Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III

Pen II Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen IV

PEN. III.

Symudiad Mr. Richard i deulu James Bowen, Ysw.—Mawr lwyddiant ei weinidogaeth yn
Aberteifi, a'r gymmydogaeth—Ei daith gyntaf i'r Gogledd—Amgylchiad hynod yn Ngwesty
Pont-ar-Fynach—Ei ymdrechiadau o blaid sefydlu yr Ysgol Sabbothol—Llythyr y Parch. Ebenezer
Morris ato ef ar yr achos—Llythyr ato ef oddi wrth y Parch. John Elias—Un arall oddiwrth y
Parch. Thomas Charles, Bala.

Yn ystod y flwyddyn 1806, cymerodd cyfnewidiad arall le yn nhrigfa ac amgylchiadau Mr. Richard, trwy ei symudiad i Aberteifi, i fod yn athraw teuluaidd i feibion y boneddig duwiol hwnw, James Bowen, Ysw., wedi hyny o Lwyn-gwair. Am yr achlysur a'i harweiniodd i'r sefyllfa hon, rhoddir yr hanes ganlynol gan yr un cyfaill caredig a grybwyllasom eisioes, yr hwn oedd yn byw yn y dref hono. "Yr achos o ymweliad cyntaf eich tad ag Aberteifi oedd fel y canlyn. Daeth yno i ymgynghori a meddyg mewn perthynas i'w iechyd, yr hwn oedd y pryd yma yn wael iawn. Barnai pawb a'i gwelai ei fod mewn darfodedigaeth dwfn, ond dywedodd y gŵr meddygol wrtho, os arosai am dymhor yn y dref, a chymeryd ei gyffeiriau ef yn gyson, nad oedd yn ammau y byddai iddo wellhau. Penderfynodd eich tad yn ddioed i wneuthur felly, ac er ein mawr lawenydd trwy y cyfnewidiad hwn, yn nghyd a bendith Duw ar y moddion meddygol, adferwyd ei iechyd i raddau mawr. Ar yr amser uchod yr oedd boneddig duwiol iawn yn byw yma, yr hwn a lwyddodd gyda'ch tad i ddyfod a byw yn ei dŷ ef, ac y mae yn ddilys genyf na bu edifar byth ganddo iddo gydsynio â'r cais; oblegid yr wyf yn sicr, tra yr arosodd efe yn y teulu hwn, fod cymaint o barch a sylw yn cael eu dangos iddo, a phe buasai yn un o honynt eu hunain. Byddent arferol o fyned gydag ef i'w deithiau sabbothol trwy'r dydd, a'i ddwyn adref gyda hwynt yn yr hwyr. Yr wyf yn cofio y tro cyntaf yr aeth eich tad i'r Gogledd i'r gŵr boneddig ei hun a'i was i fyned gydag ef yr holl ffordd yno ac yn ol. Yr oeddwn yn aml yn bresenol ar yr addoliad teuluaidd, yr hwn ydoedd yn wir yn Bethel. O mor ddifrifol y byddai yn dadleu dros y teulu, yr eglwys, a'r bŷd yn gyffredinol? Y mae yn dyfod i'm cof am un amser nodedig, a gafodd eich tad, pan wrth y ddyledswydd deuluaidd yn y teulu rhag-grybwylledig. Un nos sabbath, wedi bod trwy y dydd yn llefaru tros ei Feistr, aeth ef fel arferol i weddi, a thywalltodd ei Dad nefol arno ef, a llawer creill yn bresenol, y gwlaw grasol i'r fath raddau, nes peri iddynt foliannu'ei enw am oriau meithion o'r nos. Yr wyf yn cofio y rhan ddiweddaf o'r pennill oeddynt yn ganu y noswaith hono.

Caf godi 'mhen o dan eu tra'd,
A gwaeddi congcwest yn y gwa'd,
A myn'd i mewn i dy fy Nhad,
Ac aros yno byth."

