Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen V

Pen IV Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen VI

PEN. V

Yr ymneilltuad cyntaf o rai o bregethwyr y corph i holl waith y weinidogaeth, yn nghyd a'r amgylchiadau cyffrous perthynol iddo—Genedigaeth ei ail fab—Diwygiad grymus 1812—Marwolaeth ei dad —Marwolaeth ei fam-yn-nghyfraith—Ei bennodi yn Ysgrifenydd y Cymdeithasiad— Cynnyg urddiad esgobawl iddo, &c.

Y MAE yr hanes yn ein harwain yn bresennol at gyfnewidiad pwysig a gymerodd le yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn yn wir a ellir ei ystyried fel yr amgylchiad a'u ffurfiodd gyntaf yn gorph gwahaniaethol ac anymddibynol o grefyddwyr. Gwel y darllenydd ein bod yn cyfeirio at ymneilltuad rhai o'u pregethwyr i weinyddu yn gyflawn holl ordinhadau yr efengyl yn eu mysg. Di-angenrhaid yw i ni goffau yma gyfodiad a chynnydd yr enwad hwn yn Nghymru. Gŵyr pawb iddo ddechreu ar amser pan ydoedd tywyllwch a chysgadrwydd dygn wedi ymdaenu dros y dywysogaeth, ac i amryw o weinidogion duwiol o'r Eglwys Sefydledig, wrth weled agwedd resynol y wlad, dori dros y terfynau culion o fewn pa rai y cyfyngwyd hwynt, yn ol rheolau dysgyblaethol y cyfansoddiad crefyddol i ba un y perthynent.

Yn ol gorchymyn pendant gwir Ben yr eglwys, aethant allan i'r heolydd a'r ystrydoedd, i'r prif-ffyrdd a'r caeau, gan wahodd cynnifer ag a gaffent i briodas Mab y Brenin. Fel canlyniad i hyn, dechreuodd achos crefyddol, o gynllun hollol newydd, gyfodi trwy Gymru. Ymddangosodd yn fuan "o blith y bobl" amryw bregethwyr nerthol a duwiol, y rhai a ddaethant allan "yn blaid i'r Arglwydd yn erbyn y cadarn." Adeiladwyd llawer o addoldai i gynnulleidfaoedd y bobl hyn yn ngwahanol ranau o'r wlad, lle y byddai y pregethwyr rhag-grybwylledig yn cyhoeddi yr efengyl i dorfaoedd mawrion, "a'r Arglwydd hefyd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras.

Ond am hir dymhor gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd i'r lluoedd hyn, yn unig gan yr ychydig offeiriaid at ba rai y cyfeiriwyd eisoes. Ond fel yr oedd y gwaith yn ymledaenu, a'r cynnulleidfaoedd yn cynnyddu yn gyflym drwy yr holl wlad, yr oedd gweinyddiad y sacramentau hyn o angenrheidrwydd yn anaml ac yn annghyson iawn. Trwy hyn, daeth yn raddol argyhoeddiad cryf a chyffredinol ar feddyliau y werin, fod yn ofynol gwneuthur rhyw gyfnewidiad i gyfarfod y diffyg hwn. Byddai raid iddynt yn fynych fod yn gwbl amddifaid o'r rhagorfreintiau gwerthfawr hyn, neu eu derbyn o ddwylaw dynion nas gallent gyfrif a barnu, yn ol barn dyneraf cariad, eu bod yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd. Gofynent yn naturiol, pa reswm a allai fod i'w hattal rhag cyflwyno y gorchwyl hwn, i rai o'r dynion hyny a fuont yn offerynol i argyhoeddi cannoedd o honynt, a thrwy weinidogaeth pa rai yr oeddynt yn derbyn maeth ysbrydol i'w heneidiau. Y mae'n wir eu bod yn gwybod nad oedd y gwŷr hyn wedi derbyn eu hawdurdod i'r gwaith "o ddynion, na thrwy ddyn," ond i'w meddyliau syml a dirodres hwy, yr oeddynt yn barnu fod Duw ei hun wedi gosod "sel apostoliaeth" arnynt, a bod ganddynt hawl i'w cyfarch hwy o leiaf yn ngeiriau yr Apostol, "Ai rhaid i ni megis i rai wrth lythyrau canmoliaeth wrthych chwi? Ein llythyr ni ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonau, yr hwn a ddeallir ac a ddarllenir gan bob dyn, gan fod yn eglur mae llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg inc, ond âg Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau ceryg, ond mewn llechau cnawdol y galon."

