Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen XII

Pen XI Bywyd y Parch. Ebenezer Richard

gan Henry Richard


a Edward W Richard
Pen XIII

PEN. XII.

Ail-ymweliad Mr. R. i Lundain, a'r amgylchiadau perthynol iddo—Llythyr oddiwrtho ef at eglwys Tregaron—Un arall at eglwys Llangeitho—Llythyrau at ei Feibion—Llythyr oddiwrth y Parch. H. Howells— Atebiad Mr. R. i yr unrhyw—Llythyr at Mr. John Morgans—Un arall at wraig weddw—Ac arall at Mr. William Morris—Llythyr oddiwrth y Parch. Richard Lloyd.

YN y flwyddyn 1830, cymerodd rhai cyfnewidiadau tra phwysig le yn amgylchiadau rhan o deulu Mr. Richard. Yr oedd amser arosiad ei ddau fab yn Nghaerfyrddin wedi terfynu, ac yr oedd yn angenrheidiol i'r hynaf o honynt, gyda golwg i gyrhaedd y ddysgeidiaeth briodol fel meddyg, i dreulio ysbaid o amser yn y brifddinas. I'r fath dad ag ydoedd Mr. R. yr oedd y pethau hyn yn achosi pryder ac anesmwythder mawr; a chan fod tro Sir Aberteifi, yn ol cynllun y Gymdeithasiad yn y Deheudir, i ymweled â'u cydwladwyr yn Llundain, yn dygwydd oddeutu dechreu y flwyddyn hon, penderfynodd Mr. Richard, ar gais ei frodyr yn Nghyfarfod Misol Sir Aberteifi, i fyned trostynt i Lundain y tro hwn, oblegid ei fod yn cael mantais ar yr un pryd i hebrwng yno ei fab hynaf, yr hyn ydoedd yn dra dymunol i'w deimladau.

Cyn cychwyn oddi cartref, galwodd yn nghyd holl aelodau yr eglwys yn Tregaron ar brydnawn Sabbath, am yr hwn achlysur dywed fel y canlyn yn ei ddyddiadur:— Ar fy nymuniad neillduol i, rhoddwyd heibio ein hodfa gyhoeddus, a chyhoeddwyd ein bod yn dymuno i'r eglwys gyfarfod am chwech o'r gloch, yr hyn a wnaethant mewn rhifedi lluosocach nas gallaswn ddysgwyl. Dymunais ar ein cyfaill David Owen, yr hwn a ddygwyddodd fod gyda ni y Sabbath hwnw, i ddechreu y cyfarfod, yr hyn a wnaeth trwy ddarllain, mawl, a gweddi. Yna rhoddais inau gyfarchiad byr i arwyddo yr hyn oedd yn fy ngolwg wrth eu galw yn nghyd, gan hysbysu iddynt mae dymuniad am ran yn eu gweddiau arbenig oedd fy unig ddyben. Wedi hyny gweddiodd pedwar o'r brodyr drosof fi a'm hanwyl fachgen Edward; ac yr oedd yn dymhor nas anghofir yn fuan gan lawer oedd yn bresennol. Yr oedd ysbryd gweddi yn amlwg wedi ei dywallt arnynt, a drws helaeth wedi ei agor i ymdrechu gyda Duw. Argraffwyd geiriau gwraig Manoah yn ddwfn ar fy meddwl, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boeth-offrwm a bwyd-offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hwn glywed y fath bethau.' Bendigedig byth fyddo ei enw gogoneddus ef am sylwi arnom

Yma y canlyn lythyrau a ysgrifenwyd ganddo tra yn aros yn Llundain y tro hwn.

AT EGLWYS Y METHODISTIAID CALFINAIDD YN TREGARON.

Llundain, Mawrth 22, 1830

FY MRODYR ANWYL A HOFF,
Y mae amryw wythnosau bellach wedi myned heibio er pan y cawsom y fraint fawr a melus o gydgyfrinachu a rhodio i dŷ Dduw yn nghyd; eto yr wyf yn hyderu nad ydym yn anghofio ein gilydd, a gallaf ddywedyd yn rhydd nad oes un dydd na nos wedi myned heibio eto, nad ydych chwi, a'ch achos fel eglwys, yn ddwys ar fy meddyliau i, a gobeithio yr ydwyf nad ydych chwithau yn fy anghofio inau, yn enwedig yn eich gweddiau dirgel, teuluaidd, eglwysig, a chyhoeddus.

Yn bresennol mi gaf alw eich sylw at ychydig o bethau, y rhai tebygaf ydynt yn nglŷn â'ch llwyddiant ysbrydol, eich heddwch cymdeithasol, a'ch bywyd tragywyddol.

I. Y dyledswyddau sydd i eu cyflawni.

Ac yn 1af. Tuag at Dduw; oblegid 'oni ddylech chwi,' fel y dywed Nehemiah, 'rodio mewn ofn ein Duw ni,gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.' 1. Gan hyny, dylai eich ofn fod yn fabaidd, sanctaidd, a pharchedig-Ofn yr Arglwydd sydd lân, ac yn parhau yn dragywydd;' dylem wasanaethu Duw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn:' gyda pharchedig ofn y darparodd Noah arch i achub ei dŷ.

2. Dylem garu Duw, oblegid barn a chariad Duw ydyw rhai o bethau trymaf y gyfraith, a phethau sydd raid eu gwneuthur; am hyny, frodyr, ymgedwch yn nghariad Duw, gan ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragywyddol: canys hyn yw cariad Duw, bod i ni gadw ei orchymynion; a'i orchymynion ef nid ydynt drymion; am hyny y dywedaf,Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glan, a fyddo gyda chwi oll, Amen.'

3. Dylem ei wasanaethu ac ufuddhau iddo: mae ei wasanaeth wir fraint; a dyma yr hyn a rwymir arnom, Canys ysgrifenwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethu.' Awyddwn ninau am ei wasanaethu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder, ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd; a chedwch bob amser mewn cof, 'na ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd, canys naill a'i efe a gasâ y naill ac a gâr y llall, a'i efe a lŷn wrth y naill ac a esgeulusa y llall;' ni ellwch wasanaethu Duw a mammon;' a 'gwelir rhagor yn fuan rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a'r hwn nis gwasanaetho ef.'

4. Ymostwng i'w ewyllys ef yn wyneb dyoddefiadau a chroesau; ymddarostyngwch gan hyny i Dduw, a gwrthwynebwch ddiafol, ie, ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac efe a'ch dyrchafa chwi; yn mhellach, ymddarostyngwch tan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas.' Ymostwng ger bron yr Arglwydd a barodd arbed Ahab, Hezeciah, a Manasseh; am hyny, fy mrodyr, ymostyngwch i rodio gyda Duw-dyma lle y llwyddodd Aaron, Eli, a Job.