"Y mae llawer yma nad anghofiant byth yr amser pan oedd efe yn byw yn Aberteifi. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur mewn modd nodedig, er galw llawer o bechaduriaid o'r tywyllwch i ryfeddol oleuni yr efengyl. Chwanegwyd llawer iawn at yr eglwys yma a'r eglwysi cymmydogaethol trwy ei weinidogaeth ef—ac nid ychydig o honynt sydd wedi myned i ogoniant.

Yr oedd yr ysgol sabbothol yma ac yn yr holl wlad yn mwynhau llawer o'i lafur. O mor ddedwydd y byddai wrth ymweled a'r ysgolion, a holi y plant! Gwelais ef a'r plant yn fynych yn wylo gyda eu gilydd, nes y byddai y mwyaf calon-galed yn y lle yn gorfod wylo hefyd, a chyfaddef fod Duw yn wir yn eu mysg. O fy anwyl gyfeillion, fel y bu yn llafurio yn y rhan hon o winllan ei Arglwydd, mewn amser ac allan o amser. Llwyddodd mewn modd rhyfeddol i ddwyn achosion perthynol i'r ysgol sabbothol i'r drefn ag y maent ynddi yn bresennol."

Oherwydd tebygolrwydd egwyddorion a thueddiadau, yr oedd undeb o'r natur anwylaf rhyngddo ef a'r boneddwr duwiol, yn nheulu pa un yr oedd yn cyfanneddu. Yn yr addoliad teuluaidd gweddiai efe yn Gymraeg, a'r Cadben Bowen yn Saesoneg ar ei ol, ac arferai ddywedyd fod y wledd nefol a gaent trwy'r gwasanaeth hwn, uwchlaw yr hyn a allai geiriau osod allan. Y mae hanesyn tra nodedig wedi ei gadw ar gael mewn cysylltiad a'i daith gyntaf i'r Gogledd, yn nghymdeithas Mr. Bowen, at yr hon y cyfeiriwyd eisoes. Llettyasant am noswaith ar eu ffordd i Gymdeithasiad Llanidloes yn Ngwesty Pont-ar-Fynach. Gofynwyd caniatâd i gadw addoliad teuluaidd, ac i gael yr holl deulu yn nghyd iddo, ac, wedi derbyn cydsyniad, gweddiodd mor rhyfeddol nes gorfu ar wr y tŷ, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, ymadael o'r ystafell, gan lefain a'i ddwylaw yn blethedig, " O beth a wnâf, beth a wnâf?"

Crybwyllwyd eisoes am y rhan a gymerodd y tymhor hwn o'i fywyd gydag achos yr ysgolion sabbothol, ond anmhriodol fyddai myned heibio i'w lafur gyda'r gorchwyl godidog hwn heb ryw ychwaneg o sylw. Gellir cyfrif yn wir mae trwy ei offerynoldeb ef yn benaf y sylfaenwyd ac yr adeiladwyd y sefydliadau gwerthfawr hyn yn Neheudir Cymru. Ymddengys iddo o'r dechreuad gael ei lyncu i fynu â rhyw zel anniffoddadwy drostynt, yr hon ni lwyddodd dim i'w dihuddo na'i gwanychu hyd oriau olaf ei einioes.

Byddai yn fynych yn crybwyll gyda llawenydd ac ymffrost amlwg ei fod wedi ei eni yn yr un flwyddyn ag y sefydlwyd yr ysgol sabbothol gyntaf, gan Mr. Raikes.

Wrth edrych dros ei ddyddiadurion am y blynyddau hyn, gwelwn eu tudalenau wedi eu britho â'i addewi dion a'i ymrwymiadau mewn cyssylltiad a gwahanol gyfarfodydd yr ysgolion; ac, i'r dyben o alluogi y darllenydd i ffurfio cryfach a chyweirach dychymyg o'i wresogrwydd gyda'r gwaith hwn, yn nghyd a'r teimladau anwyl a thadol oedd yn hanfodi rhyngddo ef ac hyd yn nod aelodau ieuangaf yr ysgol sabbothol, ni a drosglwyddwn yma yr hyn a ysgrifenodd efe ei hun am Chwefror 28, 1808.

