Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach/Pennod II
← Pennod I | Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach gan Josiah Jones, Machynlleth |
Pennod III → |
PENNOD II.
Y MAE gwahaniaeth mawr rhwng ambell i fywyd a'i gilydd: Nid ydym yn cyfeirio yn gymaint at y cymeriad moesol fyddo, bywydau yn ei ddwyn; ond at y defnyddiau, neu'r stuff, sydd yn gwneud y bywyd i fyny. Cyfansoddir ambell i fywyd o ryw olyniaeth ddidor o amgylchiadau a gweithredoedd cyffelyb. Gellwch, oddiwrth yr hyn fyddoch yn ei wybod eisoes am dano, ffurfio drychfeddwl go gywir am y gweddill o hono. Fel y mae yr afon sydd yn rhedeg trwy y doldir, yn dawel a digynhwrf, felly hefyd y mae yntau. Ond dynodir un arall gan ryw newydd—der diddiwedd. Y mae pob gweithred ac amgylchiad fel yn eich hèrio i ragddywedyd pa fath rai fydd y nesaf. Mae gwreiddiolder yn nodwedd ar y cyfan; ac ar. ddiwedd pob cyfnod, gellwch fentro dyweyd,—Yr hyn a fu ni fydd. Os yw y blaenaf yn debyg i afon mewn doldir, y mae hwn yn debycach i lifeiriant gorwyllt o ben mynydd, yn disgyn ar hyd y llethrau a thros y clogwyni yn mhob ffurf a llun. Yn gyffredin, y bath blaenaf o fywyd sydd yn fwyaf defnyddiol;—hwn sydd yn gadael yr argraff dyfnaf ar y rhai fyddant o fewn cylch ei ddylanwad. Gyda golwg ar fywyd, gallwn ddyweyd yn benodol yn ol yr hen ddiareb Gymreig, "Dyfal gnoc a dyr y graig." Ond os hwn yw y mwyaf. defnyddiol, y llall yw y goreu i'r bywgraffydd. Mae y newyddder didor a nodwedda y bywyd yn rhoddi swyn i'r desgrifiad o hono. Teflir y darllenydd i ganol amgylehiadau nad oedd ganddo yr un disgwyliad o'r blaen am danynt; ac felly hudir ef yn y blaen yn ddiarwybod iddo ei hun. Yn awr, y mae bywyd Azariah Shadrach yn perthyn i'r dosbarth blaenaf, yn hytrach na'r olaf—i'r defnyddiol, yn hytrach nag i'r hynod. Nid am nad oedd ei fywyd yn hynod oddiwrth eiddo pobl ereill; ond am fod cymaint o gyffelybrwydd rhwng gwahanol ranau ei fywyd ei hun, fel nas gallwch ddyweyd fod y naill ran o hono yn hynod oddiwrth y llall. Yr ydym eisoes wedi rhoddi un darn o hanes ei fywyd; a chan y bydd y gweddill yn lled debyg, nid ydym heb radd o ofn nas gallwn gadw i fyny ddyddordeb y darllenydd.
Yn mis Tachwedd, 1806, symudodd Shadrach i Dalybont, Ceredigion, i arolygu yr eglwys ieuanc oedd newydd gael ei sefydlu yno, yn nghyd a'r eglwys a sefydlasid ychydig yn flaenorol i hyny yn Llanbadarn; wedi bod yn llafurio yn Llanrwst a'r cymydogaethau oddeutu pedair blynedd. Cam pwysig i weinidog ydyw symud: a cham ydyw na ddylid ar un cyfrif ei gymeryd heb lawer o ystyriaeth. Wrth aros yn yr un man, y mae ar ffordd deg i ddyfod i fedi mewn amser o'i lafur ei hun, drwy fod yr eglwys yn dyfod i fyny yn raddol at yr hyn yr amcanodd ei chael, mewn duwioldeb a threfn. Daw ef i adnabod yr eglwys yn well; ac felly bydd ar dir mwy manteisiol i wneud daioni iddi. Daw yr eglwys hefyd i feddu adnabyddiaeth gywirach o hono yntau; ac os yn ddyn da, ac yn weinidog teilwng, bydd yn hawddach ganddi ymddiried ynddo. Ond gan nad beth ellir ddweyd yn erbyn symudiadau, mae yn ddiau fod amgylchiadau weithiau yn bodoli ydynt, 'nid yn unig yn eu cyfreithloni, ond hefyd yn galw am danynt. Mae yn bosibl fod dyn yn cael allan mewn amser, drwy brofion diymwad, nad yw yr eglwys ac yntau yn taro eu gilydd. Ac y mae amgylchiadau, weithiau, nad oes gan ddyn yr un reolaeth arnynt, yn cyfyngu ar fesur ei ddefnyddioldeb, ac yn blwm i wneud ei ymdrechion mwyaf egniol yn ddieffaith. A chan nad yw galluoedd a chymhwysderau dyn yn cael eu dadblygu ar unwaith, y mae llawer un ar y cyntaf yn ymsefydlu mewn lle gwan, ac mewn ardal gyfyng ac anmhoblogaidd, ac erbyn iddo, drwy ddiwydrwydd ac ymroddiad, dyfu i'w gyflawn faintiolaeth, y mae dyledswydd yn galw yn awdurdodol arno i gymeryd ei safle mewn cylch eangach. Nid ydym yn sicr ein bod yn gwybod paham y cymerwyd y cam hwn gan Shadrach; ond, a barnu y weithred wrth ei chanlyniadau, gallem feddwl iddo wneuthur yn ddoeth. Mae rhyw bobl o feddyliau culion yn y dyddiau presenol yn gwybod yn mlaenllaw, cyn chwilio dim i'r amgylchiadau, paham y mae pob gweinidog yn symud. Onid cariad at arian sydd yn eu cymhell? Rhaid i'r chwilen fod bob amser yn y baw! Ond oddiwrth yr hyn a welsom eisoes, os bu symud er mwyn arian yn gyfreithlon i neb erioed, y mae yn ddiau ei fod felly i Shadrach. Gorchwyl lled anhawdd oedd cael "dau pen y llinyn" yn nghyd ar y gyflog addawedig o bum' punt yn y flwyddyn. A ydyw y darllenydd yn gofyn faint addawyd iddo yn ei le newydd? Wel, er ei foddhau, caiff y llen ei thynu, yn atebiad iddo. Dyma eiriau Shadrach ei hun:—"Dwy bunt y chwarter oedd yr eglwys yn addaw í mi ar y cyntaf; ond os gwnawn gasglu digon o arian i dalu dyled y capel, y cawswn dair punt y chwarter." Dyna'r addewid, a dyna fu'r cyflawniad. Ond, i fod yn fanwl yn y mater arianol yma, cofier mai addewid eglwys Talybont oedd hona; ac yr oedd eglwys Llanbadarn ganddo heblaw, (nid yr eglwys blwyfol yn Llanbadarn, cofier— byddai tipyn o frasder oddiwrth hono—ond yr eglwys Annibynol yn y lle,) yr hon oedd eto mewn babandod ac eiddilwch. Tarawsom yn ddiweddar wrth hen lyfr cyfrifon yr eglwys hon, a mawr oedd yr hyfrydwch a gawsom wrth edrych dros y cofnodion o'i thaliadau i Shadrach fel ei gweinidog. A'u rhoddi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt, yr oeddynt ryw fodd fel hyn:—" Pd. Mr. Shadrach for the 1st. quarter, £1 15s.; do. 2nd quarter, £1 7s.," ac felly yn y blaen, weithiau yn fwy, ac weithiau yn llai, nes y cyrhaeddent mewn dull tra Gwyddelig, the 8th and the 9th quarter. Ond, cofied y darllenydd, nid oedd yr holl chwarteri hyn, a'r symiau perthynol iddynt, yn cael eu gwasgu i'r un flwyddyn ychwaith.—Cymaint a hyna ar gysylltiadau arianol y symudiad. Ond teimlwn fod dyledswydd yn galw arnom i ddweyd, mai nid fel y gwnelai yr eglwysi hyn yn eu babandod y gwnant heddyw.
Yr oedd Shadrach erbyn hyn yn ŵr priod ac yn benteulu; ac yr oeddym yn teimlo, ddarllenydd, fod galwad arnom i fod yn fanwl gyda'r ffeithiau uchod, fel y gellid cael cyfleusdra i ganfod ei galedi, ac mewn canlyniad ei hunanymwadiad, yn well. Thomas Carlyle, onide, sydd yn dweyd fod yn rhaid i'r dosbarth blaenaf o ddiwygwyr cymdeithasol debygoli i'r milwyr blaenaf yn y fyddin Rwsiaidd, sef, gorwedd yn y ffos, fel y gallo y rhai fyddo yn dyfod ar eu hol gael cerdded drostynt. Onid fel hyny, i raddau helaeth, y mae wedi bod gyda gweinidogion ffyddlawn yr oes ddiweddaf? Bendith fyddo ar eu henwau a'u coffadwriaeth! a throsglwydder gwybodaeth o'u hymdrechion, eu caledí, a'u hunanymwadiad, fel cymunrodd werthfawr i'r oesau dyfodol, fel y byddont fel symbylau i'w cyffroi i berffeithio y gwaith a ddechreuwyd yn wyneb cynifer o anfanteision.
