Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen XI

Pen X Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen XII

PEN. XI.

Afiechyd galarus y Parch. D. Charles—Llythyr Mr. R. at ei deulu ar yr achlysur—Llythyr at Mr. William Morris—
Un arall at ei Feibion—Ac arall at y Parch. David Williams a Mr. William Morris.

YN haf y flwyddyn 1828, dygwyddodd anhwyldeb galarus y Parch. David Charles, o Gaerfyrddin, yr hyn a barodd gymaint o ofid a thrymder i'w gyfeillion trwy Gymru, ac i neb yn fwy nac i wrthddrych y cofiant hwn, oblegid yr oedd Mr Charles yn un o'r cyfeillion mwyaf anwyl a mynwesol a feddai. Achosodd y newydd dristwch nid bychan i'w feddwl; ac, yn mhob llythyr a ysgrifenai atom, byddai yn gwneuthur yr holiadau manylaf yn ei gylch; a phan ymwelodd a Chaerfyrddin y tro cyntaf ar ol yr ergyd trwm, gorchfygwyd ef yn gwbl gan ei deimladau wrth weled sefyllfa ei gyfaill; ac, wrth drosglwyddo penderfyniad Cymdeithasiad y corph ar yr achlysur, ysgrifenodd y llythyr canlynol at deulu Mr. Charles.

Tregaron, Awst, 1828.

AT MR. DAVID CHARLES, IEU

ANWYL SYR,
Achosodd y newydd galarus am yr anhwyldeb trwm â pha un y mae eich tad parchedig wedi ei orddiwes, y teimladau mwyaf poenus a'r galar mwyaf llym yn mynwesau cannoedd o'i gyfeillion, yn mhob rhan o'r wlad; ond ni pharodd yn mynwes neb loesion mwy rhwygiedig nac yr eiddo ei gyd-swyddog a'i gydweithiwr annheilwng, sydd yn cael yr anrhydedd o'ch cyfarch yn bresennol. O'r fath fraw, prudd-der, gofid, a digalondid sydd wedi dal fy nheimladau er pan dderbyniais yr hysbysiad poenus! gyda'r priodoldeb mwyaf gallaf fabwysiadu geiriau Dafydd, 'Oni wyddoch chwi fod tywysog a gwr mawr wedi methu, a chael ei gaethiwo heddyw yn Israel, a minau ydwyf eiddil heddyw?'

Yn ein Cymdeithasiad ddiweddar yn Llanbedr, syrthiodd y gorchwyl poenus i'm rhan i, o hysbysu i'r cyfarfod lluosog a chyfrifol o weinidogion, pregethwyr, a blaenoriaid, sefyllfa alarus eich anrhydeddus dad, ac yr wyf yn sicrhau i chwi nad oedd bosibl dangos mwy o ofid a chydymdeimlad nac a arwyddwyd gan yr holl gymanfa, heb un eithriad; ac fel prawf o hyny, cynnygiwyd a derbyniwyd y penderfyniadau canlynol yn y modd mwyaf gwresog, unfryd, a diledrith, sef, Fod y cyfarfod hwn wedi clywed gyda phoen dirfawr am yr afiechyd disymwth a gofidus, â pha un y mae yr Hollalluog Dduw wedi gweled yn dda i ymweled â'n cydweithiwr anwyl ac anrhydeddus, y Parch. Mr. Charles, o Gaerfyrddin, a'n bod yn cydymdeimlo yn y modd mwyaf diffuant â'i deulu, ei berthynasau, a'i gyfeillion trallodus, o dan yr oruchwyliaeth boenus bresennol o eiddo rhagluniaeth, ac na pheidia a gweddio am ei adferiad buan ac effeithiol.'

Y mae fy anwyl wraig yn cyduno â mi yn ei gwasanaeth Cristionogol gwresocaf at eich parchedig dad, eich hanwyl chwiorydd, a chwithau.

Ydwyf, fy anwyl Syr,

Yr eiddoch, heb ddichell,

EBENEZER RICHARD.

Y mae y llythyr canlynol yn esbonio ei hun:

AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-CYMMER.

Tregaron, Chwef. 26, 1829.

