Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen IV
← Pen III | Bywyd y Parch. Ebenezer Richard gan Henry Richard a Edward W Richard |
Pen V → |
PEN. IV.
Ei briodas, a'i symudiad yn y canlyniad i breswylio yn Tregaron— Gwrthwynebiad cryf Captain Bowen a'i gyfeillion, yn ngodreu Sir Aberteifi, i hyny—Llythyr y Parch. Thomas Charles ar yr achos—Ei bennodi yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir—Genedigaeth ei fab hynaf—Ei eiddigedd a'i wroldeb o blaid y Ddysgyblaeth—Llythyr ar yr un achos at y Parch. J. Jones, Llanbedr.
YR ydym yn awr yn agoshau at amgylchiad arall o bwys mawr yn ei fywyd, sef ei briodas. Wrth ymdeithio drwy Sir Aberteifi daeth yn adnabyddus â Mary, unig ferch Mr. William Williams o Dregaron, ac wyres o ochr ei mam i David Evan Jenkins o Gysswch, un o'r cynghorwyr boreuaf yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, a dyn hynod enwog mewn duwioldeb.
Ar ol cyfeillachu â'u gilydd am ysbaid o amser, priodwyd hwynt yn eglwys Tregaron ar y 1af o Dachwedd, 1809. Ar ol i'r ddefod fyned drosodd, pregethodd ei gyfaill Mr. Ebenezer Morris oddiwrth Gen. ii. 18. Oherwydd y cyfnewidiad hwn yn ei sefyllfa, daeth angenrheidrwydd arno i symud o'i drigfa bresennol i le preswylfod ei wraig, gan nad allai hi ymadael oddi wrth ei rhieni, y rhai oeddynt yn dechreu myned yn llesg ac oedranus. Pan wybu ei gyfeillion yn ngodreu y sir y penderfyniad hwn, dangosasant anfoddlonrwydd nid bychan tuag ato, ac ymosodasant â'u holl egni trwy bob moddion i'w ennill i gyfnewid ei fwriad. Ar ol methu dyfod i unrhyw foddlonrwydd mewn cynnadledd bersonol âg ef ei hun, penderfynwyd terfynu yr achos trwy farn Cyfarfod Misol y Sir, a gynnelid oddeutu yr amser hwn yn Aberystwyth. Aeth Captain Bowen ac un o flaenoriaid eglwys Aberteifi yno, a bu dadl boeth rhyngddynt â thrigolion blaen y sir ar y pwnc; ond beth bynag, trodd y fantol o du iddo fyned i Dregaron.
Ymddengys fod Mr. Bowen yn y cyfamser wedi cael cyfrinach ar y pwnc â'r Parchedig Mr. Charles o'r Bala, ac wedi deisyf arno ef i anfon at Mr. Richard i'w gynghori, a'i rybuddio rhag cymeryd y cam hwn. Mewn ateb i'r cais yma, anfonodd Mr. Charles y llythyr canlynol, yr hwn wedi hyny a gyflwynodd Mr. Bowen i Mr. R., ar ol i'r chwthrwm bychan a achosodd yr amgylchiad rhyngddynt fyned drosodd. Y mae yn hyfrydwch mawr genym fod yn ein gallu i ddwyn ger bron ein darllenwyr y llythyr rhagorol hwnw, nid yn unig oherwydd ei gymhwysder at yr achos mewn llaw, ond hefyd fel y mae yn ddangosiad hynod o'r doethineb, a'r synwyr, a'r sylw craffus ar ffyrdd rhagluniaeth y cyfeiria efe ei hun atynt yn nghorph y llythyr.