Ugeiniau lawer o flynyddoedd yn ol, yr oedd cryn bwysigrwydd yn perthyn i ardaloedd Talybont, am fod yno weithiau plwm pwysig yn cael eu cario yn mlaen. Dywedwyd wrthym mai yn y gweithiau hyn y darfu i Syr Hugh Myddleton gasglų y cyfoeth a'i galluogodd i orphen y New River, er dyfrhau dinas Llundain. Ac erbyn heddyw y mae y cymydogaethau hyn yn enwocach nag erioed, ar gyfrif eu cyfoeth a'u gweithiau mwnawl. Ond golwg lled ddigalon oedd ar bethau oddeutu yr amser yr ymsefydlodd Shadrach yn y lle. Yn lle nifer liosog o dai golygus, fel sydd yno heddyw, nid oedd yn y pentref y pryd hwnw ond ychydig o dai llwydion a gwael. Ac ystyrid yr hen dŷ pridd dilun ddarfu i Shadrach adeiladu iddo ei hun wedi ei ddyfodiad yno, a'r hwn ddichon i'r darllenydd ei weled eto yn ymyl yr ysgoldy Brytanaidd, yn adeilad godidog. Ac yr oedd sefyllfa grefyddol y cymydogaethau hyn yn cyfateb yn lled dda i'w sefyllfa gymdeithasol. Nid oedd ond oddeutu tair blynedd wedi myned heibio er pan ddechreuwyd pregethu yno. A'r hybarch a'r hynod Rhys Davies, o Saron, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cadw ysgol yn Mhenal, oedd y pregethwr cyntaf. Cymerwyd meddiant o'r maes yn fuan gan Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ond gan fod ei esgobaeth eisoes mor eang, nis gallai, wrth reswm, wneud cyfiawnder â'r gymydogaeth hon. Oddeutu yr amser hwn nid oedd ond tri o weinidogion gan yr Annibynwyr yn sir Aberteifi i gyd: a rhanent hi cydrhyngddynt. Gofalai y Parch. B. Evans, Drewen, am y rhan dde—orllewin iddi, yn cyrhaedd o Castell— newydd—Enlyn i'r Ceinewydd.[1] Gofalai Dr. Phillips am y rhan ogledd—orllewin iddi, o'r Ceinewydd i Bont Llyfnant, pedair milldir o Fachynlleth. A gofalai y Parch. Phillip Morris, Ty'nygwndwn, am y rhan ddwyreiniol o honi, gan gymeryd ei safle oddeutu cymydogaeth Llanbedr. Fel yr oedd gweinidogion cymhwys yn lliosogi, a'u llafur hwythau yn llwyddo, yr oedd yr esgobaethau hyn yn cael eu rhanu a'u hadranu drachefn, nes y mae nifer y gweinidogion erbyn heddyw oddeutu tri-ar-ugain. Y rhaniad cyntaf ar esgobaeth Dr. Phillips ydoedd, pan roddodd y rhan ogleddol o honi i ofal Shadrach, ar ei ddyfodiad i Dalybont; ac yn ol golygiadau y dyddiau presenol, yr oedd hon yn anferthol fawr. Cyrhaeddai o Ddyffryn Paith at Bont Llyfnant, ac o Benybont i odreu Plynlymon—rhyw barth o wlad yn cynwys oddeutu cant a haner o filldiroedd ysgwâr. Dywed Shadrach am y trigolion, eu bod yn hynod o dywyll; ond er ei gysur ef, a'u hanrhydedd hwythau, nid oeddynt yn erlidigaethus. Er nad oedd yn cael fawr o'u harian, eto dywed wrthym eu bod yn gymwynasgar iawn. Yr oedd y gwrthwynebiadau a gafodd o'r blaen yn ei gymhwyso ef yn ddiau i werthfawrogi y cymwynasgarwch hwn.
Yr oedd gwaith mawr i'w wneud ar y maes eang hwn; ac ymddengys i ni fod Shadrach yn un o'r rhai cymhwysaf ato, Y mae yn ddiau nad yw pob un cymhwys ddim yn gymhwys at yr un peth. Nid mater o ddigwyddiad oedd fod Paul yn planu, ac Apolos yn dyfrhau. Diau fod y Gwinllanydd mawr, nid yn unig yn codi dynion cymhwys i'r winllan, ond hefyd yn eu harwain i'r rhan hono o'r winllan y byddont yn fwyaf cymhwys ati. Os ydym yn deall cymeriad Shadrach yn iawn, yr oedd cyfansoddiad ei feddwl, poblogrwydd ei ddull o bregethu, a'i weithgarwch diflino, yn ei gymhwyso yn neillduol at faes fel hwn, Yr un ydoedd Shadrach yma ag ydoedd yn Llanrwst; a'r un modd y gweithredai. Gan fod y wlad heb haner gael ei meddianu, torai allan ar bob llaw, a phregethai pa le bynag y cai dderbyniad. Am oddeutu pedair blynedd ar ddeg, bu yn llafurio yn galed, "mewn amser ac allan o amser," nid yn unig y dydd, ond hefyd y nos, i geisio gyru y gwaith yn y blaen. Pregethai pa le bynag y cai gyfleusdra; ac yr oedd yn ei gwneud yn fater cydwybod i wneud cyfleusdra iddo ei hun, drwy geisio ymddwyn yn y fath fodd ag a'i cymeradwyai i fynwesau trigolion yr ardaloedd, fel y gallai drwy hyny gael pregethu yn eu tai. Er enghraifft, yr oedd wedi gosod ei galon ar gael pregethu yn Nghoedgruffydd—ffermdy mawr yn ymyl y fan lle saif capel Salem yn bresenol—ond pa fodd yr oedd cael myned i mewn nis gwyddai, am fod perchenog y lle, sef yr un a breswyliai yno, yn glamp o Eglwyswr. Nid oedd dolen. gydiol rhyngddo â'r lle yn ymddangos yn un man. Yn ffodus, cafodd wyr i'r gŵr hwn ei eni yn Nhalybont, a Shadrach oedd y gŵr i'w fedyddio. Wrth reswm yr oedd y tadcu i fod yn bresenol yn y bedydd; a phan ddaeth y dydd oddiamgylch, fel hyny yr oedd hi Gwelodd Shadrach ei fantais yn union, a phenderfynodd anelu at galon y gŵr da; ond yr oedd gochelgarwch, a thipyn o ragfarn, fe allai, yn ei gadw draw. Yn ngwyneb pob anfantais, fodd bynag, darfu iddo, drwy gallineb ac unplygrwydd, wneuthur argraff go ddwfn ar ei galon; ac nid hir y bu y gŵr hwn heb ofyn i Shadrach pa bryd y deuai i bregethu i'w dŷ yntau. Fel yna, y clywsom ddarfod iddo gael derbyniad i Goedgruffydd; ac y mae yn debyg iawn fod cysylltiad agos rhwng hyn a bodolaeth yr eglwys yn Salem. Dengys hyn y pwys sydd o fod yn gall yn gystal ag yn selog. A phe byddai pob gweinidog yn ymdrechu cadw ei lygad yn ei ben, fel y dywedir, i ddal ar bob cyfleusdra roddo Rhagluniaeth o fewn ei gyrhaedd, a'i ddefnyddio, y mae yn ddiau y byddai achos crefydd yn llawer mwy blodeuog mewn llawer man nag yw heddyw. Heblaw Talybont a Llanbadarn, yr oedd Dyffryn Paith a Chlarach yn lleoedd sefydlog i ofalu am danynt; ac am yn agos i bedair blynedd ar ddeg, pregethai tua chwe' gwaith yr wythnos. Mae yn ddiau fod hyn yn gofyn llafur mawr. Ond nis gallai Shadrach fod yn ddedwydd heb lafur. Yr oedd ei gyfansoddiad a'i grefydd yn gwneud caledwaith yn elfen anhebgorol yn ei gysur. Ac heblaw y llafur hwn, yr oedd, drwy fod yn llygadog ac effro, yn cael cyfleusdra i bregethu mewn llawer o leoedd ereill. Dywed wrthym iddo bregethu llawer yn y Foelgolomen, Nantyperfedd, Cwmsymlog, Lluest- newydd, Ty'nycoed, Coedgruffydd, Pentrebach, Penybont, Cwmygeulan, Penybanc, Bryngwyn-bach, Ceulan, Caregestynllath, a'r Cwmerebach; a bu rai troion yn pregethu yn, Nhre'rddol, y Borth, ac Aberdyfi.
Pan ymsefydlodd Shadrach yn Nhalybont gyntaf, er nad oedd y trigolion yn erlidgar, eto, fel y gwelsom eisoes ar ei dystiolaeth, ef ei hun, yr oeddynt yn dywyll iawn; ac, fel y cyfryw, yr oedd cryn dipyn o goelgrefydd yn perthyn iddynt. Os oedd rhai o honynt yn meddwl am grefydd o gwbl, ystyrient eu hunain yn Eglwyswyr. Fel y cyfryw, gosodent gadwedigaeth pob plentyn a fyddai farw yn ei fabandod i ymddibynu yn gwbl ar y ffaith a fuasai wedi cael ei fedyddio ai peidio. Gan nad faint o niwed ymarferol oedd yn y dyb yna, gwnaeth, Shadrach ddefnydd go dda o honi. Dan ei dylanwad yr oedd y bobl yn awyddus i gael bedydd ar eu plant, yn neillduol felly os buasai arwyddion na fyddai y plentyn byw yn hir. A chan nad oedd un gweinidog ond Shadrach o fewn milltiroedd i'r lle, yr oeddynt yn gyru ato o bob cyfeiriad, ac ar bob amser o'r nos fel y dydd. Pryd bynag y deuai yr alwad, yr oedd yntau yn barod i'w derbyn. Heb ddim ond ei lawffon yn unig, yn gwmni iddo, prysurai ar bob amser, ac ar bob tywydd, i'r man y gelwid ef iddo, am y tybiai fod yno gyfleusdra i wneud daioni. Heb yngan gair yn erbyn y dyb oedd yn achos i'r cyffro, gan y byddai hyny o bosibl yn eu rhagfarnu yn ei erbyn, gweinyddai yr ordinhad yn ei ddull effeithiol ei hun. Ond wedi gorphen a'r bedydd, cymerai ei hamdden a'i gyfleusdra ei hun i ddiwreiddio y dyb o'u meddyliau, ac i siarad â hwynt yn ddifrifol am fater eu heneidiau; ac mor sicr a'i fod wedi cael derbyniad i deulu ar amgylchiad o'r fath, byddai y