FY ANWYL GYFAILL,
Nis gallaf lai na chenfigenu wrthych, fel un yn meddiannu rhai rhinweddau gwerthfawr, y rhai yr wyf yn teimlo, a hyny gyda gofid, fy mod i yn fyr ac yn ddiffygiol iawn ynddynt-rhinweddau o gymeriad uchel yn yr Ysgrythyrau sanctaidd. Yr wyf yn credu eich bod yn perchenogi y cariad hwnw am ba un y mae'r apostol Paul yn llefaru mor uchel, pan y mae yn dweud ei fod yn hir-ymaros, yn gymwynasgar, na chythruddir, ac na feddwl ddrwg.' Ymddengys i mi y gallaf brofi hyn yn hawdd, oblegid yr ydych wedi ymaros yn hir iawn yn wir a mi, i adael eich llythyrau yn barhaus heb eu hateb, wythnos ar ol wythnos, a mis ar ol mis; ac, ar ol siomedigaethau mynych, yr ydych yn ysgrifenu drachefn; yn awr, mae hyn yn gymwynasgar iawn ynoch. Ni chythruddir chwi yn hawdd chwaith, onide, buasai fy esgeulusdod i o'ch gohebiaeth frawdol wedi peri hyny er ys llawer amser, ac, er fy mod wedi ymddwyn yn ddrwg iawn, eto nid y'ch yn meddwl drwg. Y mae eich caredigrwydd yn fy ngorchfygu yn lân―y mae eich calon hael yn parhau i ddychymygu haelioni. Yr holl esgusod sydd genyf i'w gynnyg am fy ymddygiad anfoneddigaidd tuag atoch, yw, nad oedd dim yn fwriadol yn y cwbl, a'i fod yn cyfodi oddiar ddeddf orthrymus angenrheidrwydd, gan fy mod y rhan fwyaf o'm hamser oddi cartref yn pregethu, a phan ddychwelwyf yr wyf yn gorfod myned at y gwaith o gyweirio fy rhwyd, ac yna allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf; ac fel hyn yr wyf yn cael fy nhaflu oddi amgylch, Sabbothol ac wythnosol. Y Sabbath yw i mi y dydd gwaith caletaf, ac y mae rhai o'r dyddiau wythnosol yn wir Sabbathau i'm henaid lluddiedig i. Weithiau, wrth fyfyrio, braidd na ddymunwn fod genyf ddau enaid mewn un corph; a thrachefn, wrth bregethu, egwyddori, &c., derbyniwn yn llawen ddau gorph i un enaid; ond wedi'r cwbl, nid ydwyf ond gwas anfuddiol' iawn. Nid yw achos fy Meistr yn y byd yn fawr iawn gwell o'm plegid i. O'r fath gywilydd, ac eto y mae hyd yn hyn yn ymatal rhag dileu fy enw oddiar y gofrestr, ac nid ydwyf hyd yma wedi fy ngyru allan o'r fyddin, (drummed out of the regiment.)

Ond yn awr amcanaf ateb rhai o'r pethau sydd yn eich llythyr diweddaf. Yr ydych yn gofyn a gewch yr Occasional Paper am byth; i hyn yr atebaf, Na chewch, oblegid, yn ol hen ddiareb Brydeinig, Er cystal gen' i maban, mae'n well gen' i fy hunan:' nid oes genyf ond efe yn fy meddiant.

I'ch dymuniadau taerion, am fod i ddysgeidiaeth yr Ysgol Sabbothol gyrhaedd o begwn i begwn, yr wyf yn rhoddi fy amen o'r galon. Yr ydych wedi dyrchafu fy nysgwyliadau am Gymdeithasiad Pont-y-pool i raddau uchel iawn, a gobeithio na chaf fy siomi.

Yr wyf yn cyduno yn hollol â chwi fod adroddiad (report) ysgrifenedig o undeb (union) pob sir, i gael eu hymgorphori yn yr Adroddiad Blynyddol Cyffredinol dros Ddeheudir Cymru, yn beth i'w fawr ddymuno; ond mae'n rhaid i ni aros nes gweled rhyw beth tebyg i undeb yn mhob sir, oblegid nid oes gysgod o hyny eto yn un sir yn Neheudir Cymru ond Sir Aberteifi. Da fyddai genyf pe gallwn hebgor amser i roddi i chwi hanes gyflawn o Gyfarfod Blynyddol ein hundeb ni, a gynnaliwyd yn Llangeitho ar y pedwerydd o'r mis hwn, lle y cawsom yr ysgrifenydd ac un cynnrychiolwr o bob dosparth, yn dwyn yn mlaen eu llyfrau, ac yn dangos ansawdd yr ysgolion am y flwyddyn. Yna cawsom gyfarfod cyhoeddus, lle y traddododd cynifer ag wyth o weinidogion areithiau ar destunau gosodedig, am chwarter awr bob un: yr oedd yr holl destunau yn dwyn perthynas agos âg addysg yr Ysgolion Sabbothol. ***** Gyda fy nghofion caredicaf at eich mam a'ch gwraig anwyl, heb anghofio eich un bychan,

Crefaf ganiatâd i ysgrifenu fy hun,

Fy anwyl gyfaill,

Yr eiddoch, gyda mawr gywirdeb,

EBENEZER RICHARD.


