O ran hynny, fe wyr ein darllenwyr yn dda am y camwri hwn; ond fe ddylid cofio fod Mr. Richard wedi ei ddynoethi yngwydd y Saeson mewn modd clir, ac mewn iaith bendant, bymtheng mlynedd ar hugain yn ol.

Ond beth am sefyllfa boliticaidd y Dywysogaeth ? Mae Mr. Richard yn ei ddegfed lythyr yn ei drin yn drwyadl. Dyfynna eiriau nerthol Milton a Burke i ddangos mai nid trwy rym arfau y gellid darostwng ewyllys pobl, a bod y Cymry, pan beidiwyd eu gormesu, yn cyfansoddi y rhan fwyaf teyrngarol o'r Ymerodraeth. Yr oeddent yn dawel a heddychol. Yn sicr, yr oedd pobl fel hyn yn haeddu cael eu cyfran deg o lywodraeth y wlad i'w dwylaw trwy gyfrwng y Senedd. Sut yr oedd pethau yn sefyll? Yr oedd yr Eglwyswyr yn 21 y cant o'r boblogaeth, a'r Ymneillduwyr yn 79 y cant, ond nid oedd cymaint ag un Ymneillduwr yn cynrychioli Cymru y pryd hwnnw yn y Senedd; yr oedd yn agos i hanner y cynrychiolwyr (14 allan o 32) yn Doriaid o'r fath fwyaf eithafol, a'r rhai oedd yn proffesu bod yn Rhyddfrydwyr yn unig felly oherwydd traddodiad teuluaidd. Yr oedd pob Ymneillduwr egwyddorol yn rhwym o fod yn Rhyddfrydwr. Ond ni chaed ond dau i bleidleisio dros ddadgysylltiad yr Eglwys Wyddelig; a'r un modd gyda chwestiynau Rhyddfrydol ereill. Yn swydd Dinbych, cyfartaledd yr Eglwyswyr i'r Ymneillduwyr ydoedd 9,130 i 29,153, ac eto yr oedd cynrychiolydd y parth hwnnw o'r Dywysogaeth yn Dori o'r "sect fanylaf," a gofynna Mr. Richard onid gwawd ar gynrychiolaeth deg oedd peth fel hyn?

Ar ol rhoi ffigyrau a phrofion ereill, y mae Mr. Richard yn gofyn paham yr oedd pethau mewn sefyllfa mor anfoddhaol. Mae yn ateb y cwestiwn yn yr unfed llythyr ar ddeg. Yn y lle cyntaf, nid oedd y Cymry, ond yn gymharol ddiweddar, wedi dechreu cymeryd dyddordeb mewn gwleidyddiaeth. Diwygiadau crefyddol oedd, cyn hynny, wedi cymeryd eu bryd; ond yr oedd adfywiad bywyd cenhedlaethol a gwladwriaethol yn rhwym o ddilyn, fel yr oedd wedi dilyn y Diwygiad yn Lloegr. Bu llawer o arweinwyr cenedl y Cymry yn tybied fod math o lygredigaeth ynglŷn â phethau politicaidd. Yr oedd yr iaith hefyd wedi dieithrio meddwl y Cymry oddiwrth lenyddiaeth boliticaidd Lloegr. Crefyddol hollol ymron ydoedd llenyddiaeth Cymru wedi bod. Ond daeth tymor y newyddiaduron, yn fwyaf arbennig yr Amserau. Ceisiodd y clerigwyr ei lindagu. Pan aed ag ef i Ynys Manaw i osgoi y dreth, cynhaliasant gyfarfod, a dygwyd y mater o flaen y llywodraeth, a bu raid dwyn yr Amserau yn ol i Lerpwl i'w gyhoeddi. Ond methwyd lladd y papur, yn hytrach fe gynhyddodd ei gylchrediad. Yr oedd addysg wedi ymledu, a deffrodd meddwl y Cymry at bethau gwladwriaethol.