"ANWYL SYR,
Yr ydwyf yn gofyn eich hynawsedd am fy mod cyhyd heb gyd-synio a'ch dymuniadau caredig, y rhai a fynegasoch i mi ar ein hymadawiad yn Machynlleth. Yr ydwyf wedi bod yn iach er hyny, ond mewn ffwdan mawr, yn teithio o un rhan o'r wlad i'r llall, ac yn awr yr wyf gartref am ychydig ddyddiau, cyn cychwyn i Gymdeithasiad Pwllheli. Oddi wrth yr hyn a glywais yn Machynlleth, tebygwn ei bod yn awr yn rhy ddiweddar i ysgrifenu dim ar y testun y buoch yn ymddyddan â mi yn ei gylch. Yr wyf yn gobeithio fod y gwr ieuanc wedi cael ei gyfarwyddo yn gywir, a'i lywodraethu gan ddybenion pur. Y mae yn anhawdd ymyraeth gyda diogelwch yn achosion rhai ereill, a symudiadau personau o un sefyllfa i'r llall. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion anhysbys i ni i'w cyflawni trwy bethau a ymddangosant i ddynion yn annoeth, os nad yn bechadurus yn y personau. Am hyny carwn i yn hytrach rybuddio yn garedig, a gweddio, na dweyd yn benderfynol yr hyn a ddylai neb rhyw un ei wneuthur. Efallai fod yr Arglwdd yn rhag-weled rhyw niweid mawr nad yw ganfyddedig i ni sydd yn debyg o ddygwydd os erys yn y lle y mae ynddo yn awr, neu ryw ddyben mawr i'w gyflawni ganddo ef neu rai o'i hiliogaeth trwy ei symudiad. Geill fod gan yr Arglwydd ddybenion mewn golwg i'w cwblhau yn mhen cant neu fil o flynyddau eto, trwy yr hyn a ymddengys yn awr yn ddamweiniol, ie, a thrwy bethau sydd a golwg annymunol arnynt. Y mae rhagluniaeth ddoeth yn bod ag sydd yn goruchwylio ac yn trefnu pob dygwyddiadau, bychain a mawrion, pa un ai pechadurus ai sanctaidd, gyda golwg ar yr offerynau eu hunain. Geill yr offerynau fod yn hollol ar gam yn eu bwriadau a'u golygiadau, a dyoddef yn llym am yr hyn a wnaethant, ac eto fod y dybenion oedd gan yr Arglwydd i'w cyflawni yn anfeidrol ddoeth a da.
"Heblaw hyny, y mae yn ddichonadwy i'r person weithredu oddi ar y dybenion cywiraf, ac eto canfod anhawsderau yn y ffordd y mae yn gorfod myned iddi, a geill ei ymddygiad ymddangos yn gyndyn ac yn gyfeiliornus i ereill. Yr wyf wedi cyfarfod âg esiamplau o'r natur hyn, ag y bu gorfod i bawb wedi hyny i gyfaddef llaw yr Arglwydd, gyda llawer o ddiolchgarwch. Y mae yn bwnc cynnil iawn, chwi welwch, fy anwyl Syr, i ymyraeth ag achosion rhai ereill mewn un modd, ond trwy gynghorion caredig a gweddi. Yr wyf yn dymuno yn ddiffuant i'r brawd Richard fod o dan gyfarwyddyd dwyfol yn holl amgylchiadau dyfodol ei fywyd, ac y mae yn ddiau yn teilyngu ystyriaeth a gweddi mwyaf difrifol ganddo, cyn y goddefo unrhyw reswm i effeithio arno i symud o sefyllfa ag y mae Duw wedi ei alw iddi, ac yn mha un y mae yn amlwg ei fod wedi ei wneuthur yn ddefnyddiol i'w eglwys. Gweddai i ni grynu wrth feddwl ymadael a neb rhyw le, oni byddai yn ymddangos fod ein llafur drosodd trwy annefnyddioldeb, y fendith arferol yn cael ei hattal. Ar ol gosod y pethau hyn yn syml o'i flaen, yr hyn yn ddiau a wnaethoch eisoes, yna cyflwynwch ef i'r Arglwydd, a gwnaed yr Arglwydd yr hyn a fyddo da yn ei olwg. Nid gweddus i ni gyffwrdd a'r arch, fel pe baem yn rhy bryderus am ei diogelwch trwy anghrediniaeth. Y mae efe yn gweithredu fel Pen-Arglwydd dwyfol, gydag urddas a doethineb anfeidrol, ac a fyn i ni oll gyfaddef nad ydym ond abwydod y llwch, ac ydym yn hollol anadnabyddus o'i amcanion goruchel, a'r troelliadau manwl trwy ba rai y mae yn eu dwyn i ben.