"Yn Nghapel Drindod, ar yr 28 o Chwefror, 1808, adroddodd Eliza Griffiths, plentyn pedair blwydd oed, y ddwy Salm gyntaf yn gywir i mi.

Yn Nghlôs-y-Graig, prydnawn yr un dydd, dymunodd lodes ieuanc 15 oed, yr hon oedd yn glâf iawn, ac yn ymddangos mewn darfodedigaeth dwfn, fy ngweled, i'r dyben o iddi gael adrodd ei phennod, a ddysgasai yn ei gwely, ac adroddodd (er yn dyoddef diffyg anadl mawr) y 25 o Matthew, yn o gywir.

"Yn Nghastell-Newydd, yn hwyr yr un dydd, wedi holi yn gyhoeddus, ar ol i'n hodfa fyned trosodd, dilynodd lliaws o'r plant yn perthyn i'r ysgol fi i dŷ cyfaill, ac, wedi canu ychydig hymnau, a'u lleisieu bach, hyfryd, gofynodd dau neu dri o'r bechgyn bach y chwestiynau pwysig canlynol i mi :

"1. Yn mha beth y mae'r Ysbryd Glan yn cymhwyso atom ni yr iechawdwriaeth, yr hon a bwrcasodd Crist? "2. Pa beth ydyw effeithiau cyfiawnhad a sancteiddhad?

"3. Pa un a'i cyfiawnhad au sancteiddhad sydd gyntaf ?"

Ac fel hyn (megis y crybwyllwyd eisoes) y parhâodd yn ei ymdrechiadau gyda'r ysgol sabbothol dros holl ystod ei einioes, ac ni oddefai i unrhyw gyf leusdra tuag wneuthur lles i achos yr ysgol sabbothol fyned heibio heb wneuthur y defnydd goreu o hono. Dygwyddodd fod unwaith yn aros mewn tref, neu bentref bychan, yn Sir Fynwy, am ddiwrnod cyfan, a chan nad oedd ganddo ddim gwaith cyhoeddus i'w alw ato, holodd wr y ty lle yr arosai yn nghylch ansawdd yr ysgol sabbothol yno, ac wedi deall nad oedd un i'w chael, neu ei bod ar ddiffodd, dymunodd arno gydfyned ag ef i ymweled a theuluoedd y lle, a llwyddodd i gael gan bob teulu yn y fan i addaw dyfod yn gyson i'r ysgol sabbothol.

Cyfaill[1] iddo a nodai mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrtho yn ddiweddar ar y pwnc hwn,—" Yr wyf yn meddwl mae yn New Inn y gwelais eich tad gyntaf. Byddai yn dyfod atom bob mis o Aberteifi. Nid oedd mo'i fath yn dyfod atom am annog, cyfarwyddo, a holi ysgolion sabbothol. Dangosai serchawgrwydd diffuant tu ag atom, a chyd-ddygai â ni yn ein tywyllwch a'n hanwybodaeth (oblegid nid oedd yr ysgol Sul yr amser hwnw ond braidd dechreu yn y wlad) gyda llawer o diriondeb, fel plant yr ysgol sabbothol, a ninau a'i carem ef agos fel ein heneidiau ein hunain. Yr wyf yn cofio yn berffaith mae prif bynciau ei weinidogaeth, a'r hyn a lanwai ei feddwl sanctaidd wrth holi yr ysgolion, oedd Person, Aberth, ac Iawn Crist. Dyrchafai ei lais peraidd a nerthol ar y pethau mawrion hyn, nes y byddem ni ag ynteu yn wlyb mewn dagrau.

Llawer gwaith y dywedodd, flynyddau lawer ar ol hyny, pan fyddem mewn cyfeillach, a'r ymddiddan yn dygwydd troi at yr amser uchod, Dyma fe; mi holais ef lawer gwaith nes oedd yn chwysu;' a gwir oedd, mi chwysais lawer gwaith wrth geisio ei ateb.”