Tregaron, Mawrth 25, 1829.

FY MECHGYN BACH ANWYL,
Y mae eich tad tlawd unwaith eto yn cael caniatâd i'ch hannerch o dan ei gronglwyd ei hun.

Y mae genym yn gyntaf i gydnabod derbyniad eich dau lythyr chwi prydnawn dydd Sadwrn, yr hyn sydd yn wastad yn adfywio ac yn llawenhau ein cylch bychan ni; ac yr wyf yn gobeithio eu bod yn cyffroi ein diolchgarwch i Drefnwr doeth y cwbl, pan ddeallom eich bod yn iach, ac yn cael eich cadw ar lwybr dyledswydd. Byddwch gystal a dweud wrth ein hanwyl gyfaill, y Parchedig Thomas Evans, y byddwn ddiolchgar iawn iddo am anfon i mi ddangosiad (return) o'r Ysgolion Sabbothol yn Sir Gaerfyrddin, gyda mor ychydig oediad ag y byddo bosibl, h. y. holl rifedi yr ysgolion, athrawon, ac ysgolheigion yn y sir. Geill arbed iddo ei hun y drafferth o wneuthur cofrestr o'r lleoedd fel arferol, ac anfon dim ond y cyfan (total.)

Dywedwch wrtho fod ei anhwyldeb yn achos o wir alar a gofid i mi, yn enwedig pan ddeallwyf nad yw yn bwriadu bod yn ein Cymdeithasiad Chwarterol nesaf. Byddaf yn dra chwithig yn Nghymanfa Pont-y-pool, oblegid byddaf yno heb fy llaw ddehau, yn absennoldeb fy nghyd-swyddog parchus.

Tebyg eich bod wedi clywed am farwolaeth ein cyfaill parchus, Mr. Rees Jones, o Gower; fel hyn yr ydym fel y dywedodd y wraig o Tecoa wrth Dafydd, Yr ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir.' Y cwbl sydd genym i ddweud yn nghanol y pethau hyn, gweithredoedd yr Arglwydd ydynt; ac er y gallant ymddangos i ni yn rhyfeddol, eto y maent yn cael eu dwyn i ben mewn anfeidrol ddoethineb a chyfiawnder. Dylem ni ymgrymu mewn ymostyngiad, gan ddweud, Yr Arglwydd Dduw Hollalluog sydd yn teyrnasu. Y mae agwedd meddwl yn bod, (ac O na allem ni ei gyrhaedd,) yr hwn a ddywed yn ngwyneb y cwbl, Efe a wna bob peth yn dda.' Bydded i fawredd ac ardderchawgrwydd Duw wrthbwyso pob peth arall yn ein meddyliau.

Y mae eich mam, a Mary, a Hannah, yn cyduno yn y cariad anwylaf atoch.

Ydwyf, fy llanciau anwyl,

Eich tad,

EBENEZER RICHARD.


Dengys y llythyr a ganlyn fel yr ydoedd yn parhau yn ei zel a'i ymdrechiadau dros yr Ysgol Sabbothol. Y mae yn dwyn perthynas âg ymweliad a wnaeth trwy Sir Forganwg ar gais rhai o'i gyfeillion yno, gyda golwg i sefydlu gwell trefn yn llywodraeth yr ysgolion.

AT Y PARCH. DAVID WILLIAMS, MERTHYR, A MR.
WILLIAM MORRIS, CEFN-COED-CYMMER.

At Gymmedrolwr ac Ysgrifenydd y Cyfarfod Athrawon a gynnaliwyd yn Merthyr Tydfil, Hydref 23ain, 1829. Annerch.

FRODYR ANWYL A HOFF,
Yr ydwyf yn cymeryd y cyfleusdra cyntaf i'ch cyfarch â gair o ein hanes yn y daith ddiweddar trwy wlad Morganwg, gyda golwg ar achos yr YSGOLION SABBOTHAWL. Cawsom roesawiad parod a siriol yn mhob un o'r chwech dosparth cyntaf; dangoswyd parch a chariad nid bychan i ni yn ein hymgais egwan gyda'r gwaith; a bu gweinidogion, pregethwyr, blaenoriaid, ysgrifenyddion, ac athrawon, yn bob cynnorthwy ag a allent, i osod i fynu bob peth yn y modd sicraf a chadarnaf ag a gynnygem iddynt.