tebygolrwydd yn fawr y deuai rhywun neu rywrai, yn dra buan, i ymofyn eu lle yn yr eglwys o'r teulu hwnw. Os cofiwn ei ddyfalwch, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi bedyddio dros chwe' chant o blant yn yr ardaloedd hyn, y mae yn ddiau ei fod wedi gwneud llawer o ddaioni yn y llwybr hwn. Try dyn call ac ymroddgar y pethau mwyaf annhebyg i fod yn ffafriol i'w amcanion ei hun. Yr un modd y gwnai gydag angladdau. Ai i godi y corff, fel y dywedir, i ba le bynag y cawsai gyfleusdra, a phregethai yn ddiffael ar yr amgylchiad. Trwy hyn cafodd gyfleusdra i gario yr efengyl i lawer o dai fuasent heb hyn yn gauedig yn ei erbyn. Ymgasglai tyrfaoedd lliosog yn nghyd ar yr amgylchiadau hyn, fel y mae yn arferol eto yn y Deheudir, ac yn sir Aberteifi yn enwedig; ond nid rhyw awydd mawr oedd ar lawer o honynt i gael clywed y bregeth. Ar y cyntaf, byddent yn wasgaredig yma ac acw, ar hyd y buarth a'r caeau cyfagos. Ond os na ddeuent hwy ato ef, gyrai Shadrach ei lais cyrhaeddgar atynt hwy. Yn fuan tynid eu sylw; cyffroid eu teimlad o ddyddordeb; ac o ychydig i ychydig byddai y gynulleidfa wasgaredig wedi ymwasgu yn gryno o'i ddeutu. Gan nad faint o ddaioni fyddai wedi wneud i ereill, yr oedd tebygolrwydd mawr ei fod wedi enill serchiadau y teulu a'r perthynasau agosaf; ac, yn gyffredin, gwelid hwynt yn fuan ar ol hyny yn cymeryd eu lle yn y capel fel gwrandawyr rheolaidd, o leiaf, os nad yn aelodau hefyd. Dydd Llun y Pasg, yr oedd wedi bod yn arferiad gan drigolion y cymydogaethau hyn i ymdyru yn lluoedd mawrion, o'r wlad a'r dref, i gadw Gwyl Mabsant, neu rywbeth tebyg; a mawr oedd y rhialtwch a'r llygredigaeth fyddai yno. Llanbadarn oedd y prif gyrchfan. Teimlodd Dr. Phillips, ac ereill, ar eu calonau i gynyg troi yr Wyl Fabsant i fod yn gyfarfod mawr, a llwyddasant yn eu hamcan. Tranoeth, yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal yn Nhalybont, yn amser Shadrach, i holi ysgolion Sabbothol, a mawr y tyru fyddai yno. Ac y mae yn ddiau genym fod llawer o ddaioni yn cael ei wneud. Cynllun godidog oedd hwn; ac y mae yn bur ddrwg genym ei fod i raddau yn colli ei ffafr, yma ac acw, gyda'r oes hon. Mae yn bosibl fod rhyw gyfnewidiadau dibwys yn angenrheidiol er cyfaddasu y cynllun yn fwy at amgylchiadau y dyddiau presenol; ond ni ddylid er dim ei adael o'r neilldu, o leiaf hyd nes ceir ei berffeithiach. Mae holwyddori yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i addysgu; nid yn unig oblegyd yr adeiladaeth a geir ar y pryd, ond hefyd, oblegyd y llafur blaenorol i hyny. Drwy y llyfrau pynciau a'r holwyddori, yr oedd pobl yn dyfod yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau; a chyfoeth anmhrisiadwy i ddyn ieuanc yw fod llawer o Feibl yn ei feddwl. Ac yn lle pregethu i'r un bobl Sabboth ar ol Sabboth, fel y gwneir yn y dyddiau presenol, a hyny fe allai ddwywaith neu dair y dydd, yr ydym yn cwbl gredu y byddai yn llawer mwy adeiladol i gael un oedfa bob pythefnos, o leiaf, i holwyddori yn gwbl. Yr ydym yn meddwl fod y Parch. B. Evans, Drewen, yn arfer holwyddori bob Sabboth. Ac ni ddymunem well peth i ni ein hunain, na chael gweled ambell i ysgoegyn sydd yn barod i daeru fod y cynllun hwn yn rhy isel i'r oes bresenol, yn gorfod dal pen rheswm, fel y dywedir, ar ryw un o bynciau sylfaenol crefydd â rhai o'r hen bobl gafodd eu holwyddori felly ganddo pan yn blant. Os nad ydym yn camsynied yn fawr, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol buan y dyddiau presenol, a'r cyffro dilynol i hyny, yn peri fod athrawiaethau crefydd yn cael llai o sylw pobl ieuainc yr oes hon na rhai yr oes o'r blaen; ac nid ydym yn gwybod am un peth i dynu eu sylw yn fwy at y gair ac at y dystiolaeth, na holwyddori doeth. Dywed Shadrach wrthym mai dechreu oedd yr Ysgol Sabbothol pan aeth efe i Dalybont gyntaf, ac nid oedd ond un proffeswr yn myned iddi; oblegyd hyny anrhydedder ei enw ar dudalenau cofiant ei weinidog—John Jones, o Lwyn Adda, oedd y gŵr. Ond cyn pen pedair blynedd ar ddeg, yr oedd saith o ysgolion yn perthyn i eglwys Talybont yn unig.
Nid rhyfedd gan y darllenydd yn ddiau fod llwyddiant yn dilyn llafur mor fawr. Llaw y diwyd sydd yn llwyddo mewn crefydd yn gystal ag yn mhethau y byd hwn. Nid am fod ei law ef ei hun yn ddigon i beri llwyddiant yn y naill yn fwy nag yn y llall; ond am fod bendith yr Arglwydd yn gyffredin yn dilyn diwydrwydd. Wedi llafurio yn galed, mewn amser ac allan o amser, fel y gwelsom, darfu i'r Arglwydd roddi seliau gweledig ar ei weinidogaeth yn y flwyddyn 1815. Yn y flwyddyn hono bu diwygiad mawr yn Nhalybont, a chafodd Shadrach yr hyfrydwch o dderbyn llawer i'r eglwys. Am gyhyd a haner blwyddyn, yr oedd y pregethwr yn gorfod rhoddi i fyny cyn gorphen yr oedfa, am fod y gynulleidfa yn tori allan i ddiolch a molianu; ac yr oedd y bryniau moelion yn diaspedain gan sain cân a moliant y gynulleidfa wrth fyned adref y nos o'r addoliad. Mewn canlyniad i hyny aeth y capel cyntaf yn rhy fach, a bu raid ei helaethu drwy adeiladu darn mawr ato. Er cyfarfod â'r treuliau, bu raid i Shadrach fyned oddicartref i gasglu. Y mae genym ryw gymaint i'w ddweyd am dano yn y cymeriad o gasglwr; ond gan y cawn gyfleusdra. eto ni a ymataliwn yn awr.
Cyn ei symud o Dalybont, yr oedd gan Shadrach bedwar o blant; a chan fod ei dderbyniadau arianol mor lleied, buom yn rhyfeddu pa fodd yr oedd yn bosibl iddo gael cynaliaeth iddo ei hun a'i deulu. Dichon fod y darllenydd hefyd yn barod i ryfeddu at yr un peth. Er mai nid ar fara yn unig y bydd byw dyn, eto y mae yn rhaid cael bara; a daw pob penteulu i wybod yn brofiadol, yn dra duan, fod llawer o bethau heblaw bara yn angenrheidiol. Er cynal teulu nid â penadur ond ychydig o ffordd. Ond pa fodd yr oedd Shadrach yn gallu dyfod i ben â hi? Cymered y darllenydd y ffeithiau canlynol yn atebiad. Fel y gwelsom eisoes, yr oedd trigolion Talybont a Llanbadarn yn garedig a chymwynasgar iddo; a buont yn. neillduol felly pan fu farw ei wraig. A lle byddo gwir garedigrwydd a chymwynasgarwch yn y galon, gwelir llawer o gyfleusderau i roddi cynorthwy. Ac yn gyffredin y mae preswylwyr parthau amaethyddol, lle nad oes rhyw lawer o drafnidiaeth arian, ac yn neillduol felly preswylwyr rhai parthau o Geredigion, yn llawer mwy parod i roddi rhywbeth mewn eiddo nag mewn arian. Ac ar lawer amgylchiad y mae rhoddion mewn eiddo felly yn werthfawr iawn, nid yn unig i'r derbynydd, ond hefyd i'r rhoddydd o honynt. Dywed y Beibl wrthym mai "gwell yw rhoddi na derbyn;" a chan nad sut y bydd haelioni yn dylanwadu ar y derbynydd, dywedir yn bendant wrthym y bydd yr enaid hael yn cael ei frashau. Y mae cyfansoddiad y meddwl dynol yn gyfryw, fel y mae yr aelodau hyny sydd yn arfer y cymwynasgarwch y soniwn am dano, yn dyfod i feddwl yn uwch am eu gweinidogion, ac yn dyfod i deimlo yn gynhesach atynt, oblegyd y rhoddion fyddont hwy eu hunain yn eu dwyn. Ao y mae yn fantais i enaid aelod po gynhesaf y byddo ei deimladau at yr hwn fyddo yn gweini iddo mewn pethau ysbrydol, a pho uchelaf y byddo ei` farn am dano. Gan nad pa mor effeithiol y byddo gweinidog yr efengyl yn cyflawni ei swydd o dori bara y bywyd, y mae barn gul am dano, a theimladau oerion ato, yn ddigon i beri i'r eneidiau a'u coleddant newynu. Ond gan nad faint o frashad fyddo rhoddion fel hyn yn beri i enaid y rhoddydd o honynt, a chan nad pa mor dderbyniol bynag fyddont gan y gweinidog, iddo ef y mae yn ddiau y byddai eu cyfwerth mewn arian yn fwy defnyddiol. Rhaid i'r meistr tir gael ei ardreth ganddo, ac i'r siopwr, y dilledydd, a'r crydd gael yr hyn sydd ddyledus iddynt hwythau, mewn arian sychion, ac nid mewn blawd ceirch. Da genym feddwl fod eglwysi sir Aberteifi yn dechreu dyfod i deimlo hyn.