II. Ein dyledswyddau tuag atom ein hunain: coffaf ychydig o lawer o honynt.

1. Ni a ddylem wilio arnom ein hunain. Pan y mae Paul yn cynghori henuriaid Ephesus, un o'r pethau mwyaf neillduol a ddywed efe wrthynt ydyw, 'Edrychwch arnoch eich hunain,' yna ar yr holl braidd. Un o brif achosion ein haflwydd ni ydyw peidio gwilio arnom ein hunain dylem wilio ar ein hysbryd a'n hagwedd, ein hegwyddorion a'n dybenion; ac na fydded ein gwinllan ein hun heb ei chadw pa fodd bynag.

2. Holi ein hunain, fel y dywed yr apostol Paul, Profwch chwychwi eich hunain, holwch eich hunain, ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy.' Pan y dechreuom holi ein hunain y deuwn i weled yr angenrheidrwydd o weddio gyda'r Salmydd, Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi: chwilia fy arenau a'm calon.'

3. Ymwadu a ni ein hunain. Anrhydedd Duw yw, nas gall ef ddim wadu ei hun, a'n coron benaf ninau yw medru ymwadu a ni ein hunain; heb hyn nis gallwn ddilyn Crist, canys efe a ddywedodd, Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, cyfoded ei grocs, a chanlyned fi.' Gras rhagorol yw hunanymwadiad a gostyngeiddrwydd; mae yn rhoddi hawl i'r addewid Y mae Duw yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.' Ni ellir bod yn gadwedig heb y gras hwn. Oddieithr eich troi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.' Y mae genym siampl ein Iachawdwr i gyrchu ati yma, oblegid efe a ddywedodd, Dysgwch genyf fi, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon.'

4. Ni a ddylem ystyried ein hunain: 'Gan dy ystyried dy hun,' medd Paul, rhag dy demtio dithau;' Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio;' Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro;' ystyriwn mor wan, a ffol, ac agored i demtasiynau yr ydym. Beth os darfu i ti sefyll pan syrthiodd dy frawd, fe allai mac yr awel nesaf a'th chwyth dithau i lawr: ystyria dy hun.

3ydd. Ein dyledswydd tuag at ein gilydd. 'Oblegid ninau, a ni yn llawer, ydym un corph yn Nghrist, a phob un yn aelodau i'w gilydd; canys fel y mac corph yn un, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau yr un corph cyd byddont lawer ydynt un corph, felly y mae Crist hefyd;' h. y. felly y mae eglwys Crist hefyd. Ni ddylai bod anghydfod yn y corph, eithr bod i'r aelodau ofalu yr un peth dros eu gilydd; gan hyny, frodyr, yr ydym yn 1. I garu ein gilydd: Hyn,' medd Crist, yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd;' ac yr oedd gan y Colossiaid nid yn unig ffydd yn Nghrist Iesu, ond cariad tuag at yr holl saint; a bydded eich cariad tuag at eich gilydd yn helaeth, yn gywir, yn gyson, yn gynnyddol, ac yn barhaus, Parhaed brawdgarwch.'

2. Gweddio dros ein gilydd cyffeswch eich camweddau bawb i'ch gilydd, a gweddiwch dros eich gilydd. 3. Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.

4. Cyngorwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir hi heddyw, fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod; Ac annog bawb eich gilydd, a hyny yn fwy o gymaint a'ch bod yn gweled y dydd yn neshau:' gochelwch ymchwyddo yn erbyn eich gilydd, na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr.

Yn bresennol, frodyr a chwiorydd anwyl, nis gallaf helaethu y mae fy mhapur a'm hamser yn pallu; gan hyny byddaf tan rwymau i dewi. Ystyriwch yr hyn a ysgrifenais, a'r Arglwydd a roddo i chwi ddeall yn mhob peth.

Nid ydwyf yn anfon i chwi ddim o fy hanes, gan fod hyny yn cael ei anfon yn wythnosol at fy anwyl deulu. Y mae Edward yn cyduno â mi mewn serchocaf gariad atoch chwi oll, ac yr ydym yn hyderus eich bod yn ddibaid yn ein cofio ni ein dau yn y lle pell hwn.

Ydwyf, fy mrodyr anwyl a hoff,

Yr eiddoch yn Nghrist,

EBENEZER RICHARD


AT EGLWYS CRIST YN CYFARFOD YN CAPEL GWYNFIL, LLANGEITHO.

FY ANWYL GYFEILLION YN YR EFENGYL,
Mae yn gof genyf y prydnawn hwn, ddarfod i mi addaw, cyn ymadael o'r wlad, ysgrifenu llythyr atoch yn amser fy ymdaith yn y ddinas fawr hon; ac wele fi wedi eistedd i'r dyben o gyflawni fy addewid. Nis gwn pa beth sydd oreu i mi ysgrifenu atoch, fel y byddo fy llafur yn hyn yn debyg o fod yn rhyw les, bendith, ac adeiladaeth i chwi: y mae arnaf ofn ysgrifenu geiriau segur, ofer, a difudd; gan hyny, atolygaf ar Dduw gennadu ei Ysbryd Glan i'm goleuo a'm cyfarwyddo.

I. Dymunaf eich sylw ar grefydd bersonol, oblegid hyn yw y sail i bob rhan arall mewn crefydd. Nis gallwn ddysgwyl am grefydd deuluol, gymdeithasol, na gwladol, heb grefydd bersonol: dysgwyl cnwd heb had fyddai hyny, dysgwyl ffrwyth heb un gwreiddyn, a dysgwyl afonydd heb ffynnonau.

Wrth grefydd bersonol yr ydwyf yn deall y tri pheth canlynol, — 1. Cyflwr cyfiawnaol. 2. Anian dduwiol. Yn 3. Cymundeb profiadol â Duw.

1. Cyflwr cyfiawnaol. O mor uchel yw hyn yn y Beibl! O mor werthfawr i'r enaid sydd ynddo! O mor ddiogel! O mor ddedwydd! Y mae gan hwn heddwch tuag at Dduw. Ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. Nid oes damnedigaeth i'r rhai hyn, dedwydd yw y rhai hyn, oblegid maddeuwyd eu hanwireddau, a chuddiwyd eu pechodau; a dedwydd ydynt, am nad yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddynt. Ni lwydda un offeryn a lunier i'w herbyn; a hwy a wnant yn euog bob tafod a gyfodo i'w herbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd; 'A'u cyfiawnder hwy sydd oddiwrthyf fi, medd yr Arglwydd.' Y mae y Mab wedi rhyddhau y rhai hyn, ac am hyny rhyddion a fyddant yn wir dyma gyflwr cyfiawnaol.