Nid mynych y gwelwyd datguddiad mwy hynod o rym rhagfarn, nag a ddangoswyd yn yr amgylchiadau hyn gan y gweinidogion eglwysig, at ba rai y cyfeiriwyd. Yr oeddynt yn credu ac yn uchel-gyhoeddi fod y rhan fwyaf o'u brodyr parchedig yn y Sefydliad, nid yn unig yn weinidogion anffyddlon, ond yn ddynion o galon anneffroedig, ac o fywyd annichlynaidd, ac eto mynent i'w dysgyblion dderbyn yr elfenau sanctaidd o ddwylaw y cyfryw, yn hytrach na goddef iddynt gael eu gweinyddu gan ddynion, fel pregethwyr boreuaf y Trefnyddion Calfinaidd, am ba rai y beiddiwn ddywedyd, na bu er dyddiau yr Apostolion nifer o weinidogion mwy zelog, duwiol, a doniol yn eu gwaith.

Ond er cymaint oedd eu hawdurdod yn y wlad, yr oedd anghysondeb eu hymddygiad, yn y pwnc hwn, yn ymddangos mor noeth, i lygaid y bobl, fel na chawsant nemawr i'w cefnogi, yn eu gwrthwynebiad, i ddymuniad ag oedd yn ymddangos mor rhesymol i bawb. Wedi hyn dygwyd y peth yn mlaen yn uniongyrchol o tan sylw yn nghyfarfodydd mwyaf cynnrychiolwyr y corph, lle, ar ol llawer o ddadleuon poeth, y penderfynwyd y cynnygiad hwn, yr hyn a gyflawnwyd yn y dull canlynol.—Pennodwyd rhyw nifer o'r blaenoriaid mwyaf syml a synwyrol, o bob sir, i gyfarfod yn Llandilo-fawr, yn Sir Gaerfyrddin, i'r dyben o ymgynghori â'u gilydd yn nghylch y personau mwyaf priodol i gael eu neillduo. Y canlyniad fu iddynt ddewis tri-ar-ddeg o wahanol siroedd y Deheubarth, yn mysg pa rai yr ydoedd (dros Sir Aberteifi) y Parch. Ebenezer Morris, y Parch. John Thomas, a gwrthddrych y cofiant hwn.

Wedi i'r personau a ddewiswyd yno gael eu cymeradwyo gan yr amrywiol gyfarfodydd misol, dygwyd y peth i weithrediad yn Nghymdeithasiad Llandilo, yr hon a gynnaliwyd ar yr 8fed o Awst, 1811, lle yr urddwyd i holl waith y weinidogaeth y brodyr hyny, gan y Parchedigion John Williams, Lledrod, Thomas Charles, Bala, a John Williams, Pant-y-Celyn.

Am yr amgylchiad hwnw, hoff yw genym osod ger bron ein darllenwyr y cofion canlynol, a drosglwyddwyd i ni gan gyfaill parchedig ag ydoedd yn bresenol ar yr achlysur.

"Mewn perthynas i'r ymneilltuad cyntaf, er fy mod yno, y mae'r rhan fwyaf wedi ei anghofio. Ond yr wyf yn cofio tri pheth yn berffaith, sef, laf. Mae y gymdeithas hono oedd yr un fwyaf ofnadwy y bum ynddi yn fy mywyd. Yr oedd pob cnawd yn crynu, ïe, yr oedd hyd yn nod llawer o'r gweinidogion mwyaf duwiol, hyawdl, a chadarn yn yr Ysgrythyrau, bron yn methu ateb gan fawredd Duw.

"2il. Dull hynaws Mr. Charles, o'r Bala, yn gofyn y chwestiynau. Yr oedd ei wedd yn hardd a siriol, ei eiriau yn fwyn ac ennillgar iawn. Wrth ddechreu gofyn i bob un, arferai yr un geiriau, sef, 'A. B., a fyddwch chwi mor fwyn a dweyd gair o'ch meddwl am y bod o Dduw,' &c.