"Yr wyf fi yn fynych yn teimlo yn gythruddol iawn, ond y mae fy nyryswch yn gyffredin yn tarddu o anghrediniaeth a diffyg amynedd. Un o'r prif bethau yn y dysgrifiad a roddir o'r pren planedig ar lan afonydd dyfroedd, yw ei fod yn rhoddi ei ffrwyth yn ei bryd. Yr ydym yn fynych yn canfod yr hyn a ddylasem ei wneuthur, pan y mae'r tymhor i weithredu wedi myned heibio; i ddwyn ei ffrwyth priodol yn yr iawn bryd, a ofyn gyfran nid bychan o ddoethineb, synwyr, a sylw craffus ar ffordd rhagluniaeth. Yr ydwyf fi yn teimlo yr angenrheidrwydd o ddylanwadau effeithiol ac awdurdodol yr Ysbryd dwyfol ar fy meddwl yn mhob peth, bychan a mawr. Nid oes dim yn fwy dianrhydeddus a niweidiol i'r eglwys, na bod i ddynion byrbwyll a rhyfygus i yru pob peth o'u blaen, gyda rhyw ruthr ynfyd, nes iddynt daraw eu hunain, a'r achos yn mha un y maent wedi ymgydio, yn erbyn craig sydd yn amlwg i bawb ond hwy eu hunain. Y maent yn ymddwyn fel pe na byddai un Duw yn bod, a bod pob peth yn cael ei lywodraethu ganddynt hwy.
Y mae fy anwyl gymhares, yr hon sydd iach, a'r rhan arall o'r teulu, yn ymuno gyda mi mewn cyfarchiad mwyaf caredig at Mrs. B. a chwithau. Byddai lawen genym eich gweled yn y Bala.
Ydwyf, anwyl Syr,
gyda pharch mawr,
"Yr eiddoch yn ffyddlon a chariadus,
THOMAS CHARLES.
- Bala,
- Medi 19, 1809."
Er hyn i gyd, mor afaelgar oeddynt am dano yn Aberteifi, fel y methodd ganddynt fod yn esmwyth heb wneuthur un cynnyg arno drachefn; a chyn pen wythnos daeth Captain Bowen a'r blaenor rhag-grybwylledig, ar eu hunig neges i Dregaron i wneuthur ail-ymosodiad arno. Ond wrth ganfod tuedd ei wraig a sefyllfa fethiedig ei rhieni, gorfu arnynt roddi i fynu eu hymdrech; ac, fel prawf fod ei gyfaill caredig Mr. Bowen wedi gweled o'r diwedd briodoldeb ei benderfyniad yn yr achos hwn, gellir coffau, iddo ef a'i deulu ddyfod i fynu i Dregaron, i fod yn bresennol yn y briodas.
Mor hynod yr eglurhawyd yn ol llaw sylwadau doeth Mr. Charles ar drefniadau rhagluniaeth, fel y maent yn swnio i ni yn awr, wedi gweled y canlyniad, yn mron yn brophwydoliaethol; ac, fel y dywedir i'r Parchedig Mr. Rowlands sylwi am dano ef ei hun, mai rhodd Duw i'r Gogledd oedd Charles, felly y byddai y Parchedig Mr. Williams, o Ledrod, arferol o sylwi am dano yntau," Rhodd Duw i Aberteifi yw Richard."
Cyn diwedd y flwyddyn hon, pennodwyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir, yr hon swydd a gyflawnodd hyd ddiwedd ei fywyd gyda gofal, deheurwydd, a threfn, nas cystedlir yn fynych.
Yn Awst, yn y flwyddyn 1810, ganwyd ei fab hynaf, Edward.
Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Tregaron, canfu, er mawr dristwch i'w feddwl, fod yr eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, mewn sefyllfa dra dirywiedig ac annhrefnus. Yr oedd hen arferiad lygredig yn y rhan hono o'r wlad, pan y byddai pobl ieuainc yn myned i'r sefyllfa briodasol, o barotoi a gwerthu diod gadarn i'r gwahoddedigion oedd yn bresennol ar yr achlysur. Yr oedd hyn nid yn unig yn drosedd yn erbyn y llywodraeth, ac yn yspeiliad o gyllid cyfreithlon y brenin, trwy ddarllaw y ddiod heb y drwydded (licence) ofynol, ond hefyd yn achos ffrwythlon o anfoesoldeb dirfawr a gwarthus drwy yr holl ardaloedd.