2. Anian dduwiol, yr hon a blenir gan yr Ysbryd Glan yn yr ail-enedigaeth. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, eithr o Dduw.' Y mae y rhai hyn yn Nghrist Iesu, ac am hyny yn greaduriaid newydd. Maent wedi ymadnewyddu yn ysbryd eu meddwl, a gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Anian yw hon wedi dyfod oddiwrth Dduw, yn cyffelybu i Dduw, ac yn ymhyfrydu yn Nuw. Nis gall neb ddychwelyd at Dduw, ymhyfrydu ynddo, na'i addoli, heb yr anian hon. Dyma ei had ef, yr hwn sydd yn aros yn y dyn. 3. Cymundeb profiadol â Duw; trwy yr hwn y mae yr enaid yn cael ei nerthu a'i ddyddanu; ei rasau yn cael eu lloni a'u cynnyddu; a'i lygredigaethau yn cael eu darostwng a'u marwhau. Y mae y gymdeithas hon yn un agos, heddychlon, briodol, trwyadl, a chyffredinol. Y mae yma gymundeb â'r Tad yn ei gariad, â'r Mab yn ei swyddau, â'r Ysbryd Glan yn ei ras a'i ddoniau. Dyma grefydd bersonol. O fy anwyl frodyr a chwiorydd, na fyddwch byth dawel hebddi.

II. Dymunaf eich sylw at grefydd deuluol. Y mae hon mewn pwys, angenrheidrwydd, a gwerth, yn nesaf at grefydd bersonol. Edrychwch yn ofalus, fel eglwys, rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, yr hwn y try ei galon oddiwrth yr Arglwydd ei Dduw. Cofiwch fod Abraham yn gorchymyn i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd; Jacob yn gorchymyn i'w deulu fwrw ymaith y gau dduwiau; a phenderfyniad Joshua ydoedd, Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.' Mae crefydd deuluaidd yn cynnwys addoliad, addysg, a llywodraeth deuluaidd.

1. Addoliad teuluaidd. O mor ddychrynllyd yw y cyhoeddiad hwnw, Tywallt dy lid ar y cenhedloedd, y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw.' Yn Zech. xii. 12, y dywedir, 'A'r wlad a alara, pob teulu wrtho ei hun.' O na bai y rhai sydd yn addoli yn fwy cydwybodol, yn fwy gwirioneddol, ac yn fwy sylweddol. Mae lluaws mawr a'u haddoliad teuluaidd yn ffurfiol, yn oer, yn ddifywyd, ac yn dywyll. Allor i'r Duw nid adwaenir yw nifer fawr o'u hallorau teuluaidd.

2. Addysg deuluaidd. Hyfforddus weision oedd gweision Abraham, h. y. rhai wedi eu hegwyddori mewn pob gwybodaeth fuddiol. Mae y tadau i faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Fel y dylai tad gadw cynnaliaeth bara ar ei fwrdd, felly y dylai ei wefusau gadw gwybodaeth; ond och! fy mrodyr, pe nas dysgai llawer o blant ddim gwybodaeth grefyddol ond a glywant yn eu teuluoedd, byddent y mwyaf tywyll a phaganaidd mewn bod. Mae rhy fach o esbonio, cateceisio, a chyngori yn y teuluoedd goreu a feddwn. Erbyn hyn, mae yn rhaid fod y gwaethaf yn ddwfn iawn.

3. Llywodraeth deuluaidd: yn hyn y collodd Eli, ac fe allai Dafydd hefyd. Ac yn hyn mae lluaws mawr yn colli yn ein hoes ninau. Y maent yn addoli, ac y maent yn cyngori peth hefyd, o'r fath ag ydyw; ond y maent yn methu yn y llywodraeth. Rhaid i esgob fod yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, 1 Tim. iii. 4, 5. Ond rhaid gadael: ni feddaf amser na phapur i ymhelaethu, onite gwnaethwn gyda phleser.

Ydwyf, fy anwyl gyfeillion yn yr efengyl,

Yr eiddoch yn ddiffuant,

EBENEZER RICHARD

Wedi aros yn Llundain am ddau fis, dychwelodd drachefn i Gymru.

Yn fuan ar ol ei ddychweliad, derbyniodd lythyr oddiwrth ei fab ieuangaf, (yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfanneddu yn Aberystwyth,) yn hysbysu tueddiad ag ydoedd wedi bod yn ddirgel-goleddu am hir amser, i gyflwyno ei hun i waith y weinidogaeth. Gan ei fod yn gwybod yn dda y dychryn oedd yn meddwl ei dad rhag dangos unrhyw gefnogiad i'w blant i ystyried y weinidogaeth fel rhyw etifeddiaeth fydol, i'w derbyn oddiwrtho ef, nid heb lawer o gryndod y beiddiodd ysgrifenu ato ar yr achos. Ond deallodd yn fuan fod rhyw ddysgwyliadau o'r fath wedi eu ffurfio er ys talm yn meddyliau ei rieni, (er eu bod, oherwydd y petrusder a deimlent ar y pwnc, wedi celu hyny yn ofalus oddiwrtho ef;) a phan ddatguddiodd ef y peth yn wirfoddol ei hun, cafodd achos yn fuan i benderfynu fod ei dad yn llawenychu (eithr yn llawenychu yn wir gyda dychryn) yn y gobaith o weled un o'i blant yn cyflwyno ei hun i'r gorchwyl goruchel i ba un yr oedd efe ei hun wedi cyssegru ei fywyd.

Tregaron, Ebrill 27 ain, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Derbyniais eich llythyr a ddyddiwyd y 24ain, a darllenais ef yn ddioed gyda'r pryder mwyaf, a phwysais yr hyn a gynnwys gyda'r holl ofal, difrifoldeb, a sobrwydd a feddwn i, a chyda llawer o ymdrech wrth orsedd gras, am gyfarwyddyd, arweiniad, a chyngor, yn yr achos pwysfawr hwn. Pan yn myfyrio ar y pwnc, tarawodd geiriau yr apostol Pedr fy meddwl yn nerthol iawn, y rhai a lefarodd efe yn ei ddiffyniad am fyned i dŷ Cornelius, at rai dienwaededig,— Pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw?' ac felly, pwy ydwyf finau, i amcanu lluddias Duw yn yr achos hwn? Na ato Duw i mi fod mor ryfygus! na, dymunwn yn hytrach ddywedyd gyda Dafydd, Pa beth ydwyf fi, O Arglwydd Dduw, a pha beth yw tŷ fy nhad, fel y dygid fi hyd yma?' Mwy llawenydd nid oes genyf, na gweled un o'm hiliogaeth wael i yn cael ei osod yn ngwasanaeth y cyssegr; felly, fy anwyl blentyn, gellwch fod yn hyderus y bydd i mi gymeryd pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall, oblegid y mae'n rhaid i ni droedio yma gyda phwyll a gwyliadwriaeth, gan wybod 'na frysia yr hwn a gredo.' Yn y cyfamser, rhaid i mi erfyn arnoch i fod yn ofalus i ledu y peth yn gydwybodol ac yn gyson o flaen Duw mewn gweddi.