Mae Mr. Richard yn ei ddeuddegfed lythyr yn nodi arwyddion deffroad ein cenedl, ac yn ei rhybuddio y byddai raid iddi wneud aberthau mawrion cyn ennill ei rhyddid, gan fod mawrion y tir yn tybied mai eiddynt hwy oedd gallu politicaidd ein gwlad. Mae yn enwi yr aberthau hynny gyda llygad proffwyd, wrth ystyried fel y cawsant eu gwirio. Noda Mr. Richard y dosbarthiadau yng Nghymru oeddent wedi arfer gwrthweithio llais Rhyddfrydol y lluaws, sef y clerigwyr, y tirfeddianwyr, a'r stiwardiaid. Tra yn cydnabod y mawr les y mae llawer o'r clerigwyr dysgedig wedi ei wneud i Gymru, yr oedd yn rhaid addef fod dosbarth o glerigwyr yn bod, dynion wedi troi oddiwrth yr Ymneillduwyr gan mwyaf oeddent, yn dwyn mawr sel yn erlid y rhai a adawsant ar ol. Nid oedd un dosbarth ag yr oedd efe yn onest yn gresynnu mwy drostynt na'r dosbarth hwn. Mewn enw, hwy oeddent i fod yn brif ddysgawdwyr y bobl, eto yr oeddent yn cael eu dibrisio ganddynt, a'u gadael megys yn unig. A chan eu bod wedi codi o fysg y werin, yr oedd y boneddwyr, ar y llaw arall, yn eu hesgeuluso. Nid rhyfedd fod eu hysbrydoedd yn chwerwi. Ar adegau o etholiad yr oeddent yn cael cyfleustra i ddial trwy ein dilorni wrth fawrion y tir. Dyna'r pryd y caent y pleser o weled yr etholwyr, lawer o honynt, yn gorfod ymwingo o dan iau y gwyr mawr hyn. Er bod llawer o Ryddfrydwyr da ymysg yr Eglwyswyr, yr oedd Eglwys Loegr, fel y cyfryw, wedi bod, yn ol tystiolaeth Arglwydd Macaulay, yn elyn rhyddid am dros gant a hanner o flynyddoedd, ac nid oedd un amheuaeth nad oedd y clerigwyr yn onest yn eu cefnogaeth i'r Eglwys yr oeddent mewn cysylltiad â hi. Ond er hyn i gyd, gweithient mewn llinnell hollol wrthgyferbyniol i argyhoeddiadau a dyheuadau y bobl, a diau mai sefyllfa anedwydd ydoedd byw yng nghanol pobl heb nemawr o gydnawsedd rhyngddynt, a chael eu gwthio i fod yn fath o ysbiwyr arnynt, er mwyn eu bradychu i'w huwchafiaid. Gofynna Mr. Richard ai fel hyn yr oeddent am adennill serch eu praidd?

Mae dylanwad y tirfeddianwyr a'r mawrion yn cael ei drin yn y llythyr olaf ond un. Yr oedd boneddwyr Cymru i gyd ymron yn Doriaid trylwyr, y rhai a ystyrient mai eu diogelwch oedd dirwasgu pob rhyddid, pa un ai rhyddid llafar, cydwybod, addoliad, masnach, neu etholiad. Yr oedd rhai teuluoedd, mae'n wir, yn Rhyddfrydwyr, am fod y teulu wedi bod felly erioed. Ond cafwyd profion fod yn well gan lawer o'r cyfryw aberthu eu hegwyddorion politicaidd na gadael i gynrychiolaeth y wlad fyned allan o ddwylaw eu dosbarth hwy.[1]

Wrth gwrs, yr oedd Mr. Richard yn ofalus i ddweud fod eithriadau canmoladwy yn bod, ond eithriadau oeddent. Yr oedd y gwallgofrwydd helwriaethol hefyd yn ddinistr i ffermydd, ac yn rhwym o greu teimladau chwerwon ym mynwesau amaethwyr y tir. Peth arall oedd yn peri dieithrwch oedd, fod y boneddwyr yn hollol anhyddysg yn iaith y bobl, ac yn hytrach yn ymffrostio yn hynny. Yr oedd tuedd ynddynt hefyd i aflonyddu a phoeni y bobl mewn perthynas i'w capelau a'u hysgolion. Gomeddai rhai tirfeddianwyr werthu tir i adeiladu capelau neu ysgoldai arno. Dywedai Mr. Richard fod ganddo restr o'r cyfryw os mynnid cael eu henwau. Yr oedd ereill yn gwerthu tir i'r cyfryw ddiben, ond ar delerau gorthrymus. Yr hyn a wnelai y cyfan yn anioddefol oedd, fod y bobl, gan mwyaf, yn Ymneillduwyr, ac mai i ddysgawdwyr a chapelau Ymneillduol yr oeddid yn ddyledus am y tawelwch oddiwrth derfysgoedd yng Nghymru, ac, yn wir, am ddiogelwch y tirfeddianwyr eu hunain.