—Ond wele ni wedi cael ein harwain, gan gysylltiad meddylddrychau, yn dra phell oddiwrth gynaliaeth Shadrach a'i deulu. Heblaw hyny, yr oedd Shadrach yn gwneud ambell i lyfr er ei werthu, fel y cawn siarad yn helaethach mewn pennod arall. Ac os na fyddai ei felin ei hun mewn cywair priodol i falu meddylddrychau er gwneud llyfrau o honynt, tröai ei law i rwymo cynyrchion pobl ereill. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi cael un o'r gwragedd "rhinweddol" ddesgrifir mor odidog gan Solomon:—"Hi a geisiai wlan a llin, gweithiai â'i dwylaw yn ewyllysgar." Mewn geiriau ereill, gwniai ychydig mor bell ag y byddai helyntion teuluaidd yn caniatau; a pheth bynag fyddai yr elw, rhoddai ef yn ewyllysgar i gynal pregethiad yr efengyl yn mharthau Talybont. A chan nad beth fyddo barn pobl ereill am danom, yn ngwyneb ein bod yn disgyn i fanylion teuluaidd fel hyn, y mae yn dda iawn genym ni gael y cyfleusdra hwn i dalu parch cyhoeddus i enw Mrs. Shadrach, ac i drosglwyddo ei henw i'r dyfodol mewn cysylltiad â'r hwn a gynorthwywyd ganddi mor effeithiol mewn bywyd. Nid ydym yn gwybod am nemawr o ddosbarth sydd yn cael cymaint o anmharch, ac hyd yn nod o annghyfiawnder, â gwragedd teilwng gweinidogion. Mae llawer o lygaid arnynt mewn bywyd; a llawer iawn o feirniadu, ac fe allai o gondemnio, ar eu dull o wisgo ac o fyw; ac wrth reswm disgwylir iddynt ddyoddef y cyfan. Llawer o bryder ac o dristwch sydd yn chwerwi eu cwpaneidiau, oblegyd y cysylltiad agos a ddaliant â'r weinidogaeth; ac ar lawer amgylchiad, rhoddant lafur eu dwylaw, fel yn yr amgylchiad hwn, neu gynyrch eu cynysgaeth priodasol, ac o bosibl y ddau gyda'u gilydd, yn dawel a dirwgnach i gynal gweinidogaeth mewn lleoedd neillduol er hyny, pan fyddont feirw, caiff eu henwau yn gyffredin eu claddu mewn annghofrwydd, mor sicr ag y cleddir eu cyrff yn y pridd. Mae yn bosibl y gwneir rhyw sylw o lafur ac ymdrechion eu gwŷr; ond caiff eu llafur, a'u hunanymwadiad, a'u hymdrechion hwy, i ba rai y mae y gwŷr hyny yn ddyledus am haner eu defnyddioldeb, fod yn ddisylw ac yn ddigoffa. Yn y dydd y datguddia Duw ddirgeloedd dynion, y mae yn ddiau genym y bydd y Meistr mawr yn anerch llawer gwraig a annghofiwyd yn fuan, hyd yn nod gan y rhai a dderbyniasant ddaioni ysbrydol drwy ei llafur a'i hunanymwadiad, fel un wedi gwneud yr hyn a allodd—fel un a "weithiodd yn dda." Ond bu farw Mrs. Shadrach cyn i'r plant gael ond haner eu magu; a gellir casglu fod y golled yn fawr ar ei hol; ond gofalodd Rhagluniaeth am forwyn ofalus ac ymdrechgar i Shadrach. Sengai hon yn ol traed ei meistres mor bell ag y gallai, ac enillai wrth ei hedau a'i nodwydd ambell i swllt neu chwe' cheiniog i gynorthwyo ei meistr. Arosodd gydag ef am gymaint a deunaw mlynedd, nes oedd y plant i gyd wedi eu magu; a chan fod cysylltiad mor bwysig rhyngddi â theulu ac amgylchiadau ei meistr, cysyllter ei henw âg ef eto—Mrs. Ann Herbert, Talybont, ydoedd; ac y mae y darllenydd yn ddyledus iddi am nid ychydig o ffeithiau y cofiant hwn.[2]
Ond y mae un ffynonell eto heb ei nodi—Rhagluniaeth. Onid oedd yn gweithio gwaith yr hwn a'i danfonodd? ac ai tebyg y gwnai Duw ei ddanfon i gyflawni ei waith heb drefnu fod cynaliaeth iddo? Na, bu llaw Rhagluniaeth yn amlwg yn ei ddyddiau boreuol, fel y gwelsom; a'r un modd pan ydoedd tua chymydogaeth Llanrwst; ac nid tebyg y gwnai Rhagluniaeth ei adael yn y diwedd. Clywsom ei fod unwaith yn myned oddicartref i bregethu i ryw gyfarfod mawr neu gilydd; ond er crafu, nid oedd ganddo yr un ddimai yn ei logell i gyfarfod â'i dreuliau ef a'i geflyl; a'r hyn oedd yn llawer pwysicach na hyny, nid oedd yr un ddimai i'w gadael ar ol i'r wraig a'r teulu ymgynal arni nes y dychwelai. Pa beth oedd i'w wneud, nis gwyddai; ond penderfynodd fyned i ddarllen a gweddio, yn ol ei arfer, eyn gadael y teulu. Aethpwyd at y gorchwyl, a diau iddo gyflwyno ei deulu i ofal y Duw a allai ofalu am danynt. Erbyn codi oddiar eu gliniau, dyma lythyr yn dyfod iddo, yn cynwys digon o arian i gyfarfod â'i angenion ef a'r teulu, ac nis gwyddai yn y byd pwy oedd wedi ei ddanfon. Nid yw ein hawdurdodau yn cyd-ddyweyd gyda golwg ar ei gynwysiad; dywed un mai punt oedd ynddo, tra y dywed arall fod ynddo bump o honynt.
Wedi iddo ddyfod i Dalybont, bu raid iddo adeiladu tŷ i breswylio ynddo; ac er nad oedd ef ond yr hen dŷ pridd y cyfeiriasom ato eisoes, eto yr oedd hi yn gryn orchwyl iddo godi hwnw heb arian. Gyrodd yn mlaen arno yn egniol; ond er cyniled oedd, gwaghawyd yr exchequer';--mewn geiriau ereill, ddarllenydd, gosodwyd ef yn y cyffion gan bwrs gwâg. Beth oedd i'w wneud? A raid gadael y tŷ pridd ar ei haner? Pe felly, gallai cawod neu ddwy o wlaw olchi cryn lawer o hono i ffwrdd. Ond y mae Rhagluniaeth yn amserol, ddarllenydd;—nid oes mynyd yn cael ei golli ar ei hawrlais hi. Yn annisgwyliadwy, dyma lythyr yn dyfod i Shadrach oddiwrth ei hen gyfaill Mr. Jones, o Gaer-gŵr y ceffyl a'r cyfrwy, cofier—yn cynwys rhodd o ddeg punt iddo. Trwy hyny, gorphenwyd yr adeilad, yn mha un y bu yn byw gan mwyaf tra yn Nhalybont. Yn hyn, caiff y darllenydd gipolwg ar ffynonellau eynaliaeth Shadrach a'i deulu. Ac fel ffrwyth oddiar ei brofiad ei hun, arferai gynghori pregethwyr ieuainc i beidio byth gwrthod galwad i eglwys wan am ei bod hi yn wan.
Mae yn ddiau mai cynghor tra phriodol ydyw hwn; ac y mae yn iechyd i galon dyn glywed rhywun fyddo wedi gwneud yn ol y cynghor ei hun yn ei roddi i ereill. Ymddengys i ni fod peidio gwneud yn ol y cynghor hwn yn sarhad ar ein Meistr, gan ei fod yn cynwys anymddiried ynddo fel un yn gofalu am ei weision. Os bydd lle iddo weithio mewn eglwys wan, ac nid i guddio ei dalentau megys mewn napcyn, aed yno gan ymddiried yn Nuw. Mae yr Arglwydd wedi bod yn ffyddlon yn mhob oes i'r rhai a'i gwasanaethant. Mae yn bosibl na chânt lawnder, ond cânt ddigon. Mae yn dra thebyg na lenwir dim o'u byrddau "â phob rhyw beth;" er hyny bydd eu bara a'u dwfr yn sicr. Onid yw ffeithiau yn dangos hyn?
Pwy welodd y cyfiawn—y gŵr sydd yn ffyddlawn i Dduw. "wedi ei adu?" Bu yn lled gyfyng ar Elias; ond daeth cigfrain âg ymwared iddo. A dywed Phillip Henry wrthym nad oedd ef yn gwybod am gynifer ag un engraifft o'r ddwy fil Annghydffurfwyr, yn ein gwlad ein hunain, wedi dyoddef gwir eisieu, heb son am farw o rewyn. Ac os bu amgylchiadau dyfodol neb erioed o weision Duw yn dywyll, bu amgylchiadau y rhai hyny felly. Trowyd hwynt o'u sefyllfaoedd yn hollol ddiddarpariaeth; er hyn, cawsant eu cynal. Ac yn ddiweddarach, yn ein dyddiau ein hunain, cafodd ffyddlondeb yr Arglwydd ei amlygu yn neillduol pan y trodd oddeutu pum' cant o weinidogion teilwng a da o'u cartrefi cysurus yn Scotland, yn hytrach na bod yn anffyddlon i'w Harglwydd, heb ddim ar y pryd ganddynt ond eu hymddiried ynddo Ef i gadw eu meddyliau rhag diffygio. Cyfododd goleuni i'r cyfiawnion hyny hefyd yn y tywyllwch. Mae yn ddiau na ddylai neb ond gweithwyr ddisgwyl gael eu cynal; ac y mae yn ddiau na ddylai neb ryfygu drwy ddisgwyl cael eu cynal, a hwythau yn esgeuluso gwneud y goreu o foddion ordeiniedig Duw at hynyma; ond o'r tu arall, tra fyddont yn gwneud y goreu o'r moddion ordeiniedig hyn, mae yn ddiau na ddylai neb o honynt fod yn ddiymddiried mewn Rhagluniaeth. Os ydyw rhyfyg yn dra phechadurus o un tu, y mae yn ddiau fod diffyg ffydd yn Nuw yn bechadurus o'r tu arall. Ond rhaid i ni ddychwelyd yn fwy uniongyrchol at Shadrach.