Priodol yw hefyd yn y fan hon i osod ger bron ein darllenwyr y llythyr canlynol oddi wrth y Parch. Ebenezer Morris; nid oherwydd unrhyw bwys neillduol ynddo ei hun, ond fel y mae yn rhoddi dangosiad hyfryd o'r dull yr oedd y dynion enwog hyn, ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yn dwyn i gyd-weithrediad gyda'r gwaith hwn y ddau feddwl mawr, a adawsant y fath argraff cyffredinol ac annileuedig ar Gymru wedi hyny. Diau yr edrych llawer arno gyda'r un boddlonrwydd a hoffder ag a deimlir wrth ganfod cyssylltiad rhyw ddwy ffrwd nerthol, yn agos i'w tarddiad, yn cymmysgu eu dyfroedd, ac yn cydredeg yn un afon loyw lifeiriol trwy yr holl wastad-diroedd eang, nes peri i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, y diffeithwch hefyd i orfoleddu, ac i flodeuo fel y rhosyn." Yr oedd yr ysgrifenydd ar ei ddychweliad o daith yn Sir Frecheiniog

"ANWYL FRAWD,

"Mae rhagluniaeth yn agoryd i mi i ddyfod adref nos Sadwrn Sulgwyn, ac yn gyfleus i ni ddydd Llun i ddyfod i'r cyfarfod; y mae rhyw siarad am dano i fod yn Blaen-annerch Llun y Sulgwyn, a plant yr ysgolion i gyfarfod. Dymunaf arnoch i hysbysu i'r manau a feddylioch yn addas cyn y sabbath. Mae yn sicr y byddai da i ddeg neu ragor o ysgolion gydgyfarfod. Os gellwch hysbysu i'r Twrgwyn a'r Penmorfa, cyn y delwyf adref, fe fydd da genyf. Nid rhaid enwi wrthych y manau ereill.. Mae Owen[2] a minau yn golygu i'r cyfarfod ddechreu am naw neu ddeg y boreu; ni settlwn y canlyniad pan cyfarfyddom.

Eich cywir gyfaill,

EBR. MORRIS.

Aberhonddu,

Mai 30ain, 1808.

"O.Y. Byddai yn llesol i ddau bregethu ar ol yr holiad; mae yn debygol mae chwi a minau fyddant; os cewch dueddu eich meddwl i draethu am y lles gateciso, minau soniaf am y gwerth o dduwioldeb boreuol-cystal fyddai ei gyhoeddi yn gymanfa y plant."

Y mae yn ddiammheuol genym y darllenir gyda hyfrydwch mawr y llythyr canlynol a dderbyniodd yn fuan ar ol hyn oddi wrth y gweinidog enwog, enw pa un a welir wrtho.

ANWYL FRAWD,

Llandrindod, Medi 16, 1808.