Pa hawl, gofynna Mr. Richard yn ei lythyr olaf, oedd gan unrhyw feistr tir i ymyryd â materion cydwybod ei denant? Ac edrych yn ol am gan mlynedd a hanner, yr oedd yn rhaid cydnabod mai nid y boneddwyr hyn ydoedd wedi bod yn arweinwyr y bobl mewn crefydd, moes, dysg, na llenyddiaeth, nac mewn unrhyw ffurf o wareiddiad a chynnydd. Nid yn eu rhengoedd hwy yr oedd gwroniaid Cymru i'w cael. Yr oeddent yn ddieithr i'r hyn oedd wedi dyrchafu y genedl. Ac eto, dyma'r dynion oeddent yn honni yr hawl i, ac yn cael eu danfon i'r Senedd. Yn y llythyr hwn y mae Mr. Richard yn rhoi hanes yr ymdrech etholiadol yn sir Feirionnydd, gormes Syr Watkin a Mr. Price, Rhiwlas, at y rhai y dygodd sylw y Senedd ar ol hynny. Terfynna'r llythyr trwy wneud apêl ddifrifol at y tirfeddianwyr; dywed mai ofer ceisio dwyn i mewn y gyfundrefn wriogaethol i wlad rydd, ac os ceisient, y caent mai "trech gwlad nag arglwydd." Yr oedd yn bryd i'r gwŷr hyn sylweddoli y ffaith mai Ymneillduwyr, gan mwyaf, oedd y Cymry, ac mai gwell oedd iddynt beidio ymyryd â'u crefydd. Gesyd yn llym ar y stiwardiaid, y rhai sydd yn gyfrwng rhwng y meistriaid tir a'r amaethwyr, ac yn gwneud mawr ddrwg, a therfynna trwy ddweud “gair wrth ei gydwladwyr." Dywed wrthynt fod yn rhaid iddynt ymwregysu ar gyfer y frwydr. Dylent fod yn barod i ddioddef, hwy a'u plant, ond odid, am eu hegwyddorion; ac ond iddynt fod yn ffyddlon yr oedd y fuddugoliaeth yn sicr iddynt. Ychwanegodd Mr. Richard yr ol-ysgrif ganlynol i'r llythyrau, dyddiedig 1883, pan ail gyhoedd- wyd hwynt yn llyfr yn 1884,-

"Fe welir, yn un o frawddegau olaf y llythyr diweddaf, fy mod wedi gwneud apêl ddifrifol at fy nghydwladwyr i hawlio eu hiawnderau politicaidd, hyd yn oed, fel yr oedd yn bosibl ac yn debygol, pe byddai raid iddynt ddioddef am eu ffyddlondeb. Atebasant yr apeliad hwnnw yn ardderchog yn etholiad 1868. Ac ni pheidiodd y blinderau a ragfynegwyd eu goddiweddyd. Trowyd ugeiniau o honynt o'u ffermydd a'u tai, a blinwyd a chospwyd hwynt am feiddio pleidleisio yn ol eu cydwybodau. Cefais y boddhad, pa fodd bynnag, o lusgo eu herlidwyr o flaen Tŷ y Cyffredin a'r wlad, a chydag ereill, o gasglu cronfa helaeth i liniaru eu gofidiau. Darfu i etholiad 1880 gwblhau y fuddugoliaeth a ddechreuwyd yn 1868, ac nid oes ond ychydig ymhellach i'w wneud yng Nghymru, heblaw dal y tir yr ydys wedi ei ennill eisoes."