Dylai fod gan bregethwr lyfrgell yn gystal ag areithfa; ac er cyflawni ei ddyledswydd yn iawn yn yr olaf, rhaid iddo beidio bod yn esgeulus o'r flaenaf. Gyda golwg ar bynciau penodol yr areithfa, gallwn ddyweyd yn debyg i'r apostol Paul, fod yn rhaid i ddyn fyfyrio yn y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros, cyn y bydd ei gynydd fel pregethwr yn eglur i bawb. Rhaid taro craig y gwirionedd â gwialen myfyrdod, cyn y daw llawer o ddwfr o honi. Ac nid bob amser y mae llafur yr areithfa ac eiddo'r fyfyrgell yn cael eu cyfartalu yn briodol; ac y mae hyny, fel pobpeth arall, yn dwyn y ffrwythau sydd yn naturiol iddo. Onid yw llawer pregeth yn fasw o ran ei theimlad, ac yn henaidd o ran yr arogl sydd arni; tra mae pregeth arall yn gyforiog o ddrychfeddyliau hen, newydd, a phwysig, ond fod pob un o honynt yn cael ei lurgunio gan draddodiad annaturiol ac annyben? A chyfrif fod pethau ereill yn gyfartal, nid ydyw hyn ond yr effeithiau sydd yn canlyn yn naturiol o fod yr areithfa yn gwasgu gormod ar y lyfrgell yn y naill achos, neu fod y lyfrgell yn gwasgu gormod ar yr areithfa yn y llall. Os ydyw rhai yn rhy anaml yn eu llyfrgell, y mae yn ddiamheuol genym fod ereill ynddynt yn rhy aml ac yn rhy hir. Er meithrin y meddwl y maent yn lladd y corff; ac y mae corff iach a chryf o bwys annhraethol i bregethwr. Er gwneud pregethwr effeithiol, y mae yn ofynol nid yn unig fod gan ddyn yr hyn a ddywedo, ond hefyd fod ganddo fedr a gallu corfforol i'w ddywedyd. Ac yn awr, wedi bod yn edrych ar Shadrach yn ei ddiwydrwydd a'i ymdrechion diarbed i gyflawni rhanau cyhoeddus ei weinidogaeth, y mae yn dra thebyg fod y darllenydd yn barod i gasglu ei fod yn dra dyeithr i'w lyfrgell. A phe meddyliem, heblaw hyn, ei fod yn un o bregethwyr poblogaidd ei ddydd, ac fel y cyfryw yn cael ei alw yn aml i gyfarfodydd mawrion, yn agos a phell, byddai casgliad felly yn ymddangos yn fwy naturiol fyth. Mae yn dda genym allu dyweyd er hyny, mai nid dyeithr i'w lyfrgell a'i lyfrau ydoedd ef. Mae yr holl lyfrau a gyhoeddwyd ganddo, at y rhai y bwriadwn alw sylw y darllenydd eto, yn ddigon i brofi hyny. Ac er yr holl lafur cyhoeddus y darfu i ni alw sylw ato eisoes, eto, dywed ef ei hun wrthym ei fod wedi darllen llawer yr holl flynyddau y bu yn Nhalybont. Dywed wrthym ei fod" lawr weithiau drwy y nos, yn darllen, yn gweddio, ac yn ysgrifenu;" ac ychwanega ei "fod yn cael hyfrydwch mawr yn y gwaith." A chan ein bod yn credu fod cymeriad Shadrach fel myfyriwr wedi cael ei ddiystyru i raddau, a hyny yn hollol afresymol a diraid, ni a roddwn gerbron y darllenydd rês o'r llyfrau a ddarllenwyd fwyaf ganddo. Dywed wrthym mai y llyfrau cyntaf fuont yn gynorthwy iddo ef ddeall ychydig o'r Beibl oeddynt esboniadau Mathew Pool, Henry, Scot, Gill, Doddridge, Guise, Manton, a Durham, ac esboniad "rhagorol" Dr. Lewis ar y Testament Newydd. Bu Cyrff Duwinyddiaeth Brown, Lewis, Gill, Dwight, Watson, Leigh, Usher, a Witsius, yn ddefnyddiol iawn iddo. Darllenodd lawer hefyd o waith Flavel, Goodwin, Esgob Hall, Hervey, Blair, Witherspoon, Edwards o America, Bellamy, Baxter, Dr. Owen, Charnock, Dr. Watts, Erskine, Ambrose, a Strong. Darllenodd hefyd weithiau Howe, Stennett, Simeon, Boston, Preston, Jackson, Beveridge, Burroughs, Doolittle, Weemse, Keach, Taylor, Dr. Evans, Mason, Buck, a Wilson. Am yr holl rai hyn, dywed fod eu darllen wedi bod o lawer o leshad ac adeiladaeth iddo. Heblaw hyn, darllenodd weithiau Dr. Whitby, Tillotson, a Fuller, yn nghyd a gwaith Dr. Williams, Rotherham. Dywed am y rhai hyn, fod ynddynt oll lawer o bethau da; ond ychwanega yn awgrymiadol iawn, " Ond y mae gan bob dyn hawl i farnu drosto ei hun: diolch byth am hyny." Diolch byth am hyny, dywedwn ninau hefyd, ac yr ydym "drosom ein hunain" yn barnu fod yma ryw gymaint o annghymeradwyaeth yn yr "ond" arwyddocaol hon. Darllenodd lawer o lyfrau Cymraeg a Saesonaeg heblaw y rhai hyn; ac yn ei ddyddiau diweddaf darllenai lawer ar esboniad ei hen gydfilwr, Dr. Phillips, ar y Testament Newydd. Yn awr, y mae yn ddiau fod ei ymborth meddyliol wedi bod yn dra maethlon; ond diau hefyd y buasai yn llawer gwell pe bai yma fwy o amrywiaeth nag y sydd. Y mae llawer o bethau heblaw duwinyddiaeth yn angenrheidiol ar ddyn cyhoeddus. Ond hyd yn nod ag addef y coll hwn, er nad oes genym yr un' sicrwydd pa mor bell yr oedd yn euog o hono, eto ein barn ddiysgog yw, ei fod wedi darllen llawer iawn mwy na deg o bob dwsin o'r rhai sydd wedi bod yn siarad yn ddiystyrllyd am dano. Y mae yn syndod annghyffredin genym pa fodd y gallodd ddyfod i ben a darllen mor helaeth.
Nid oes nemawr o hynodrwydd yn perthyn i Dalybont fel pentref. Y peth mwyaf yno sydd yn tynu sylw dyeithriaid yn gyffredin, yw y ddau gapel hardd sydd tua chanol y lle, mor amlwg, ac mor agos at eu gilydd. Perthyna'r naill i'r Annibynwyr, a'r llall i'r Bedyddwyr. Y maent yn adeiladau golygus -llawer gwell na'r cyffredin; ac yn llawer o glod i'r sawl a'u codasant. Ond, rywfodd, blin yw eu bod mor agos at eu gilydd. Anffafriol iawn yw'r argraffiadau ar feddwl dyeithriaid wrth edrych arnynt. Y mae y ddwy fynwent yn ffinio â'u gilydd; ond fod mur isel yn eu rhanu; ac nid yw y ddau gapel ond ychydig droedfeddi o bellder. Gellid meddwl wrth edrych ar bethau, fod llawer o wahaniaeth barn neu wrthwynebrwydd teimlad rhwng y cyfeillion sydd yn arfer addoli yn y ddau gapel hyn â'u gilydd, gan eu bod yn ymgadw mor benderfynol ar eu penau eu hunain, er mor agos ydynt o ran lle. Ond pell iawn oddiwrth y gwir ydyw hyn. Gallai dyeithriaid gael eu twyllo yn fawr pe barnent berthynas y cyfeillion hyn â'u gilydd oddiwrth ymddangosiad y claddfeydd a'r capeli. Y mae y rhai hyn, rhaid addef, yn ymddangos yn "sectarol" iawn, chwedl ein cyfeillion Eglwysig, ac o'r braidd yn fygythiol. A chymharu pethau mawr i bethau bach—parvis componere magna, ys dywed Virgil—y mae y capeli hyn yn debyg i ddau hwrdd direidus, pan fyddont yn edrych yn gilwgus ar eu gilydd, a'r naill ar fin taro y llall yn y man lle dylai fod ymenydd, Y mae y gymhariaeth yn ymddangos yn gartrefol, ni a addefwn, ond ni a. hyderwn y cawn faddeuant y darllenydd pan ddywedwn wrtho nas gallwn, ar y pryd, gael un arall mwy urddasol a chymwys i osod allan yr argraff y mae y ddau gapel hyn yn adael ar ein meddwl. Er hyny, y mae yn dda genym feddwl fod y cyfeillion mewn teimladau pur frawdol tuagat eu gilydd. Gwnai y naill, mor bell ag y gwyddom, un peth rhesymol i wasanaethu y llall. Ac eto, fel y gellid dysgwyl, y mae rhai ysgarmesoedd wedi bod rhyngddynt. Nid bob amser y cydunid i adael bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, yn bwnc agored. Rhyw balance of power crefyddol ydyw hwn, sydd wedi bod yn achos ymrafaelion dirif yn mhob oes a gwlad. A chan fod y pleidiau yma mor agos i'w gilydd, o'r braidd y gellid disgwyl iddynt hwythau ymgadw. rhag rhoddi aml i bergwd y naill i'r llall; yn enwedig os cofiwn y gwirionedd diamheuol mai dynion yw dynion yn mhob man. Pan oedd Shadrach yn gweinidogaethu yn Nhalybont, yr oedd gwron pur aiddgar dros drochi yn fugail ar eglwys y Bedyddwyr yno. Ac yn aml iawn, deuai rhai o'r bobl at Shadrach i ddweyd wrtho, "O Mr. Shadrach bach, yr oedd Hwn a Hwn yn ei rhoddi adref i chwi'r taenellwyr ddydd Sul." Am dro dywedai yntau, "Gadewch iddo fe." Ond gan fod adroddiadau cyffelyb yn dyfod i'w glustiau dro ar ol tro, penderfynodd o'r diwedd ymbarotoi i'r frwydr: ymosododd ar amddiffynfeydd ei wrthwynebydd mor egniol ag y medrai; a gallem feddwl iddo yntau hefyd ddyfod o'r frwydr hon yn debyg i'r rhan fwyaf fu yn ei hymladd o'i flaen-wedi cael cyflawn fuddugoliaeth ar ei wrthwynebydd, yn ol ei farn ei hun. Fodd bynag, yr oedd Shadrach yn teimlo yn ddigon gwrol, fyth er ei ymosodiad cyntaf, i ddychwelyd i'r frwydr oddeutu unwaith yn y flwyddyn, tra fu ei gyfaill yn Nhalybont.
Ond er pob ymdrafodaeth, y mae golygiadau y ddwy blaid yn para yr un fath ag 'o'r blaen. Y mae y naill a'r llall o honynt yn teimlo yn berffaith sicr yn ei meddwl ei hun. Erbyn hyn, fodd bynag, y mae y naill blaid a'r llall, feddyliem, wedi gallu dysgu y wers anhawdd hono o "oddef eu gilydd mewn cariad" yn well na'r pryd hwnw. Gan fod y naill yn ewyllysio myned i'r afon, y mae iddi bob groesaw i fyned gan y llall, ond iddi ymgadw rhag myned yn rhy ddwfn i fod yn ddiogel. A chan fod y blaid arall yn tybied y gwna glan yr afon y tro yn llawn cystal, goddefir iddi hithau gymeryd ei llwybr ei hun. Yn fyr, y mae y ddwy blaid yn ymgytuno i'r naill a'r llall o honynt gymeryd gymaint o ddwfr ag a welo yn dda. Ac onid ydyw yn drueni meddwl na bai pleidiau crefyddol wedi dyfod i'r penderfyniad hwn yn gynt? i beth y mae yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn enwedig, yn byw ar ysgar o gwbl?
Gan 'fod eu trefniadau eglwysig yn gyffelyb, paham nas gallent fyw yn gysurus mewn undeb a chydfod? Ie, gofynwn eto, paham? Ai tebyg fod yr ychydig sydd yn eu gwahaniaethu yn ddigon hefyd i'w gwahanu? Yn ein byw nis gallwn weled ei fod yn ddigon. A'r unig reswm, debygem ni, eu bod ar ysgar, ydyw fod mwy o bwys yn cael ei osod ar y mintys a'r anis mewn crefydd nag ar bethau trymach y gyfraith.