Ydwyf, fy anwyl Henry,

Eich gwir gariadus dad,

EBENEZER RICHARD

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol dyddiad y llythyr hwn, aeth ei ail fab hefyd i Lundain, a derbyniwyd ef i Athrofa Highbury (Highbury College,) gerllaw y brif-ddinas, lle y bu yn preswylio am bedair blynedd. O hyn allan, wedi yr hysbysiadau a wnaed uchod, ni bydd angenrheidrwydd gwneuthur sylwadau neillduol ar y gwahanol bigion o lythyrau a ddanfonodd at ei ddau fab yn ystod y flwyddyn hon.

Tregaron, Ebrill 27, 1830.

FY ANWYL EDWARD,
Gan fod cyfleusdra i anfon ychydig linellau atoch, yr wyf yn cymeryd mantais o hono, gan obeithio y derbyniwch hwynt mewn mwynhad o'ch iechyd a'ch cysuron eraill, fel yr ydym ni oll yn bresennol; i Dduw y byddo'r clod.

Yma y canlyn ychydig gyngorion, yn deilliaw o galon, lawn o ddymuniadau da am eich llwyddiant, a gobeithio y derbyniwch hwynt fel y cyfryw.

1. Nac esgeuluswch byth i gyfarch mewn gweddi yr Hollalluog Dduw yn gywir, yn wresog, yn gyson, ac yn barhaus, holl ddyddiau eich bywyd.

2. Gwnewch gydwybod o fod yn ddiwyd gyda holl foddion gras fel sefydliadau dwyfol, pa un a'i dirgel a'i teuluaidd, cymdeithasol neu gyhoedd.

3. Prynwch eich hamser, a llenwch ef â rhyw orchwyl defnyddiol; ac na oddefwch byth i bechod, diogi, na chysgu, eich hamddifadu o'r gronyn lleiaf o'r trysor gwerthfawr hwn.

4. Byddwch bob amser yn ofalus iawn pa gyfeillach a gadwoch, pa leoedd a fynychoch, a pha eiriau a lefaroch.

5. Yn nesaf at achos diogelwch a llwyddiant eich enaid anfarwol, telwch y sylw manylaf i'ch galwedigaeth, ac amcenwch yn wastad i gyrhaedd, nid canoligrwydd (mediocrity), ond rhagoriaeth ynddi, gan ddal yn eich meddwl yn gyson fod hyn yn gyrhaeddadwy, nid trwy wastraffu symiau mawrion o arian, na thrwy dreulio rhyw lawer iawn o'ch hamser i redeg dros yr ysbyttai (hospitals,) ond yn hytrach trwy ddyfalwch, ac ymroad dibaid at athrawiaeth ac ymarferiad (theory and practice) eich galwedigaeth.

6. Ymlynwch gyda'r gafaelgarwch mwyaf at fanylrwydd yn mhob ystyr; byddwch fanwl at eich addewidion, eich trefniadau, eich hymrwymiadau, yn y teulu lle yr ydych yn cyfanneddu, yn y perthynasau a ffurfioch, a thuag at y gwahanol raddau mewn cymdeithas (classes of society) â pha rai y byddwch yn ymwneud.

Rhaid i mi adael heibio yn bresennol, ond yr wyf yn cwbl fwriadu, os arbedir fy mywyd, i ychwanegu amryw gyngorion eraill[1] at y rhai uchod; a gobeithio y bydd i Ysbryd Duw, gwaith yr hwn yw ysgrifenu ar y galon, i argraffu y pethau hyn ar eich calon chwi; a chan fabwysiadu geiriau Solomon, dywedaf, Fy mab, gwrando addysg dy dad,' &c.

Aberayron, Awst 28, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Daeth eich llythyr yn ddiogel i law boreu dydd Iau, ac O'r fath newydd dedwydd i'ch rhieni pryderus ac anesmwyth, sef, am eich taith ddiogel a llwyddiannus, a'ch dyfodiad amserol i'r ddinas fawr. Mae'n debyg i'r siomedigaeth fechan a gyfarfuoch ar y ffordd, i droi allan yn y diwedd er mwy o gysur i chwi. Mae hyn yn dangos y fath greaduriaid byr eu golwg ydym ni, yn cael ein temtio yn fynych i ddywedyd, Yn fy erbyn i y mae hyn oll,' pan y mae Duw trwy'r amgylchiadau mwyaf croes yn dwyn i ben waredigaethau dedwyddaf. Cyngorwn i chwi sylwi er eich myfyriaeth a'ch cynnaliaeth beunyddiol, y geiriau adfywiol a chalonogol hyny o eiddo'r Gwaredwr wrth Pedr, Y peth yr ydwyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awr hon, eithr ti a gei wybod ar ol hyn;' am hyny, fy anwyl Henry, yr wyf yn gobeithio y galluogir chwi i ymddiried eich hun yn ei ddwylaw ef, yr hwn a rasol addawodd, Ni'th roddaf i fynu, ac ni'th lwyr adawaf chwaith.' Na ddigalonwch, fy, machgen anwyl, ond ymostyngwch i drefniad doeth ein Duw cyfammodol, yr hwn a wna i bob peth yn y diwedd gydweithio er daioni.' Mewn amynedd meddiannwch eich henaid,' oblegid y mae yn rhaid i ni wrth amynedd, rhag i ni dynu'r ffrwyth cyn y byddo yn addfed, ac fel hyn niweidio yn lle cynnorthwyo ein hunain, gan gadw yn wastad o flaen y meddwl ddywediad y parchus Mr. Gurnal, Fod gwell i ni adael i Dduw dori (carve) drosom, oblegid, bob amser y byddom yn tori drosom ein hunain, yr ydym yn tori ein dwylaw a'n bysedd;' am hyny cyflwynwch eich hunan yn feunyddiol i'w ewyllys tadol ef.

Tregaron, Medi 13, 1830.

FY ANWYL EDWARD, ***** Yr wyf yn gobeithio y bydd i chwi eich dau gadw mewn cof y dywediad dwyfol hwnw, Canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a'm dirmygwyr a ddirmygir;' a chedwch yn gyson mewn golwg yr hyn sydd wedi ei lefaru mor ogoneddus am ddoethineb, hocdl sydd yn ei llaw ddehau hi, ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i llwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i'r neb a ymaflo ynddi, a gwyn ei fyd a ddalio ei afael arni hi.' Os gofynwch pa beth yw y ddoethineb hon, mynegir i chwi yn y gyfrol ddwyfol, 'Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele ofn yr Arglwydd, hyny ydyw doethineb, a chilio oddiwrth ddrwg sydd ddeall.' Sylwch ar yr ymadrodd, hyny ydyw doethineb—hyny yw'r doethineb mwyaf pur, ardderchog, a gogoneddus, hyny yw bod yn ddoeth i iachawdwriaeth, hyny yw bod yn ddoeth ar gyfer tragywyddoldeb. Y mae llawer sydd yn ddoeth iawn yn nghylch teganau, ac yn ddoeth am bethau amserol a gweledig, ond yn ynfydion eithaf yn nghylch y pethau uwch ben pa rai y bydd raid iddynt syllu am oesoedd diddiwedd. O'r fath frycheuyn disylwedd yw'r byd hwn mewn cymhariaeth â'r nesaf, y fath nod anweledig yw ein hamser ni yn y byd hwn mewn cymhariaeth âg oesoedd diderfyn tragywyddoldeb! Yma yr wyf yn colli fy hunan, ac yn cael fy llyncu i fynu yn y syniad am dragywyddoldeb.