Ond am ddosparthiadau Castell-Nedd ac Abertawy, nid oedd y brodyr yno wedi cael ar ddeall fod y cyfarfodydd i gael eu cadw, ac oherwydd hyny yr oeddynt yn anmharod, ac yn anaddfed i wneuthur sylw o ein cyfundraeth fechan ni; er fod yno, o bosibl, gymaint, os nid mwy, o angen nag yn odid un o'r lleill. Ond diffyg hysbysrwydd yn mlaen llaw am ddyben ein dyfodiad a achlysurodd y dyryswch. Yn y lleill oll cytunwyd yn un llais ar y penderfyniadau canlynol:

Penderfynwyd, Bod y cyfarfod deufisol i gael ei gynnal yn mhob dosparth ar yr un egwyddorion ac wrth yr un rheolau a chyda chwi.[1]

Penderfynwyd, Bod dwy gymdeithas haner-blynyddawl i gael eu cynnal yn mhob dosparth, sef yw hyny, y naill haner o'r dosparth i gyfarfod un haner blwyddyn, a'r haner arall o'r dosparth i gyfarfod yr haner blwyddyn arall, i gael eu holi yn gyhoeddus; ac felly y bydd yr holl ysgolion, yn mhob dosparth, yn cael un gymanfa yn y flwyddyn.

Penderfynwyd, Bod pob dosparth yn un llais yn dymuno cael cyd-weithrediadu â'u brodyr mewn cyfarfod blynyddawl, i dderbyn i mewn holl gyfrifon y sir, i areithio am achos yr Ysgolion Sabbothawl, ac felly llunio'r holl ysgolion a'r dosparthiadau yn y sir yn un cyfundeb cadarn a hardd.[2]

Penderfynwyd, Bod y saith dosparth cyntaf yn y sir, sef pob dosparth ond Abertawy,[3] yn dymuno cydweithredu â'u brodyr i gael llyfr i bob dosparth, yn ol y cynllun amgauedig yn hwn, a chael nifer o docynau unffurf a'r llyfr gyda phob llyfr.

Nid oes genyf yn bresennol ond cyflwyno'r achos gwerthfawr a phwysig hwn i nodded a llwydd yr hwn sydd a'i enw yn IAH, ac i'ch gofal chwithau, canys ni feddaf ond ychydig obaith y dygir ef yn mlaen gyda dim cysondeb, oni byddwch chwi yn brif-symudyddion ynddo: dywedaf wrthych yn ngeiriau y bobl wrth Ezra, Cyfod, canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi; ymwrola a gwna.' Felly y dywedaf finau wrth fy anwyl frodyr yn Merthyr, Cyfodwch, arnoch chwi y mae y peth; ac y mae cannoedd yn Morganwg yn barod i ddywedyd, Ni a fyddwn gyda chwi; ymwrolwch, gan hyny, a gwnewch. Bydd yn werth cich dyfodiad i'r byd, a threuliad eich oes yn y byd, i gael bod yn offerynau i osod achos yr Ysgolion Sabbothawl ar iawn droell yn y fath wlad a Morganwg. Y mae hyn o linellau yn dyfod atoch o ystafell cystudd: ni ellais adael fy 'stafell er pan ddychwelais o Forganwg.

Ydwyf, frodyr anwyl a hoff,

Y gwaelaf o'ch brodyr oll,

A'r penaf pechadur,

EBENEZER RICHARD.

Tregaron,
Tach. 16, 1829.

Nodiadau

golygu
  1. Bernais hyn yn ddigonol tan y penderfyniad hwn, gan y gwyddwn eich bod chwi wedi cymeryd nodiadau manwl o bob peth perthynol i'r cyfarfod deufisol.
  2. Bod holl drefniad y Cyfarfod Blynyddawl hwn yn gyfan-gwbl a hollawl yn nwylaw Cyfarfod Misol y Sir, sef pa le a pha bryd y cedwir ef, pwy fydd i lefaru ynddo, ac ar ba destunau, &c.
  3. Yr achos nad oedd dosparth Abertawy yn ymofyn am lyfr, ydoedd, eu bod hwy wedi myned i'r draul o geisio llyfr taclus a hardd yn barod, ac a atebai'r dyben yn hollawl ond ei linellu e'n drefnus.