Yr ydwyf yn bod mor hyf arnoch ag ysgrifenu ychydig linellau atoch, gan ddymuno arnoch fod cystal a hysbysu i'r Major Bowen pa fodd yr ydwyf. Ni allaf ysgrifenu Saesneg yn hwylus, neu buaswn mor hyf ag ysgrifenu ato fy hun. Yr ydwyf yma er wythnos i'r Llun diweddaf, ac yn bwriadu aros hyd ddydd Sadwrn. Y mae y dwfr yn gwneud llês i mi; yr ydwyf yn gobeithio y bydd o les mawr yn y canlyniad, ac, er fy mod yn parhau yn lled wan, yr ydwyf yn dysgwyl cryfhau wedi darfod yfed y dwfr. . . . Dywedwch wrth y Major Bowen fy mod yn ddiolchgar iawn iddo am ei ofal am danaf, a fy mod yn cofio yn garedig ato ef, a Mrs. Bowen. . . . . Anwyl Frawd, dymunaf i chwi gael llawer o wyneb yr Arglwydd gyda chwi yn mhob man yn ngwaith mawr y weinidogaeth. Yr ydwyf yn y dyddiau hyn yn gweled llawer o'm gwaeledd, a fy annghymwysder i'r gwaith mawr hwn— cael fy ysbryd yn rhy bell oddi wrth Dduw, ac yn rhy ddiwasgfa am achubiaeth y bobl. Yr ydwyf yn gorfod gwaeddi allan yn wyneb mawredd y gwaith, Pwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' ond gan fod yr Arglwydd wedi dewis cymeryd offerynau gwael yn ei law, ag wedi dewis rhoddi trysor y weinidogaeth mewn llestri pridd, fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni'-nid oes achos digaloni er maint ein gwaeledd a'n annghymhwysderau ; ond dylem geisio ein rhoddi ein hunain iddo Ef, fel, er mae gwendid ydym, y byddom yn wendid Duw, ac yn ei law ef yn gryfach na dynion. Dwy demptasiwn hynod sydd gan y diafol i geisio ein dyrysu a'n rhwystro yn y gwaith; un ydyw ceisio ein cadw rhag gweled mawredd y gwaith, a'i ysbrydolrwydd, fel y byddom ddiofal a diwasgfa yn y gwaith; ac yn ganlynol, yr ymchwyddom, ac y balchiom, ac y tybiom ein bod yn rhyw bethau mawr. Yr ydwyf yn meddwl fod yn anmhosibl i ddyn falchio yn ngolwg mawredd y gwaith; os ydym yn gweled ei fawredd, yr ydym yn ein gweled ein hunain yn bethau gwael iawn ynddo, ac mewn agwedd anaddas hynod i'w natur ardderchog. Y llall ydyw pan fyddom yn gweled mawredd y gwaith mewn gradd; ceisio ein digaloni yn ei wyneb, a'n llwfrhau, a'n cadw rhag gweled Duw yn blaid i ni ynddo, a'r addewidion gogoneddus sydd am gymhorth yn y gwaith. Ond yn wyneb y rhai'n, a lluoedd o demptasiynau ereill, fe eill Duw ein cynnal er ei ogoniant ei hun, a lles i'w eglwys. Am hyny, fy mrawd, ymnerthwn yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, nid yn unig am gymhorth i gadw ein lle fel Cristionogion, ond hefyd i gadw ein lle fel gweinidogion y gair. Derbyniodd Iesu, yn mysg y rhoddion a dderbyniodd i ddynion cyndyn, roddion i waith y weinidogaeth. O am gael derbyn mwy o honynt yn wastadol! O am gael bod yn ei law, o ryw ddefnydd er ei glod, dros yr ychydig y byddom byw yma yn y byd. Gras a thangnefedd Duw yn Nghrist a fyddo gyda chwi. Amen.

Wyf eich brawd gwael,

a'ch cyd-was,

JOHN ELIAS.

"Da chwi, dewch i'r Gogledd mor fuan ag y .galloch."

Nis gwyddom am le mwy priodol na hwn i ddwyn i mewn y llythyr a dderbyniodd yn nechreu y flwyddyn ganlynol oddiwrth y Parch. Thomas Charles o'r Bala. Ysgrifenwyd ef gan yr awdwr yn Saesneg.

"ANWYL GYFAILL,

"Dyben y llythyr hwn yw ceisio genych y gymwynas o gasglu yn mhlith y cyfeillion yn Sir Benfro gymaint ag a alloch o unrhyw bethau neillduol, mewn perthynas i fywyd a gweinidogaeth Mr. Howell Davies. Yr ydwyf ar ail-ddechreu, trwy ddymuniad arbenig y gymdeithasiad ddiweddar yn Dinbych, gyhoeddiad y Drysorfa, neu'r Eurgrawn Cymreig.