Y mae y llythyr canlynol yn cyfeirio at y gwahanol amgylchiadau yr aeth ei ail fab trwyddynt cyn ei dderbyniad i'r athrofa, yn nghyd a'i sefyllfa unig ac amddifad yr oedd ynddi ar y pryd, oblegid daethai i Lundain heb ganddo y wybodaeth leiaf am un cyfaill a allasai ei gyfarwyddo na'i gynnorthwyo yn y dyben oedd ganddo mewn golwg.

Tregaron, Medi 13, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Derbyniais eich llythyr yn ddyladwy yn Aberayron. Ysgrifenais ar y 31ain o Awst at Mr. Wilson (trysorwr yr athrofa) ac atoch chwithau; ac yr oeddwn mewn gobaith cael clywed oddiwrthych rai o'r dyddiau diweddaf hyn. Yr wyf yn awr yn ysgrifenu heb wybod pa effeithiau a gafodd y llythyrau a dderbyniwyd o'r wlad, yn eich hachos chwi.

Yr oedd yn llawen iawn genym gael eich llythyr diweddaf, oherwydd nad oedd amser genych yn yr un o'r blaen i roddi i ni un awgrym am eich gweithrediadau, ond yn awr yr ydym mewn meddiant o wybodaeth dra gwerthfawr am danoch. O mor fynych y canlynais chwi at Dr. Henderson a Mr. Halley, at Mr. Wilson ac o flaen y cyfeisteddiad! O mor bryderus y bum yn eistedd wrth eich pen-elin, pan oeddych yn ysgrifenu eich ateb i'w gofyniadau, a chyda'r pa fath gerddediad crynedig y bum yn cydfyned â chwi i gyfarfod a'r cyfeisteddiad y prydnawn hwnw ! Fel y bum yn eistedd yn eich ymyl dros y pedair awr hirfaith o ddysgwyliad pryderus, ac fel yr aethum gyda chwi â chalon grynedig pan eich gwysiwyd i'w presennoldeb! Mor fynych y bum yn gofyn, Pwy ydyw y bachgenyn gwridgoch acw, sydd yn sefyll o flaen doctoriaid dysgedig Llundain? Ai fy anwyl Henry ydyw? Ie, efe yw-nid yw bosibl! Os efe yw, pa le y mae ei gyfeillion a'i gynnorthwywyr? Pa le y mae ei gyngorwyr a'i gyfarwyddwyr? Os oes ganddo y cyfryw, y maent yn hollol anwybodus o'i sefyllfa bresennol; geill ddywedyd gyda'r Salmydd, Câr a chyfaill a yraist yn mhell oddiwrthyf.' A oes ganddo neb i ateb drosto? Pa le y mae ei dad, a'i fam, yr hon a'i hymddug? Y maent ragor na dau chant o filldiroedd oddiwrtho, yn nghanol mynyddoedd Cymru? A oes ganddo neb cydnabod yn Llundain ag y geill droi atynt? Nac oes neb yn y byd! Wel' yn wir y mae e' yn unig iawn, wedi ei adael gan yr holl fyd! Ond boed felly; mi allaf fi ganfod nad ydyw yn unig—yr oedd y Duw hwnw oedd gyda Joseph o flaen Pharao, gyda Henry o flaen y cyfeisteddiad, yn dadleu ei achos ac yn ateb drosto-y Duw hwnw a arweiniodd ei rieni y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, a fu yn gyngorwr ac yn gynnorthwy iddo. Bydded yr holl fawl iddo ef!

Fel hyn, fy anwyl Henry, gellwch ganfod yn hawdd (fel yr wyf yn gobeithio fy mod inau) i bob braich o gnawd gael ei chadw o'r golwg yn bwrpasol, fel y byddai i Dduw gael y gogoniant yn anghyfranogol iddo ei hun; oblegid pe buasai genych lawer o gyfeillion i'ch cymeradwyo, buasai rhan fawr o'r clod yn fwyaf tebyg yn cael ei briodoli iddynt hwy, a'r Arglwydd yn cael ei gadw o'r golwg; ond yn awr nid oes neb i fod yn gyfranogwyr gydag ef: bydded yr holl ogoniant iddo!

Rhoddodd foddlonrwydd mawr i mi i ganfod fod pwys a mawredd ofnadwy gwaith sanctaidd y weinidogaeth i ryw raddau yn cael ei egluro i'ch meddwl. Pan y byddwyf yn meddwl am y sefyllfa bwysig y mae eich brawd ynddi, yr wyf yn aml yn crynu, oblegid y mae yn orchwyl difrifol i gael aclodau, iechyd, a bywyd ei gyd-greaduriaid yn gyflwynedig i'w ofal. Ond O, y mae hyny yn soddi i ddiddymdra mewn cymhariaeth a chael eu heneidiau, eu hanfarwol eneidiau, wedi eu cyflwyno i'ch gofal chwi. Pa beth yw rhwymo asgwrn drylliedig braich neu glûn, mewn cymhariaeth a rhwymo y galon friwedig? O fy mhlentyn anwyl, nis gall holl athroniaeth (philosophy) Llundain byth eich dysgu yn y gelfyddyd ryfeddol a dirgel hon, ond rhaid i chwi gael eich dysgu gan yr Ysbryd Glan. Mae llawer o ddysgawdwyr yn Israel, a llawer D. D., yn ddyeithriaid hollol i'r ddysgeidiaeth hon. Gallant fod yn athrawon mewn celfyddydau eraill, ond y mae'r gelfyddyd o lefaru gair mewn pryd wrth enaid y diffygiol,' yn hollol allan o'u cyrhaedd. Yr wyf yn erfyn arnoch i fyfyrio llawer ar y bummed bennod o ail Corinthiaid. Y mae y cymhwysderau gofynol i'r weinidogaeth yn cael eu gosod lawr yno gan yr Ysbryd Glan ei hun, sef,

1af. Gwybod ofn yr Arglwydd.

2il. Bod cariad Crist yn ein cymhell; ac yn 3ydd. Bod Duw wedi rhoddi i ni weinidogaeth y cymmod.