Ni fuasem wedi myned i mewn mor helaeth i gynhwysiad y llythyrau penigamp hyn—y rhai, yn wir, y dylid eu darllen fel y cyfansoddwyd hwynt i weled eu gwir ragoroldeb—onibai eu bod bellach, fel y dywedwyd, yn anhawdd cael gafael arnynt, a hefyd eu bod yn rhan o waith Mr. Richard, yn ei fywyd, ag a gynhyrchodd gyfnod pwysig yn hanes codiad ein cenedl i'r sefyllfa wladwriaethol y mae ynddi yn awr.

Y mae yn deg cydnabod yma fod llawer o'r Eglwyswyr goreu yn ystod y blynyddau diweddaf yn barod iawn i gydnabod diffygion eu tadau, a'r mawr les a wnaeth yr Ymneillduwyr i Gymru, a hefyd fod gwelliant mawr wedi cymeryd lle yn yr Eglwys Sefydledig yn ddiweddar. Nid oedd neb yn fwy parod i gydnabod hynny na Mr. Richard. Mae yn gwneud hynny yn anrhydeddus yn yr araeth a draddododd yng Nghaernarfon ac Aberdar yn 1883.

Ar yr 20fed o Ragfyr, 1866, priododd Mr. Richard gydag Augusta Matilda, trydedd ferch John Farley, o Kennington, a hynny pan yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn ei hadnabod ers blynyddau, ac yr oedd hi yn un a feddai gydymdeimlad trwyadl a'i waith. Buont yn briod am ddwy flynedd ar hugain, a chysegrodd hi ei hun yn gyfangwbl i weini arno, ac i hyrwyddo y gwaith mawr yr oedd efe wedi cysegru ei fywyd iddo. “Elai gydag ef i'w holl deithiau yng Nghymru ac ar y Cyfandir, a phan ddechreuodd ei iechyd wanychu ymhen blynyddoedd wedi hynny, dyblodd ei gofal, a phrin y caniatâi iddo fyned allan heb fyned gydag ef. Yn ol pob tebyg, darfu i'w gofal parhaus fod yn foddion i estyn ei oes. Nid rhyfedd fod y fath gydmar bywyd wedi cyfranogi llawer o boblogrwydd ei gŵr yn y Dywysogaeth. 'Yr oedd ei gwyneb llon,' ebe un ysgrifennydd, 'mor adnabyddus bron i gynulleidfaoedd Cymru ag eiddo Mr. Richard ei hun, a thra y cofir un, nid anghofir y llall.' [2] Mae Mrs. Richard eto yn fyw, yn trigo yn 22, Bolton Gardens, Llundain, ac—fe oddefir i fi ychwanegu—yn cymeryd dyddordeb sylweddol yn y Cofiant Cymraeg hwn am ei diweddar anwyl briod.

Nodiadau

golygu
  1. Cafodd Mr. Richard brawf o hyn yn yr etholiad dros sir Aberteifi yn 1865. Yr oedd y Milwriad Powell yn Dori, ac yn cynrychioli y sir honno ar y pryd. Aeth y si allan ei fod, oherwydd afiechyd, yn bwriadu encilio. Gwnaed pob darpariaeth, gan hynny, i ddwyn allan Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, yr hwn oedd Ryddfrydwr. Yr oedd Mr. Henry Richard hefyd wedi cael ei wahodd i gynnyg ei hun dros y sir. Newidiodd y Milwriad Powell ei feddwl, a phenderfynnodd nad ymddiswyddai. Ar hyn y mae y Barwnig Rhyddfrydol yn tynnu yn ol, gan ei fod wedi ymrwymo i beidio gwrthwynebu y Milwriad Powell, yr hwn oedd "feistr tir mor boblogaidd, ac yn gymydog!" Wrth gwrs, yr oedd yn rhaid cadw y gallu ym meddiant y mawrion, deued a ddelo. Mae yr holl hanes i'w gael yn y Traethodydd am 1865, t.d. 488, wedi ei ysgrifennu gan y doniol Kilsby Jones. Mae yr erthygl yn werth ei darllen, pe na byddai ond am ei donioldeb blasus.
  2. C. S. Miall.