Yr oedd y bobl ieuainc ar yr amserau hyny yn ymroddi, heb fesur na rheol, i gyfeddach, maswedd, a meddwdod; a byddai crefyddwyr yn arfer ymgymmysgu â hwynt yn eofn, a llawer o honynt fel y gellid dysgwyl yn cael eu llithio i "gyd-redeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd. Yr oedd yr ysgelerder hwn wedi tynu sylw Cyfarfod Misol y Sir, er ys rhai blynyddau, ac amryw ymdrechiadau difrifol wedi cael eu gwneuthur i osod terfyn arno, o leiaf, yn mysg aelodau perhynol i'r corph. Ond mor ddwfn a gafaelgar yr ydoedd wedi ymwreiddio yn y wlad, fel yr oedd pob ymdrech a wnaethid wedi profi yn aflwyddiannus; ac nid rhyfedd yn wir, oblegid yr oedd yn cael ei amddiffyn a'i goleddu, hyd yn nod gan swyddogion yr eglwysi.
Fel canlyniad naturiol i hyn, yr oedd y ddysgyblaeth wedi ymlaesu i raddau gresynus, a "phob un a wnai yr hyn oedd union yn ei olwg ei hun."
Cyd-oddefodd Mr. Richard â'r diofryd hwn am ysbaid blwyddyn, "yn poeni ei enaid cyfiawn," "wrth weled y ffieidd-dra anghyfanneddol yn sefyll yn y lle sanctaidd," nes o'r diwedd, wedi ei ganfod yn beiddio dyfod i'r allor, ac yn derbyn cymeradwyaeth gyhoeddus gan un o'r blaenoriaid, enynodd y fath eiddigedd tanllyd yn ei fynwes, fel y penderfynodd ddyrchafu ei lais yn enw yr Arglwydd yn erbyn yr ysgymun-beth dyeithr. Cymerodd y cyfleu cyntaf i roddi ei fwriad mewn grym yn nghyfarfod yr eglwys yn Tregaron. Safodd i fynu yn wrol i ymofyn pwy oedd o dŷ yr Arglwydd, ac ni chafodd ond un blaenor i'w gefnogi; er hyny aeth yn mlaen gyda hwnw yn unig i lanhau y tŷ. Cafwyd deuddeg o'r aelodau yn euog o'r trosedd, a diarddelwyd hwynt oll yr un cyfarfod. Tranoeth i'r diwrnod hwnw, yr oedd ei gyhoeddiad yn Llangeitho. Aeth yno hefyd gyda'r un zel sanctaidd yn llosgi yn ei enaid dros ogoniant ei Feistr. Yr oedd dwy briodas wedi cymeryd lle yno ychydig cyn hyny yn yr un dull afreolaidd, a'r eglwys yn byw yn dawel yn nghanol y llygredigaeth; ond gwnaeth ef yr un ymosodiad gorchestol ar y gelyn yno hefyd. Llwyrymroddodd i weinyddu y ddysgyblaeth ar bawb oeddynt wedi ymhalogi â'r peth, a'r canlyniad fu diarddel amryw o honynt cyn ei ymadawiad. Fel hyn, bu yn offerynol i ddystrywio "y niweid a'r anwiredd hwn," oedd wedi gwarthruddo cymaint ar achos Duw yn y rhan hono o'r Dywysogaeth.
Nis gallwn oddef i'r amgylchiad hwn fyned heibio heb alw sylw ein darllenwyr at y dangosiad nodedig a rydd o un o brif briodoliaethau ei gymeriad, sef ei ufudd-dod parod a dibetrus i'r hyn a ystyriai yn ofynion dyledswydd. Tuedd ei dymher naturiol oedd gochelyd gyda'r pryder mwyaf bob dynesiad at ddim tebyg i gythrwfl, ïe, efallai yn wir gellir dywedyd mae rhyw ormodedd o'r petrusder hwn oedd y gwendid parod i'w amgylchu." Ond pan y deuai unwaith yn eglur i'w feddwl fod llais Duw a chydwybod yn galw arno, yn y fan "nid ymgynghorai â chig a gwaed," ond ymroddai, mewn gwrthwynebiad i'w deimladau ei hun, i fyned rhag ei flaen "trwy glod ac annghlod," nes cyrhaedd y nod y cyfeirid ef ato. Dibrisiai bob math o wawd ac anmharch a arllwysid arno, fel ar yr achlysur presennol, ar ba un, er nad oedd ond ieuanc, (tan ddeg-ar-hugain oed,) beiddiodd dros anrhydedd yr achos i wrthsefyll nid yn unig dueddfryd llygredig y wlad yn gyffredinol, ond hefyd gan mwyaf holl rym awdurdod swyddol yr eglwysi, " oblegid efe a ymwrolai fel un yn gweled yr anweledig." Geill y darllenydd farnu yn lled agos beth oedd ei deimladau ef y pryd hwnw, oddiwrth y llythyr canlynol, a anfonodd flynyddau ar ol hyny at weinidog ieuanc oedd anwyl a pharchus iawn ganddo, yr hwn a ysgrifenasai i ofyn ei gyfarwyddyd mewn amgylchiadau cymhwys yr un fath.