Cedwch y pethau hyn yn feunyddiol mewn golwg, ac nis gallant lai nac argraffu ar eich meddwl y pwys fawrogrwydd ofnadwy o fod yn weinidog i Dduw.

Tregaron, Medi 15, 1830.

FY ANWYL HENRY,
Aethum y boreu heddyw i Aberystwyth, lle y cyfarfyddais yn annysgwyliadwy iawn â Mr. Morris Davies, oddiwrth ba un y derbyniais ychydig hanes am eich brawd a chwithau, a llythyr oddiwrthych chwi yn rhoddi mynegiad byr a chyflawn am droelliadau rhyfeddol rhagluniaeth ar eich rhan. Pan ddarllenais eich llythyr, nis gallaswn ymatal rhag dagrau o lawenydd a diolchgarwch i'r Duw sydd yn cyflawni ei addewidion, yr hwn sydd wedi profi ei hun yn Dad i'r amddifad,' ac yn un sydd yn gosod yr unig mewn teulu.' Mewn gwirionedd dylai y Duw hwn gael ymddiried ynddo, ei garu, ei foli, a'i fawrygu, a'i ddyrchafu uwch law pob clod. Bydded fod mawl yn aros iddo yn Prospect House a Highbury College, ac iddo ef y dylid talu yr adduned.' Rhoddwch eich holl hyder arno, oblegid ni 'fyrhawyd ei fraich, ac efe yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.'

Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar neillduol am i chwi gael eich derbyn i'r athrofa heb ragor o oediad, canys, fel y dywed Solomon, 'Gobaith a oeder a wanha y galon, ond pren y bywyd yw deisyfiad pan ddel i ben.' Yr wyf yn gobeithio y cynnelir eich meddwl, fy mhlentyn anwyl, oblegid ni bu arweiniad rhagluniaeth yn fwy amlwg mewn un achos erioed, nac yn yr eiddoch chwi; am hyny, ymgryfhewch ac ymnerthwch yn y gras sydd yn Nghrist Iesu. Mae eich anwyl fam ac'h chwiorydd yn dymuno yn fawr wybod pa un a allent hwy eich cynnorthwyo mewn un modd i ddodrefnu eich hystafelloedd; ac os oes arnoch eisiau arian, byddwch sier o roddi gwybod i'ch tad, oblegid yr ydym yn penderfynu gwneuthur yr oll sydd yn ein gallu drosoch yn dymhorol yn gystal ac yn ysbrydol. Y mae aelwyd y Prospect House, a gwely y 'room fach,' yn dystion o'n hymdrechiadau a'n dagrau yn eich hachos chwi.

Tregaron, Tachwedd 6, 1830.

FY ANWYL EDWARD,
Derbyniasom eich llythyr, a ddyddiwyd y 3ydd o'r mis, neithiwr, yr hwn a'n llanwodd â gwahanol deimladau. Yr oedd yn dda genym eich bod wedi derbyn yr arian yn ddiogel; ond pan ddaethom at yr hanes am eich anhwyldeb diweddar, llanwyd ni â theimladau mwyaf poenus ac angerddol. Wrth ddeall fod ein hanwyl fachgen wedi bod mewn cymaint o boen, a hyny yn nghanol dyeithriaid, O fel yr oedd ein calonau yn curo a'n llygaid yn ffrydio wrth feddwl fod ein hanwyl Edward heb ofal a maeth mam dyner a chariadus, ac O fel yr oeddym yn dymuno y buasai genym adenydd i'n cymeryd âg un ehedfa i ystafell glaf ein hanwyl Ned. O fel yr ydoedd y goreu o famau yn darlunio iddi ei hun y modd y buasai yn esmwythâu gobenydd, ac yn gosod pen poenus ei Edward ar ei mynwes, ac fel y buasai yn gwylio cwrs yr afiechyd, yn sylwi ar yr arwydd lleiaf o'i leihad, a'i chalon lawn yn curo yn gyson rhwng ofn a gobaith. Ac O fel y buasai ei dad penllwyd yn galw i ymarferiad yr holl wroldeb, profiad, a ffydd a feddai, i'r dyben o sirioli ei blentyn cystuddiol; weithiau yn ymdrechu gyda Duw drosto, a'r funud nesaf yn gweinyddu iddo o phiol cysur; ond och, och, nid yw hyn i gyd ond breuddwyd, oblegid y mae dau can' milldir rhyngddynt ag ef, ac nid oedd ganddynt y wybodaeth leiaf am ei afiechyd, a phe buasai, yr oedd yn gwbl allan o'u gallu i roddi iddo y seibiant lleiaf. Ond er hyn i gyd, Pa le y mae y Duw yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?' a pha le y mae Ceidwad Israel, yr hwn nid yw yn huno nac yn hepian?' Yr wyf yn gobeithio iddo fod yn Dduw agos at law, ac nid yn mhell: ben digedig fyddo ei enw sanctaidd am na'ch llwyr adaw odd yn eich cystudd diweddaf, ac yr wyf yn hyderu 'i'w ymgeledd gadw eich ysbryd.' O mor llawen a diolchgar oedd genym ddeall fod y geiriau gwerthfawr hyny yn Heb. xiii. 8 wedi bod yn gynnaliaeth i chwi, oblegid y mae probatum est wedi ei labedu (labelled) ar y cordial hwn yn ein meddygdy ni; ac O fel yr adseiniodd ein calonau i'r ddau bennill Cymraeg a grybwyllwch.

Sancteiddrwydd im' yw'r Oen dinam,
'Nghyfiawnder a'm doethineb,
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
A'm Duw i dragywyddoldeb.

Duw ymddangosodd yn y cnawd,
Fe gafwyd brawd yn brynwr;
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.'

Fel hyn, fy anwyl Edward, yr wyf yn gobeithio eich bod wedi cael eich dysgu i wybod fod crefydd a duwioldeb yn fuddiol i bob peth. Y mae llawenydd a chrechwain y dyn cnawdol yn ateb rhyw beth iddo mewn iechyd a llwyddiant, ond pan y byddo cystudd ac afiechyd unwaith yn agoshau, mae'r cwbl yn pallu yn union-nid oes ganddo le i droi, y mae yn cael ei adael i ddychryn ac anobaith.

Ydwyf, fy anwyl Edward,

Eich tad cariadus,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn amryw lythyrau a ysgrifenodd yr un flwyddyn at wahanol gyfeillion, enwau pa rai a roddir ar y dechreu; y cyntaf o honynt mewn atebiad i'r cyfarchiad hyfryd a thra-effeithiol oddiwrth y Parch. Mr. Howells, Trehil, at y Gymdeithasiad yn Llangadog, yr hwn hefyd a roddir yma.