Nid ydym yn cymeryd arnom i benderfynu pa le y mae y bai, ond gwyddom fod bai, ie, a phechod, yn rhywle. Mater dadl ar y goreu yw bedydd-mater yw ag y mae Eglwys Dduw er's canrifoedd lawer wedi bod yn rhanedig iawn yn ei barn am dano. Nid oes ond pobl o deimlad anffaeledig a ddywedant nad ydyw hwn, fel llawer ereill o bynciau crefydd, yn ddadleuadwy. Ond nid mater dadleuadwy yw goddef ein gilydd mewn cariad. Y mae hyn yn ddyledswydd amlwg ac addefedig. Ac nid ydym yn gweled y byddid yn gofyn gormod oddiwrth yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn neillduol, iddynt ddysgu goddef eu gilydd yn ddigonol i beidio gadael i bwnc mor ddadleuadwy ac ailraddol a bedydd, yn ei ddeiliaid a'i ddull, eu cadw ar ysgar. Onid ydyw undeb teimlad a chydweithrediad yn fwy pwysig nag unoliaeth barn am beth ailraddol—pob peth nad yw cadwedigaeth enaid yn ymddibynu arno? Hyd yn nod pe teimlai rhywrai fod yn rhaid iddynt fod yn ffyddlon i'w golygiadau ar y pwnc hwn, paham, wedi'r cyfan, y byddai eisieu i'r undeb gael ei dori serch hyny? Onid ydyw aelodau o'r un enwad, yn awr, yn gwahaniaethu llawn cymaint oddiwrth eu gilydd ar bynciau ereill? Ac er eu bod hwy yn ffyddlon i'w golygiadau neillduol, y maent yn gallu cydfyw mewn tangnefedd yn ddigon hawdd. Y mae yn dda genym weled arwyddion fod y ddau enwad yn dynesu at eu gilydd yn Lloegr. Paham y rhaid iddynt fod yn wahanol yn Nghymru?
Ond y mae terfyn i bob peth yn y byd hwn; ac felly y bu terfyn ar hoedl a llafur Shadrach. Y mae haul ei fywyd eisoes wedi croesi ei eithafnod, ac y mae prydnawn ei fywyd wedi dechreu; ond fel yr oedd yr arwyddion o ddyfodiad y nos yn cynyddu, fel hyny, tebygem, y teimlai yntau fod rhaid iddo gyflawni gwaith yr Hwn a'i hanfonodd tra yr ydoedd hi yn ddydd. Y mae un ran o'i esgobaeth eang eto heb ei meddianu, ac nis gallai marw fod yn beth boddhaol ganddo tra fyddai hyny heb ei wneud. Awn rhagom, yn awr, i edrych arno yn sefydlu yr achos Annibynol Aberystwyth.
Y mae nodwedd trefol Aberystwyth yn rhy adnabyddus i'r darllenydd i alw am ddesgrifiad manwl o honi oddiar ein llaw. Digon yw dyweyd ei bod erbyn heddyw yn un o'r trefydd mwyaf dymunol o ran adeiladwaith a sefyllfa. Y mae yr ystrydoedd wedi eu cynllunio yn dda, ac yn cael eu cadw yn lân. Y mae ei hagosrwydd i'r mor, ac iachusrwydd ei hawyr, yn peri iddi fod yn gyrchfan dewisol gan ymwelwyr o bell ac o agos, yn neilduol felly y rhai ydynt o'r radd flaenaf. Ас wedi iddynt ddyfod, y mae godidogrwydd ac amrywiaeth y golygfeydd cylchynol iddi yn cadw eu meddyliau rhag diflasu. Y mae y trigolion yn foneddigaidd, heb fod yn goegfalch; ac yn gymdeithasol, heb fod yn ëofn a haerllug; ac o ran eu golygiadau gwleidyddol, y maent yn fwy rhyddfrydig na thrigolion nemawr i dref yn y dywysogaeth. Y mae yn ddiau genym fod eu rhyddfrydedd yn ddyledus am lawer o feithriniaeth a nodded i hen deulu urddasol Gogerddan. Y mae agosrwydd a dylanwad y teulu hwn wedi bod yn wrth weithydd i ddylanwad torïaidd teuluoedd cymydogaethol ereill. Gallem ddisgwyl, gan hyny, y byddai egwyddorion rhyddfrydig Annibyniaeth yn bur dderbyniol yn y dref hon, ac y cawsai eglwys Annibynol ei sefydlu ynddi yn foreu. Ac er ys blynyddoedd yn ol, yn neillduol felly cyn i reilffordd yr Amwythig gael ei hagor, yr oedd Aberystwyth a Machynlleth fel dau borth rhwng y gogledd a'r deheudir; ac yr oedd pob gweinidog a phregethwr, wrth fyned i efengylu o'r naill ran o'r dywysogaeth i'r llall, yn bur debyg o basio drwy y ddwy dref fel eu gilydd; ac y mae hyn yn ychwanegu ein syndod fod y dref hon wedi cael ei hesgeuluso cyhyd. Ond beth dal siarad; er fod rhai o weinidogion yr Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma yn achlysurol rai blynyddau cyn i'r achos gael ei sefydlu, weithiau yn nghapel y Bedyddwyr, brydiau ereill yn nghapel y Trefnyddion, ac yn awr ac eilwaith mewn tai anedd, eto ni wnaed un ymdrech effeithiol i gael meddiant parhaol o'r maes. Yn y cyfamser, achubodd enwadau eraill y cyfleusdra, yn neillduol felly y Methodistiaid Calfinaidd. Tra yr oedd yr enwad parchus hwn yn ei fabandod, yr oedd Aberystwyth yn un o'r lleoedd penodol hyny y byddai ei aelodau cyntaf yn ymdyru iddynt bob mis, er cael cyfleusdra i wrando un o'r gweinidogion offeiriadol, ac i dderbyn elfenau y cymundeb o'i law: oblegyd hyn cafodd y Methodistiaid afael ar y trigolion yn lled foreu. Ac oni bai mai tref yw Aberystwyth, nid ydym yn sicr y byddai doethineb na chrefydd, gan hyny, yn cyfiawnhau Shadrach yn ceisio rhoddi ei droed i lawr ynddi pan y gwnaeth. Yn ol ein barn ni, y mae yn fwy o bechod nag o grefydd i un enwad crefyddol geisio ymwthio i mewn i gymydogaeth gyfyng fyddo wedi cael ei meddianu bron yn hollol gan enwad uniongred arall o'r blaen. Ond ar lawer o olygiadau, dylid gwneud eithriad o drefydd: nid yn unig ar gyfrif eu poblogrwydd, ond hefyd ar gyfrif y ffaith fod llawer iawn o aelodau eglwysig y wlad yn dyfod i aros ynddynt; ac os na fydd lleoedd priodol i'w derbyn, ymunant efallai am eu hoes âg enwadau ereill, neu fel y mae yn digwydd yn fynych, gadawant eu crefydd yn hollol. Yr ydym, gan hyny, yn edrych ar ymgais Shadrach yn ceisio sefydlu eglwys Annibynol yn Aberystwyth fel peth angenrheidiol yn gystal a chyfreithlon. Wedi rhyddhau ein ffordd fel hyn, ni a geisiwn arwain y darllenydd i edrych arno yn dwyn amcan ei galon oddiamgylch. Ein cynllun presenol fel enwad, yn Llundain, a threfydd mawrion ereill, ydyw cael capel yn gyntaf, a theimlir yn dra hyderus y gellir casglu cynulleidfa; ond anaml y gwnai y cynllun hwn y tro yn Nghymru. Yn gyffredin, rhaid cael cnewullyn go dda o eglwys a chynulleidfa yma, cyn beiddio codi capel; a dyna ydoedd cynllun Shadrach. Bu ef ei hun ac Edward Mason, un o'i ddiaconiaid yn Llanbadarn, yn chwilio am dymhor yn aflwyddianus am dŷ i bregethu ynddo; ond yn ffodus, o'r diwedd, darfu i dorïaeth diblygu un David Jenkins fod o wasanaeth iddo. Yr oedd hwn wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid, ac wedi cymeryd yn ei galon i ffraeo â hwynt, am iddynt ryfygu tybied y gallai neb ond offeiriad esgoburddedig wasanaethu ar y cymundeb. Gan nad faint fyddai eu duwioldeb, eu dysgeidiaeth, a'u medrusrwydd, ïe, a'u llwyddiant gweinidogaethol;—gan nad pa un a fyddent wedi cael eu heneinio gan yr Ysbryd Glân ai peidio,—nid oeddynt yn gymhwys, yn ol barn y gwr hwn, at y gorchwyl pwysig o dori bara, os na fyddent wedi eu cysegru at hynyma gan law esgob. Yn gwbl sicr ganddo fod aberthu o'i feddianau ar allor y dorïaeth hon yn wasanaeth i Dduw, darfu i'r gŵr hwn benderfynu adeiladu capel bychan ar ei draul ei hun, at wasanaeth y bobl hyny oeddynt am i bob peth fod fel yr oeddynt. Wedi adeiladu y capel, fodd bynag, gwelodd er ei siomedigaeth nad oedd pobl eraill ddim yn gosod cymaint o werth ar ei ymdrechion ag a wnai ef ei hun. Ni ddeuai neb o'r Methodistiaid i bregethu ynddo! Ah! yr oedd y llanw wedi ymgodi yn llawer uwch na'r hen wely offeiriadol, ac nid oedd y capel bychan hwn yn ddigon i'w atal. Yn ngwyneb hyn, rhoddodd Jenkins y gair allan y gwnai ei osod i'r Annibynwyr, ac felly y bu. Aeth Shadrach ato, a chymerodd ef ganddo am naw punt y flwyddyn—"Ac yr oeddwn i yn atebol am dalu yr ardreth am dano fy hun," meddai Shadrach, "yr hyn a'm gwasgodd yn fawr wrth geisio magu fy mhlant bychain yn y blynyddoedd celyd hyny." Yr hen was ffyddlon, y mae yn bur hawdd genym dy gredu! ac am y gallent ragweled y wasgfa hon, byddai llawer pe byddent yn dy le, yn "tosturio wrthynt eu hunain," fel na byddai hyn iddynt. Pregethodd yn y capel hwn gyntaf am ddau o'r gloch prydnawn Sabboth, Ionawr 21, 1816, oddiwrth Esaiah xxxiii. 20, "Gwel Sion, dinas ein cyfarfod," &c., ac ar ddiwedd y cyfarfod cymerodd gyfleusdra i alw y tŷ yn Gapel Sion, yr hyn yw enw addoldy yr Annibynwyr hyd heddyw. Fe allai mai buddiol fyddai nodi yma fod Mr. Morgan, Llanfyllin, yn dyweyd fod pregethu sefydlog wedi bod yn flaenorol i hyn am ryw dymhor, mewn rhyw hen ystordy perthynol i'r gwaith llongau, oeddid wedi gymeryd at y gorchwyl.