Y PARCH. JOHN JONES, LLANBEDR.
FRAWD ANWYL,
Derbyniais eich llythyr nos Lun, ac y mae fy meddwl yn ymdeimlo yn dra dwys a'r amgylchiad crybwylledig ynddo. Ond nid wyf mewn un modd yn barnu fy hun yn addas i eich cynghori, ond yn edrych arnaf fy hun yn hollawl annigonol. Ond fel un wedi bod mewn brwydr â'r arferiad ffieidd a soniasoch, am uwchlaw ugain mlynedd, mi gynnygaf i chwi y pethau canlynol:—(1.) Lledwch yr achos yn ddifrifol ger bron yr Arglwydd, a gelwch yn daer am ei gymhorth a'i gyfarwyddyd. (2.) Dylech gymeryd y cyfleusdra cyntaf i ymddyddan â'r hen frawd —— a dangos iddo mewn modd goleu y perygl aruthrol o iddo ef fod a llaw i gynnal y niweid a'r anwiredd hyny yn y wlad, ac y mae brodyr a thadau i ni sydd yn y nefoedd wedi bod â'u holl egni yn ceisio ei ymlid o'r wlad, a dymuno arno wneuthur ei oreu i droi ei fab hefyd, os nad yw yn rhy ddiweddar; ac os llwyddwch yn hyn yma, chwi a achubwch eich brawd a llawer ereill hefyd. (3.) Os na lwyddwch yn yr ymgais hwn, dylech ar y cyfle cyntaf a gaffoch rybuddio'r holl frodyr a'r chwiorydd, i ymgadw rhag myned yno rhag y pla, oblegid y mae yn fil mwy niweidiol na'r pla, mae yn dianrhydeddu ordinhad Duw, yn darostwng natur dyn, ie, yn damnio eneidiau filoedd. (4.) Y rhai a anufuddhant ar ol pob rhybuddio, a ddylent gael eu diarddel yn ddiau. Byddwch bybyr, gwrol, a glew dros achos ein Duw; nac ymollyngwch er dim; cofiwch eiriau Paul, Gal. ii. 5, "Fel yr aroso gwirionedd yr efengyl gyda chwi." Cofiwch siampl Phineas, yr hwn "a iawnfarnodd (er ei fod yn ieuanc), a'r pla a attaliwyd." Llanwer eich enaid â zel ac awyddfryd sanctaidd dros enw'r Arglwydd, a byddwch ffyddlon y waith hon; chwi gewch yr holl gorph i'ch cefnogi, chwi gewch yr holl Feibl i'ch amddiffyn, chwi gewch yr holl Drindod i'ch harddel, chwi gewch yr holl saint a'r angylion o'ch tu, a neb i'ch gwrthwynebu a'ch gwaradwyddo ond y diafol a'i bleidwyr. Dywedaf wrthych yn awr, yn ngeiriau Mordecai wrth Esther, "Oherwydd os tewi a son a wnai di y pryd hyn, esmwythder ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon (i'r achos) o le arall; a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn Ꭹ daethost ti i'r frenhiniaeth?" Ni feddaf amser i ymhelaethu, er y byddai hyny yn hawdd iawn i mi wneud. Cofiwch yn garedig fy ngwraig a minau at eich anwyl gymhares, ac at eich anrhydeddus dad, a mam-yn-nghyfraith.
Ydwyf, frawd anwyl,
Yr eiddoch yn yr Arglwydd Iesu,
EBENEZER RICHARD.