BARCHEDIG FRODYR,
Yr wyf yn methu attal heb ysgrifenu hyn o linellau atoch drachefn. Pan glywais fod y Gymanfa yn dyfod i ardal Llangadog, fe lonodd fy meddwl yn siriol iawn wrth gofio yr amser y bum yn teithio trwy y lle caredig hwnw tua Jerusalem (Llangeitho.) Yno y ceisum letya ar y ffordd, a meddyliais fy mod yn y gwersyll, a'r cwmwl yn ein gorchuddio, hyd nes i'r udgorn swnio i beri i ni gychwyn yn mlaen. Cawn, frodyr a thadau caredig ac anwyl, i gyd-drafaelu o Abermarles, a Llwyn-Dewi, a Chae-Shencin gyda hyny, ac amryw leoedd ereill nad wy'n cofio eu henwau. Byddai'r dyrfa yn chwanegu wrth fyned yn mlaen tua Sion, lle cawsom wledda ar y llo pasgedig, a'r gloyw win, a bwrdd yn llawn o foreu-ddydd hyd brydnawn. Yn awr y mae yn wahanol iawn; mae'r dyfroedd wedi dyfod i fro'r dwyrain, a disgyn i'r gwastad, ac y mae yn myned i'r môr, a'r dyfroedd a iacheir; mae bro a bryniau Morganwg yn ymlusgo ato, ac y mae lle i obeithio fod llawer yn cael iachad; mae swn caniadau ymwared a diolchgarwch trwy ein hardaloedd.

Ond bellach, rhaid i mi eich gadael, a deisyf arnoch fy nghofio ger bron yr orsedd fawr, (y gwaelaf o bawb o honoch,) yr unig fan y mae fy enaid tlawd yn cael achos i ganu yn llawen weithiau; cofiwch chwithau fi yn eich gweddiau, hen bechadur tlawd sy'n wynebu glyn cysgod angeu. Er hyny, os bydd y gwr biau'r wialen a'r ffon gyda mi, nid ofnaf niweid-fe ddichon daro'r afon â'r wialen, a chynnal â'r ffon, nes landio mewn i'r wlad lle na bydd achos ofni mwy.

Deuwch yn hyderus atom, frodyr, mae'r graig yn dechreu rhwygo, a lle i feddwl fod rhai meini yn cael eu codi allan o honi, er fy mod i a'm mrodyr wedi ei churo dros yn agos i driugain mlynedd; ond yn awr, mae llu mawr yn sefyll yn nghanol y dyffryn, nes wy'n gorfod gwaeddi, O anadl, tyred, fel y byddo byw yr esgyrn hyn.' Deuwch, frodyr, yn hyderus ac yn arfog; codwch eich banerau i fynu yn enw'r Gwr goncwerodd angeu: ceir gwisgo'r goron yn ddiamau wedi gorchfygu rhwysg a grym y cewri, a'r holl Anaciaid wedi eu diddymu.

Yn awr yr wyf yn eich gadael, frodyr anwyl, gan ddymuno eich llwyddiant â'm holl galon; er fy mod yn ffailu bod yn eich mysg, mae fy meddwl tlawd gyda chwi yn aml ac yn fynych wrth gofio y pleser a gefais yn eich plith, a chofio Llangeitho—y gwleddoedd ge's yno wrth glywed cyhoeddi fod yr hen addewid foreu wedi ei chyflawni, a siol y sarph wedi ei sigo, a llawer yn gwaeddi,

'Un ergyd eto ar ben y ddraig,
A'n traed ar Graig yr Oesoedd;
Mor wir a'n bod ni yma yn nghyd,
Cawn fyn'd o'r byd i'r nefoedd.'

Hyn oddiwrth eich annheilyngaf frawd,

A'ch ewyllysiwr da yn yr efengyl,

H. HOWELLS.

Trehil, Mehefin, 28, 1830.

AT Y PARCH. MR. HOWELLS, TREHIL.

Tregaron, Gorph. 19, 1830.

BARCHEDIG AC ANWYL SYR,
Derbyniwyd eich llythyr efengylaidd, brawdol, a charedig, gyda llonder mawr, a darllenwyd ef yn ngwydd, a gwrandawyd ef gan yr holl gorph yn eu Cymdeithasiad Flynyddol yn Llangadog, a pharodd gysur a llawenydd nid bychan i'r holl frawdoliaeth oedd yn nghyd o'r Dehau a'r Gogledd. Yr henafgwyr oedd yn bresennol ni allent ymattal oddiwrth ddagrau wrth alw i eu cof y dyddiau o'r blaen, a chlywed enwi Llangeitho, Abermarles, Llwyn-Dewi, a Chae-Shencin -lleoedd, mae'n debyg, yr aeth rhwymau llawer yn rhyddion, y trodd nos llawer yn ddydd, a'u galar yn gân-yma yr oedd ein hen bobl yn barod i godi meini, a dywedyd, Ebenezer, hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd ni.' Yr ydoedd y bobl ieuainc hefyd ag ydoedd yn bresennol, yn barod i floeddio, Hosanna i Fab Dafydd,' wrth glywed fod y dyfroedd wedi dyfod i fro'r dwyrain, ac yn disgyn i'r gwastad, ac yn myned i'r môr, ac yna yr iacheid y dyfroedd, a bod pob peth byw, pa le bynag y delo'r afonydd, i gael byw, a phob dim lle y delo yr afon fydd byw: hyn ennynodd fawl trwy yr holl le.

Gorchymynodd y corph i mi, fel eu Hysgrifenydd, i drosglwyddo i chwi eu diolchgarwch mwyaf diffuant a chynnes am eich cariad tuag atom, a'ch gofal dibaid am danom bob amser, a'r waith hon eto yn ychwanegol; ac y mae yn llawenydd genym hysbysu i chwi, fel un o dadau y corph, fod ein llong fechan hyd yma heb wneuthur llongddrylliad am y ffydd. Mae llawer ystorm erwinol wedi curo, ïe, wedi rhuthro, arni er ys yn agos i gan' mlynedd bellach, eto er hyn i gyd y mae heddyw ar wyneb yr eigion mawr, yn gyfan ac yn llwyddo. Y mae yr holl glod am hyn yn ddyledus i'r Pen-llywydd IESU yn unig. Yr ydym wedi colli rhwyfwyr glewion oddiar y bwrdd, megis Rowlands, Charles, Roberts, Morris, ac eraill, ac y mae llawer wedi eu hanalluogi a'u rhwymo gartref, rhai gan henaint, eraill gan fethiant, gwywdod, a nych, megis Howells, Charles, a'r ddau Evans[2]; ond, bendigedig a fyddo Duw, y mae yr ARGLWYDD a'r ATHRAW eto yn aros yn y llong i lywiadu a gofalu am dani; am hyny yr ydym yn hyderus y bydd iddi orfod yr ystormydd oll yn y man.