"3ydd. Wrth weled amrai yn crynu, a bron yn methu, yr wyf yn cofio yn dda fy mod mewn pryder mawr, mewn perthynas i'ch tad, rhag ofn iddo golli, oblegid yr oedd yn ieuangach na hwynt oll. Ond cafodd ei hoff bwnc, sef Duwdod Crist; a phan glywais hwnw, syrthiodd fy maich yn y fan, oblegid gwyddwn fod hwn yn anwyl ac fel A, B, C, ganddo. Dywedodd ei feddwl arno yn oleu, rhydd, yn gadarn, ac i foddlonrwydd mawr, fel y collais fy ofnau ar unwaith."

Yn Ebrill, 1812, ganwyd ei ail fab, Henry.

Yn y flwyddyn hon hefyd torodd diwygiad grymus allan yn Tregaron a'r eglwysi cymmydogaethol. Nid yw yn perthyn i ni yn bresenol i ymholi i natur yr ymweliadau rhyfedd hyn. Y mae yn hysbys i bawb sydd yn adnabyddus o hanes crefyddol Cymru, iddynt yn fynych gael eu defnyddio gan yr Arglwydd i adfywio ei achos yn y wlad, i "helaethu lle ei babell, ac i estyn cortynau ei breswylfeydd," ac felly y tro hwn; a chroesawyd ei ymddangosiad yn awr gyda llawenydd mawr dros ben, fel arwydd nad oedd Arglwydd Dduw eu tadau wedi ymadael a'r gwersyll, nac wedi anfoddloni, oblegid y cyfnewidiad diweddar a gymerasai le yn eu plith.

Bu gweinidogaeth Mr. Richard yn yr ymweliad hwn yn llwyddiannus anarferol, a gellir crybwyll fel un prawf o hyn yr engraifft ganlynol. Pregethodd yn Llangeitho, ryw foreu Sabbath yn yr amser hwn, oddiar Luc xvi. 23, gyda'r fath nerth ac arddeliad dwyfol, fel y dwysbigwyd wyth-ar-hugain o eneidiau trwy y bregeth. Yn nghyfarfod yr eglwys a gymerodd le yn fuan ar ol hyny, ychwanegwyd deg-ar-hugain at ei nifer, o ba rai yr wyth-ar-hugain a grybwyllwyd eisoes a briodolent eu hargyhoeddiad i'r bregeth hono. Fel yr oedd y Parch. Mr. Williams (yr hwn oedd y diwrnod hwnw yn cadw y cyfarfod eglwysig) yn ymddiddan â hwynt, un ar ol y llall, ac yn derbyn yn barhaus yr un ateb, llefodd allan o'r diwedd mewn syndod, "Garw gymaint o honoch chwi a saethodd e' â'r un ergyd." Yn wir, hysbyswyd i ni yn ddiweddar, gan wr parchedig ag ydoedd yn byw yn Llangeitho y pryd hwn, ei fod ef yn sicr i gannoedd rai gael eu derbyn i'r eglwys yno, yn nghyd a'r eglwysi cymmydogaethol, y rhai a dystient mai wrth wrando ei bregeth ef, y boreu Sabbath hwn, yr argyhoeddwyd hwy gyntaf o'u sefyllfa beryglus wrth natur.

Ar y 7fed o Ragfyr, yn y flwyddyn hon (1812,) bu farw ei dad, yn hen a llawn o ddyddiau, a galarwyd am dano yn fawr gan ei wraig, a'i blant, a chylch helaeth o gyfeillion. Wrth ddychwelyd o'i daith Sabbothol, yn ngodreu Sir Benfro, syrthiodd y ceffyl tano, a thorodd ei glun, yr hyn yn mhen ychydig ddyddiau a achlysurodd ei farwolaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn ganlynol (Ebrill 10, 1813,) bu farw ei fam-yn-nghyfraith, Mrs. Williams, yn 68 oed, yr hon oedd wraig dduwiol, a hynod am ei gwybodaeth o'r Ysgrythyrau. Bu yn aelod eglwysig am 54 o flynyddau.