Rhwng y darllenydd a ninau, y mae lle cryf iawn i dybied mai nid crefydd i gyd oedd yn dylanwadu ar feddwl torïaidd hen frawd y capel. Wedi i Shadrach fod yn pregethu am ddwy flynedd yn ei gapel ardrethol ei hun, gorfu arno ymadael o hono, oblegyd fod ei adeiladydd yn gofyn gymaint ddwy waith o ardreth am dano; a chafodd y "Capel Sion" hwn ei droi gan ei berchenog i fod yn arsenal i gadw arfau milwyr y dref ynddo. Y fath ryfyg, onide, ddarllenydd! Ond, o ran hyny, onid oedd yr ardreth gymaint arall oddiwrth ganlynwyr Mars, duw rhyfel, ag oddiwrth ganlynwyr Tywysog Heddwch? Ac heblaw hyny, onid ysbryd rhyfelgar a'i dechreuodd? a pha beth allai fod yn fwy naturiol nag iddo gael ei droi at ddybenion rhyfelgar yn y diwedd? Mae yn bur debyg fod Shadrach mewn teimladau lled barod yn ngwyneb hyn i bregethu oddiar y geiriau "Gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch." Ond, er iddo gael ei siomi y mae yn ddiau, eto ni ddigalonwyd ef. Am chwe' phunt a chwe' swllt y flwyddyn o ardreth, cymerodd hen ysgubor helaeth yn Heol-y-Frenines, i bregethu ynddi; ac wrth reswm, efe ei hun oedd yn gyfrifol am bob gofynion am dani. Dywed wrthym fod cryn draul wedi myned arno i wella llawr y tŷ hwn, ac i roddi meinciau ac areithfa ynddo. Agorwyd y tỳ hwn i bregethu ynddo Ebrill 12fed, 1818, a thestyn ei bregeth gyntaf ynddo oedd 2 Cron. iii. 1-testyn priodol iawn, nid yn unig am fod yma gyfeiriad at lawr dyrnu Ornan, ond hefyd am fod yma gyfeiriad at adeiladu tŷ yr Arglwydd. Nid oedd ond ychydig o arwyddion llwyddiant ar ei lafur yn y dref, ac oblegyd hyny, darfu i hen gyfeillion Llanbadarn flino ar ben dwy flynedd i ddyfod yno ragor. Ond, chwareu teg iddynt hefyd, yr oeddynt yn foddlon i Shadrach bregethu yn y dref pryd bynag y cawsai gyfleusdra, "ond idod gadw yn gyson yn Llanbadarn at eu hamser penodol hwy." Er dyfod i fyny â phob telerau, yr oedd Shadrach yn arferol o bregethu bedair gwaith ar y Sabboth, unwaith yn y mis, y blynyddau hyn. Yr oedd
y yn dyfod o Dalybont i Lanbadarn erbyn naw,-elai yn ei flaen i'r dref erbyn un-ar-ddeg,-dychwelai i Dalybont erbyn tri, ac elai yn ei flaen i'r Gareg, neu i Goedgruffydd, erbyn yr hwyr. Yr oedd Edward Mason yn parhau i gynal ei freichiau yn egniol gydag achos y dref; ond cyn diwedd y flwyddyn hon, bu y gwas ffyddlon hwn farw, ac erbyn hyn nid oedd neb yn aros i agor y " tŷ cwrdd" yn Aberystwyth ond dyn ieuanc o grydd, o'r enw Richard Hughes; ac yn fuan iawn, aeth hwnw a'i deulu i Liverpool. "Erbyn hyn," meddai Shadrach," nid oedd genyf un gwrryw proffesedig yn byw yn y dref; ac yr oedd pob peth yn ymddangos yn hynod ddigalon i mi, gyda golwg ar godi achos yn Aherystwyth." Ond os oedd pethau yn ddigalon, ni ddigalonwyd ef;-os oedd y gwynt yn wrthwynebus, "ni lwyr fwriwyd ef i lawr." Ha! nid yn awr y gwelodd Shadrach amgylchiadau digalon gyntaf.
Erbyn y flwyddyn 1819, yr oedd pethau yn dechreu gwisgo agwedd mwy llewyrchus; ac ar y 30ain o Fai yn y flwyddyn hon, cafodd Shadrach yr hyfrydwch o gorffori eglwys yma, a chafodd rhyw wraig, ac un o'r enw Abraham Evans, eu derbyn ar y pryd. Yr oedd rhyw nifer o aelodau Llanbadarn wedi rhoddi eu presenoldeb ar yr achlysur. Yr ydym yn deall mai milwr oedd yr Abraham Evans hwn yn ei ddyddiau boreuol; ac oblegyd hyny, ni ddylid disgwyl cymaint oddiwrtho, a phe bai wedi cael gwell manteision. Ond dywed Shadrach wrthym iddo fod yn ffyddlon iawn; ac heb fod yn hir daeth ereill i ymuno âg ef. Ac o ddiffyg un cymhwysach, fe allai, y gŵr hwn oedd yn arfer cyhoeddi i Shadrach; a chan nad pa enwogrwydd a enillodd iddo ei hun fel milwr cyn hyn, y mae yn ddiau genym, iddo enill llawer iawn rhagor o hono ar un stroke ryw dro wrth gyhoeddi.—Os ydym yn cofio yn gywir, fel hyn y dywedodd, "Mae y gwr dyeithr i fod yn y capel hwn heno am chwech, a Mr. Shadrach yn Nghlarach—a'r gloch yn llefaru." Go lew'r gloch! ond dylai lefaru o ran hyny, gan fod ganddi 'dafod'.?
Yn awr, dyma'r eglwys wedi cael ei ffurfio;-y peth nesaf ydyw cael capel. Yn y byd hwn, rhaid cael y plisgyn yn gystal a'r cnewullyn; ond gorchwyl annghyffredin ydyw adeiladu capel, a dim llun arno, lle byddo yr eglwys yn wan. Nid llawer o goed a cheryg ddaw at eu gilydd, hyd yn nod at gapel, ond trwy nerth arian. Ond pa fodd y mae cael arian yw y pwnc. Peth anhawdd yw hyn ar y goreu. Hyd yn nod pan fyddo arian i'w cael, y mae yn ddigon anhawdd eu cael allan o'r llochesau yn mha rai yr ymguddiant. Fel y mae arian dyn yn ei bwrs, fel hyny, lawer gwaith, y mae ei bwrs yn ei galon; mewn canlyniad, rhaid agor ei galon cyn y gellr cael gafael ar y trysor a guddiwyd ynddi: ac y mae pob un sydd yn gwybod tipyn am y peth yn brofiadol, yn gwybod mai un o'r pethau mwyaf anhawdd i'w agor o bob peth a berthyn i ddyn yw ei galon. Ond gorchwyl mwy anhawdd na hyny ydyw cael arian lle na byddont i'w cael; a dyna, ddarllenydd, ydoedd sefyllfa Shadrach yn bresenol.—Yr oedd arno eisieu arian, ond nid oedd arian i'w cael; ac yn ngwyneb hyn, nid ydym yn gweled fod ond un llwybr yn agored iddo, sef myned oddiamgylch i'w ceisio pa le bynag y tybiai y gallai gael gafael arnynt. Yr oedd ef ei hun yn gyfrifol am yr holl dreuliau; ac fel y byddai ganddo rywbeth i gyfarfod â hwynt, elai oddiamgylch i gasglu tra fyddai yr adeiladwyr yn gweithio, a gobeithiai, drwy gynildeb a dyfalwch, i allu casglu digon i dalu huriau y gweithwyr. Gan nad oedd neb yn gyfrifol am un ddimai ond efe, yr oedd o bwys ymgadw rhag dyledion; a chyda'r amcan hwn, teithiodd lawer drwy Gymru a Lloegr. Diau genym mai nid ychydig o groesau a gafodd yn y gwaith o gasglu. Mae yn ddiamheu fod trymder croesau yn ymddibynu cymaint ar ystâd neu deimlad yr enaid fyddo yn eu dwyn, ag ar yr hyn fyddo yn groesau iddo. Ond, a barnu teimladau pobl ereill oddiwrth ein heiddo ein hunain, gallem feddwl mai nid croesau ysgafn mo honynt, oedd y rhai cysylltiedig â hir deithiau casglyddol y tadau. Mae llawer o siarad genym am garchariadau a chyffion; ond erbyn y gwneir pob peth yn amlwg gan yr Hwn sydd yn fwybod am flinder ac ymynedd y saint, mae yn bosibl iawn yr ymddengys llawer o'r croesau casglyddol yn llawer mwy anhawdd eu dwyn na'r rhai hyny. Nid poenydiau corfforol yw y rhai anhawddaf eu dyoddef. Ni ryfeddem na fyddai yn llawer gwell gan lawer hen was ffyddlon fu yn casglu at ein capeli, gael ffonodiad neu ffrewylliad go dda, yn hytrach na'r sarhad a'r dirmyg a daflwyd lawer gwaith i'w wyneb. Erbyn heddyw, y mae yn dda genym feddwl fod amgylchiadau crefydd yn Nghymru yn ei gwneud yn ddiangenrhaid i neb fyned lawer oddiamgylch i gasglu. Y mae eglwysi yn ei chael yn llawer hawddach peth i dalu am eu capeli eu hunain nag y meddyliasant. A chan fod yr angenrheidrwydd am y teithiau casglyddol yn darfod, darfydded yr arferiad hefyd, o leiaf mor bell ag sydd bosibl. Heblaw achlysuru croesau i feddyliau y casglwyr, y mae yr arferiad hon wedi bod yn dra gorthrymus ar ein heglwysi. Y mae wedi bod yn achlysur i ambell eglwys i aros yn ddiog a diwaith, tra yr oedd yr eglwysi bywiog a llafurus, nid yn unig yn casglu i gyfarfod â threuliau uniongyrchol ein capeli, ond hefyd y treuliau cysylltiedig â chasglu atynt heblaw.