"Y mae bywgraffiad Mr. Griffith Jones, Llanddowror, wedi ei gyfansoddi ar gyfer y rhifyn cyntaf, ac yr wyf yn dymuno yn y rhifyn nesaf i ychwanegu ryw gofion o fywyd ei ysgolhaig, Mr. Howell Davies. Byddai dymunol, os bydd bosibl, cael gwybodaeth am ei dylwyth, ei enedigaeth, a'i ddygiad i fynu, a'i urddiad, gan nodi dyddiad pob un o honynt yn bennodol, os bydd hyny yn gyrhaeddadwy, yn nghyd a'r amser y dechreuodd weinyddu, pa lwyddiant a ganlynodd ei weinidogaeth, pa amser y bu farw, a pha fodd. Yr wyf fi yn gwybod rhyw gymaint am dano, ond y mae fy ngwybodaeth i yn rhy gyffredinol. Byddaf ddiolchgar iawn os byddwch chwi a'ch brawd mor fwyn ac ymofyn yn nghylch y pethau hyn, ac ysgrifenu yr hyn a gasgloch, heb ofalu am unrhyw drefn na manylrwydd cyfansoddiad, a'i ddanfon i mi pan orphenoch, yn mhen dau neu dri mis. Yr ydwyf wedi derbyn llythyr oddiwrth blant Blaenannerch. Gwelwch yn dda hysbysu iddynt, fy mod yn bwriadu rhoddi ateb i'w gofynion yn y Drysorfa. A hoffech chwi i ryw nifer o'r Eurgrawn gael eu danfon i chwi? Os felly, pa nifer, ac at bwy? A ddymunai cyfeillion Castell-Newydd, a rhanau isaf Sir Aberteifi, dderbyn rhyw gymaint? Yr wyf mewn cryn ammheuaeth pa nifer i argraffu, am nad wyf yn gwybod y galwad a fydd am danynt. Y maent i fod yn chwech-cheiniog y rhifyn, neu bedwar swllt a chwech-cheiniog y dwsin; a chan y bydd llawer yn cael ei gynnwys mewn cwmpas bychan, yr wyf yn gobeithio y bydd yn rhagori ar gynllun y rhifynau blaenorol. Telir sylw neillduol i'r cymdeithasiadau, yr ysgolion sabbothol, ac hanesion crefyddol tramor. Yr wyf newydd dderbyn oddiwrth eich brawd gyfrif cysurus am yr ysgolion, yr hwn wyf yn fwriadu ei gyhoeddi. Os daw unrhyw bethau neillduol i'ch gwybodaeth, y rhai a farnoch yn ddefnyddiol, byddaf yn ddiolchgar i chwi am danynt.

Y mae Grammadeg Cymraeg newydd ei gyhoeddi, copi o ba un a anfonwn i chwi pe gwelwn ryw un yn dyfod i'ch cymmydogaeth. Gwerthir ef am swllt, neu saith swllt a chwech-cheiniog y dwsin.

Yr wyf yn dymuno i chwi gyflwyno fy annerchion mwyaf diffuant i'r Major Bowen, a'i foneddiges, a'i fab. Gobeithiwyf eu bod oll yn iach. Yr wyf yn deisyf fy nghofio yn garedig hefyd at fy holl gyfeillion ereill yn eich tref chwi, a'r gymmydogaeth.

"Yr wyf wedi bod yn garcharor, wedi fy nghlymu gerfydd fy nghoes am y pedwar mis diweddaf. Yr wyf yn awr ar gael fy rhyddhau unwaith eto. Yr wyf yn ei chyfrif yn drugaredd arbenig i mi allu myned yn mlaen à fy ngwaith drwy yr holl amser, er fy mod yn fynych na fedrwn gerdded o'm gwely i'r sofa. Trwy hyn galluogwyd fi o'r diwedd i orphen ysgrifenu y Geiriadur, yr hyn a'm hesmwythaodd o faich trwm. Yr oedd yn orchwyl Ercwlfaidd (Herculean.) Bydd yr ail ran o'r drydedd gyfrol allan yn fuan, ac ni awn yn mlaen gyda'r argraffu mor fuan ag y byddo bosibl. Yr ydym yn gobeithio eich gweled yn ein cymdeithasiad yn Llanfair yn y gwanwyn, neu, o'r hyn bellaf, yn nghymdeithasiad y Bala. Y mae Mrs. Charles yn ymuno gyda mi mewn cyfarchiad caredig at Mr. a Mrs. B., heb anghofio mab ei hen gyfaill ac athraw, Henry Richard.

Ydwyf yr eiddoch yn ffyddlon,

THOMAS CHARLES.

Bala,
Ion. 16, 1804.

Nodiadau

golygu
  1. Y Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin,
  2. Owen Enos, yr hwn mae'n debyg oedd ei gyfaill ar y daith hon.