Yn y flwyddyn hon (1813) pennodwyd ef yn Ysgrifenydd y Gymdeithasiad (Association) yn y Deheudir, yn ol cynghor y Parch. Mr. Charles, o'r Bala. Diraid yw i ni hysbysu i'r sawl a fuont dystion am y medrusrwydd a'r ffyddlondeb a pha rai y cyflawnodd efe y swydd hon hyd ddydd ei farwolaeth. Yn un o'r pregethau angladdol, a draddodwyd ar ol ei farwolaeth, dywedir gan y llefarwr parchedig-" Ond fel Ysgrifenydd y Cymdeithasiad, yr ydoedd heb ei fath. Yr ydoedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur, a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasiad nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, a'i osod yn yr argraff-wasg, nes y gwasgerir ei ber-aroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg.[1]

Yn y blynyddau hyn, digwyddodd amgylchiad, yr hwn a ddengys mewn modd neillduol ddianwadalwch cydwybodol ei egwyddorion crefyddol. Yr oedd John Jones, Ysw., Derry Ormond, yn agos i Lanbedr, yn berthynas i'w wraig; ac ar ddyfodiad Mr. Richard i Dregaron, yr oedd y gwr boneddig hwn wedi cymeryd hoffder mawr ynddo. Yr oedd y cythrwfl a gyfododd mewn perthynas i'r ymneilltuaeth yn mhlith Ꭹ Trefnyddion Calfinaidd, yn parhau o hyd i gyffroi meddyliau gweinidogion yr Eglwys Sefydledig. Barnent yn uniawn fod y mesur hwnw wedi achosi ymwahaniad trwyadl rhyngddynt hwy a'r corph rhag-grybwylledig, a hyn oedd beth yr oeddynt yn dymuno yn awyddus ei ochelyd; am hyny, arferent bob moddion i ennill yr ymneillduwyr hyn yn ol. I'r dyben hwn, aeth un o brif offeiriaid yr Eglwys yn Sir Aberteifi at y boneddwr uchod, i ddeisyf arno ef i ymdrechu cael cydsyniad Mr. Richard i dderbyn urddiad esgobawl. Mewn anwybodaeth o wir gymeriad y gwr oedd ganddynt mewn llaw, ymrwymodd Mr. Jones yn hyderus i lwyddo yn yr amcan hwn. Anfonodd am dano yn uniongyrchol i'r Ddery, heb amlygu ychwaneg o'i fwriad, na'i fod yn dymuno ei weled yn ddioed. Ufuddhaodd yntau y gwahoddiad yn fuan; ac wedi ei roesawi yn garedig, dywedodd Mr. Jones ei fod ef a'r Vicar (Evans, o Lanbadarn-fawr) wedi bod yn ymddiddan yn ei gylch, y dydd o'r blaen, ac wedi dyfod i'r penderfyniad o roddi iddo y cynnyg o gael ei ordeinio i bersoniaeth eglwysig, lle y derbyniai fywioliaeth lawer mwy esmwyth a chyflawn nas gallasai obeithio ei mwynhau yn ei sefyllfa bresennol, a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air i'w droi i gydsyniad â'r peth. Atebodd yntau yn gadarn a dibetrus, "Y mae y peth yn anmhosibl, syr." Synodd y gwr boneddig yn ddirfawr, a gofynodd, "Paham?" Dywedodd yntau, "Y byddai rhoddi caniatâd i'r cynnyg hwn, yn gyntaf, yn weithred gwbl groes i'w gydwybod, oblegid ei fod o egwyddor yn ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Yn ail, ei fod yn barnu y gallai fod o fwy defnyddioldeb gyda'r gwaith y man yr oedd. Ac yn drydydd, fod cymaint o undeb ac anwyldeb rhyngddo ef a'i frodyr, ag a wnelai y rhwygiad yn annyoddefol i'w deimladau." Nis gallai y gwr boneddig feio mewn un modd ar y rhesymau hyn, ond dywedodd, â gwedd anfoddlon, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn ar ei les ei hun, i wrthod y fath gyfleu. Fel hyn y parhaodd barn Mr. Richard drwy ei holl fywyd. Y mae yn gof genym pan yn ei gyfeillach ryw dro, i enw gweinidog oedd wedi ymadael a'i frodyr crefyddol a myned drosodd i'r Sefydliad, gael ei grybwyll yn ddamweiniol. Sylwodd rhyw un oedd yn yr ystafell, "O'm rhan i, yr wy'n meddwl iddo wneud yn birion, oblegid y mae yn cael bywioliaeth llawer mwy cysurus, a'r un cyfleusdra i bregethu yr efengyl." Nid mynych y gwelsom ef yn edrych yn fwy gwgus na 'phan yr atebodd i'r sylw hwn mewn llais llym ac anfoddlon, "O na, na, os nad oes genym ryw faint o brinciple yn y pethau hyn, nid ydym werth dim!"

Nodiadau

golygu
  1. Y Parch. William Morris, Cilgerran.