Dywedwyd wrthym fod Shadrach wedi casglu yr holl arian angenrheidiol at adeiladu y capel, mewn symiau yn amrywio o ugain punt i ffyrling. Bu allan am lawer o'r flwyddyn 1822 yn casglu y symiau hyn. Fel y rhan fwyaf o gasglwyr y dyddiau hyny, darfu i Shadrach, wrth reswm, gyfeirio ei gamrau tua Llundain. Cychwynodd tuag yno Ion. 26ain, 1823, "A bum yno dros fis o amser ar dori fy nghalon," meddai, "yn methu casglu fawr o arian." Nid rhyfedd chwaith ei fod "ar dori ei galon," oblegyd ychwanega i ddyweyd wrthym, " fod y gair allan yn y brif ddinas fod yno ddeugain o weinidogion yr un amser ag ef." Ac er fod Llundain yn anferthol fawr, hyd yn nod y pryd hwnw, eto, diau genym fod yr holl weinidogion hyn yn debyg i wartheg Pharaoh, yn bwyta eu gilydd mewn ffordd. Ond, er nad yw Shadrach yn son dim am hyny ei hunan, eto, clywsom gan un a ddylai fod yn gwybod, gan ei bod yn bur gyfarwydd â'i amgylchiadau a'i helyntion, fod Rhagluniaeth wedi gwenu arno y tro hwn eto. Rai blynyddoedd cyn hyn, yr oedd boneddiges ieuanc wedi dyfod i Aberystwyth ar ymweliad. Fel yr oedd hon ryw ddiwrnod yn rhodio ar un o heolydd y dref, canfyddai Shadrach yr ochr arall iddi; ac yn hollol ddiseremoni, aeth ato, a gofynodd iddo, " Onid efe oedd gweinidog yr Annibynwyr yn y dref? " Dywedodd yntau," Ie, Felly, o ychydig i ychydig, ffurfiwyd cydnabyddiaeth rhyngddynt; a galwodd y foneddiges ieuanc fwy nag unwaith yn ei dŷ. Yr oedd y foneddiges ieuanc hon yn nîth i un Mrs. Morley, o Hackney, Llundain, mam (fel y tybia yr ysgrifenydd) i Samuel Morley, Ysw. Yn mhen amser, dychwelodd i Lundain, a dywedodd wrth ei modryb am Shadrach yr hyn oedd agosaf at ei meddwl. Wrth ei chlywed yn siarad, mae yn ddiau genym i hono deimlo cryn ddyddordeb ynddo; oblegyd yn dra buan, ysgrifenodd lythyr cyfeillgar ato. A'r hyn sydd yn dra hynod, ffurfiwyd math o gyfeillgarwch rhyngddynt, a pharhausant i ymohebu am amser hir, er nad oeddynt wedi gweled eu gilydd erioed. Pan ddaeth trafferthion casglyddol Shadrach arno, bu yn hwy nag arferol cyn ysgrifenu at Mrs. Morley; a phan oedd ef yn Llundain, anfonwyd llythyr ganddi ato i Aberystwyth, yn ei ddwrdio yn arw am fod mor esgeulus o honi. Anfonwyd ef ar ei ol i Lundain. Wedi gweled y llythyr, penderfynodd fyned i alw ar Mrs. Morley, yr hyn hefyd a wnaeth. Mawr oedd ei llawenydd i'w weled; a gallwn gasglu mai mawr oedd ei boddhad ynddo, oblegyd ysgrifenodd iddo res o enwau ei chyfeillion, ei chyfeillesau, a'i chydnabyddion, fel y gallai alw gyda hwynt. Gorchymynodd hefyd i'r gwas roddi y carriage yn barod erbyn amser penodol; a dywedwyd wrthym fod y gwas, a'r cerbyd, a'r list, wedi bod at wasanaeth Shadrach fel casglwr. Yn ngwyneb hyn, nid rhyfedd genym iddo fod yn ddigon llwyddianus, ar waethaf ei holl gydymgeiswyr, i gasglu y swm anrhydeddus o gan' punt yn Llundain.
Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, aeth ar ei daith gasglyddol i Yorkshire: " Ond methais gasglu fawr yno," yw yr unig gofnodiad a wneir ganddo. Clywsom, fodd bynag, gan awdurdod dda, hanesyn go hynod am dano ar y daith hon. Wrth deithio o hono yn y blaen, daeth ryw le neu gilydd at dŷ pur foneddigaidd yr olwg arno. Wedi y curo a'r cyfarch arferol, ceisiwyd ganddo ddyfod i mewn, a gosodwyd ef i eistedd yn ystafell y gwasanaethwyr. Yr oedd merch y tŷ yn digwydd bod yno ar y pryd; ac wedi iddi ddeall ei fod yn dyfod o Gymru, gofynodd iddo, a allai efe ddim canu tôn Gymreig iddi? Dywedodd yntau y gallai, a dechreuodd osod ei hun mewn trefn i wneud, er nad oedd ond ychydig o ganwr. Yr oedd ganddo gyfiawnder o lais, a gwnaeth ddefnydd da o hono. Canodd dôn ar yr hen bennill godidog, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," &c., gydag effaith annghyffredin. Cyffrowyd teimladau y ferch i'r fath raddau, fel y galwodd ar ei thad a'i mam i ddyfod rhag blaen i'r gegin, "am fod angel o'r nefoedd wedi dyfod yno." Ar gais y ferch, brysiasant yno, ac o ychydig i ychydig dechreuasant hoffi Shadrach; ac yn dra buan, gofynasant iddo a ddeuai ef ddim i'r parlour. Aeth yno ar eu cais; a pharhaodd yr ymddyddan rhyngddynt dro hir. Gofynent iddo am ei wraig-pa un a oedd hi byw ai peidio, ac am rifedi ac enwau ei blant. Gofynent iddo, hefyd, am achos crefydd yn Aberystwyth. O'r diwedd, wele wr y tŷ yn tynu nifer o bunoedd allan o'i boced, ac yn rhoddi iddo bum punt at y capel, punt iddo ei hun, a phunt yr un i'w bedwar plentyn-Eliacim a David, Johanna ac Efa. Nid sŵn heb sylwedd yn dilyn ydoedd y dôn yna, beth bynag, ddarllenydd.
Yr oedd yn dra chydwybodol wrth gasglu. Nid'yn unig yr oedd yn galw pa le bynag y gallai, ond yr oedd yn arfer cynildeb, ïe, hyd at wasgu ei hunan, yn ei dreuliau personol. Fel enghraifft o lawer o bethau ereill, dywedir mai ei giniaw, hyd yn nod ar y Sabboth, fyddai gwerth ceiniog o gacenau, neu gingerbread; ac i gadw ei dreuliau yn y gwesty mor lleied ag a fyddai yn bosibl, arosai allan wedi amser oedfa y bore i'w bwyta yn y mynwentydd, yn mysg y beddau. Nid ystyriai fod aberth o unrhyw beth yn ormod, ïe, hyd yn nod o angenrheidiau cyffredin bywyd, os gallai drwy hyny gael capel yn Aberystwyth. Pan ofynwyd iddo mewn un man, a gymerai efe ychydig ymborth, dywedodd ei fod yn teimlo yn ddiolchgar am y cynyg, ond nas gallai gymeryd dim iddo ei hun, os na chai rywbeth at y capel yn gyntaf. Da was ffyddlon! Y meistr yn gyntaf—y gwas wedi'n. Yn ngwyneb llafur a hunanymwadiad mor fawr, mae yn ddiau genym mai nid ychydig ydoedd gorfoledd Shadrach pan oedd, rhyw ddeunaw mlynedd ar ol hyn, yn gallu ysgrifenu y geiriau hyn—"Ni bu neb o aelodau yr eglwys yn Aberystwyth yn atebol am un swllt o'r holl draul a aeth at adeiladu eu capel hardd, ac ni thalasant un geiniog o lôg arian." Yn ddiau "y tadau a lafuriasant," a dylai eu llafur a'u hunanymwadiad gael ei gofio genym gyda pharch. Parhaodd yr undeb rhwng Shadrach a'r eglwys hon hyd y flwyddyn 1835, pryd y rhoddodd ei gofal gweinidogaethol i fyny; eto pregethai yma yn achlysurol hyd nes yr aeth yn rhy analluog. Cafodd y pleser cyn ei fynediad ymaith o weled olynydd iddo yn ymsefydlu mewn tangnefedd yn y lle, a phrofion boddhaol y cai ei lafur ef ei hun ei berffeithio yn ei law. Wedi cael hamdden i ymddadrys yn raddol oddiwrth y weinidogaeth a'r byd, bu y gwas ffyddlon hwn farw Ion. 12fed, 1844, yn 69 mlwydd oed. Heddwch ac anrhydedd i'w lwch !
Wele ni, bellach, wedi ceisio gosod a threfnu prif ffeithiau a helyntion bywyd gweinidogaethol Azariah Shadrach o flaen y darllenydd. Mae yn ddiau fod yma lawer iawn o ddiffygion; ond ni a hyılerwn fod yr argraff gyffredinol yn gywir. Ni a wyddom fod llawer iawn o'r mân geryg sydd yn angenrheidiol er perffeithio yr adeilad, ac i gau pob twll o flaen beirniadaeth, yn eisieu; ond ni a hyderwn fod y prif feini sydd yn angenrheidiol er dangos ffurf a llun yr adeilad, wedi eu gosod mewn trefn. Mewn pennod ddyfodol, ni a geisiwn arwain y darllenydd, ar bwys y ffeithiau a osodasom ac a osodwn ger ei fron, i sylwi ar brif deithi ei gymeriad, fel dyn, Cristion, gweinidog, ac awdwr. Cyn ei adael y tro hwn, mae yn briodol i ni ddyweyd, fod marwolaeth Shadrach wedi bod yn deilwng o'i fywyd. Bu fyw mewn llafur, a bu farw mewn tangnefedd. Ar fin yr afon, yr oedd yn gallu dyweyd dau beth tra phwysig am dano ei fun, sef, na ddarfu iddo erioed dori cyhoeddiad; a bod ei enaid yn ddyogel er ys pum mlynedd a deugain. "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn; a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Claddwyd ef yn mynwent Eglwys St. Michael, Aberystwyth, yn ymyl y rodfa; ac os digwydd i'r darllenydd byth fyned i Aberystwyth, mewn awydd i gael gweled y man y gorwedda, aed yn ei flaen yn unionsyth trwy'r fynwent i gyfeiriad yr hen gastell, ac oddeutu haner y ffordd, ar y llaw ddeheu, caiff weled ei fedd-adail olygus, a'r pennill canlynol yn argraffedig arni:
"Bu ei dafod a'i ysgrifell
Yn cyd-daenu efengyl Crist;
Perlau'r groes, ac aur Caersalem,
Gynygiai i dylodion trist;
Drych, a Cherbyd, a Goleuni,
Myfyrdodau lu ar g'oedd:
Un-ar-ugain rhif ei lyfrau,—
Bunyan Cymru'n ddiau oedd."
Nodiadau
golygu- ↑ Heblaw y rhai hyn, dylid nodi fod y Parch. Griffith Griffiths yn gweinidogaethu yn Llechryd y pryd hwn. Ond nid oedd yr eglwys hon yn addefedig Annibynol, nac uniongred, hyd y flwyddyn 1828, pan gymerwyd ei gofal gan y Parch. Daniel Davies, Aberteifi.
- ↑ Erbyn hyn y mae hithau wedi marw. Oblegyd hyn, byddai yn anhawdd gwneud llawer darn o'r cofiant hwn yr hyn ydyw, pe gohiriasid ei ysgrifenu ychydig yn hwy