Yr oedd yn dra llawen genym glywed fod yr ymweliad grasol a daionus sydd wedi bod bron ar yr holl eglwysi, yn yr amrywiol wledydd, o'r diwedd wedi cyrhaedd bro fras Morganwg; y mae hyn yn rhoddi'r celwydd i haeriad cableddus y Syriaid, mai Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynoedd yw efe; yn wir y mae efe i'r dyffrynoedd hefyd, fel y gwelir heddyw yn eich hardaloedd chwi

'Cerdd yn mla'n, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân.'

Y mae yn ddrwg genyf nas gallaswn anfon y llin ellau uchod yn gynt, ac yr ydwyf mewn braw, gan mor agos i gymmydogaeth y nefoedd yr oedd ein hen frawd parchedig wrth ysgrifenu ei lythyr, rhag y bydd wedi ei gipio yno cyn y cyrhaeddo hwn ef.

Yr ydym yn taer ddeisyf cael ychydig linellau eto cyn gynted ag y galloch.

Y mae fy anwyl gymhares yn gydunol â mi yn deisyf ein cofio yn y modd mwyaf caredig atoch chwi, ac at eich anwyl Mrs. Howells.

Ydwyf, barchedig ac anwyl Syr, yr eiddoch,

Dros y corph,

Yn rhwymau efengyl Crist,

EBENEZER RICHARD,

Ysgrifenydd y Gymdeithasiad.


AT MR. JOHN MORGANS, LLANDYSIL.

Tregaron, Aust 26, 1830.

FY ANWYL GYFAILL,
Tebygaf eich bod yn dal yn eich cof ddarfod i chwi ddodi yn fy llaw lythyr agored yn Nghymdeithasiad Aberteifi, ar yr hwn nid oedd amser na chyfleusdra i sylwi dim; ond ar ol dychwelyd adref, a chael ychydig hamdden, mi a'i darllenais drosto yn bwyllog a manwl, ac, i'm tyb i, y mae yn cynnwys tri prif-fater go bwysig, yn enwedig i chwi, sef yn I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. II. Eich bwriad i briodi. Ac yn III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i waith y weinidogaeth; yr hyn yw y mwyaf pwysig o'r cwbl. Y mae yn ddiammau fod y ddau gyntaf yn sicr o esgor ar ganlyniadau sobr i chwi, ond y maent yn fach mewn cymhariaeth â'r olaf.

I. Eich bwriad i roddi'r ysgol heibio. Mae ein Cyfarfod Misol ni yn debyg o edrych ar hyn gyda gradd o ofid a galar, gan eu bod er ys amryw flynyddau bellach yn medru cymhorth eglwysi gweiniaid, a defnyddio moddion i oleuo ardaloedd tywyll, trwy eich llafur chwi fel offeryn. Eto ni obeithiwn y cyfyd Duw ymwared o le arall; ac os yw yn ewyllysio i ni barhau y gorchwyl yn mlaen, y dengys ei Fawrhydi ryw berson addas at y gwaith, gan fod gweddill yr ysbryd ganddo; ac o bosibl na bydd cynifer o flynyddoedd yn eich hoes yn nghyd ag y gellwch edrych arnynt gyda mwy o dangnefedd, tawelwch, a hoffder, a'r rhai a dreuliasoch gyda ein hysgol rad ni, eto gall eich rhesymau fod yn ddigonol am ei rhoddi heibio.

II. Eich bwriad i briodi. Nid ydwyf yn gwybod am ddim a all fod yn wrthwyneb i hyn, canys anrhydeddus yw priodas yn mhawb,' ac nid da bod dyn ei hunan; am hyny dywedodd Duw, 'Gwnaf iddo ymgeledd gymhwys iddo.' Un o athrawiaethau cythreuliaid ydyw gwahardd priodi, ac nid oes neb yn gwneuthur hyny ond Anghrist; ïe, yr ydych yn rhydd i briodi y neb a fynoch, ond yn unig yn yr Arglwydd.

Cyfammod dwyfol ac anrhydeddus, yr hwn a wneir gan ddau berson o wahanol ryw, yw priodi, i garu a bywioliaethu gyda y naill y llall hyd onis gwahano angeu hwynt; ond cofiwch fod bywyd priodasol naill neu yn ddiflas, neu yn boenus, neu yn happus. Tuag at ei fod yn happus, rhaid cael y tri pheth canlynol:1. Gwir grefydd, a bod nesaf y gellir o'r un farn am grefydd. 2. Callder, neu gallineb. 3. Natur dda, a goddef eu gilydd mewn cariad. Dyma, yn fyr, rai o'r pethau mwyaf anhebgorol i happusrwydd priodasol; ac os mynwch wybod pa fodd i fod yn wr da, y mae genych hen lyfr yn eich meddiant a ddengys i chwi mewn modd anffaeledig pa fodd i fod y cyfryw un.

III. Eich bwriad i gynnyg eich hunan i'r weinidogaeth. Dyma'r mwyaf pwysig eto. Bod yn weinidog ydyw bod yn 'was i'r Duw goruchaf, yn dangos i ddynion ffordd iachawdwriaeth.' Yr hwn a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd.' Sylwch, o'r holl rai a wnawd ac a wneir gan ddynion, ni wnaed un cymhwys erioed ond gan Dduw; a rhaid i weinidog, cyn y byddo cymhwys, fod yn

1. Yn Gristion gwirioneddol ei hunan, wedi ei ail-eni, ei eni oddi uchod, o'r Ysbryd, yn greadur newydd.
2. Rhaid fod ganddo gynnysgaeth o wybodaeth, profiad, a doniau, Matt. xiii. 52.
3. Rhaid ei fod wedi ei alw gan Grist trwy ei Ysbryd at y gwaith hwn, Act. xxvi. 18.
4. Rhaid fod ei ddyben yn gywir, syml, a diduedd o flaen Chwiliwr y Galon, 2 Cor. xii. 14.
5. Rhaid fod ei feddwl tan argraff am natur, helaethrwydd, a phwysfawrogrwydd y gwaith, Ezec. iii. 17, &c.
6. Rhaid ei fod o ysbryd addas, heb wneuthur gwaith yr Arglwydd yn dwyllodrus.
7. Rhaid ei fod yn 'weithiwr difefl,' yn medru iawn-gyfranu gair y gwirionedd.
8. Rhaid ei fod yn dyst cyflym, cadarn tros Grist, yn erbyn pob llygredigaeth.
9. Rhaid iddo bwyso yn wastadol a beunyddiol ar Grist am bob nerth angenrheidiol.

Yn awr mi debygaf eich bod yn llefain allan, fel y byddaf fy hunan yn aml, A phwy sy ddigonol i'r pethau hyn?' Eto, er hyn i gyd, mae gwir weinidog neu was Crist yn meddu gras ei Feistr, wedi derbyn galwad ei Feistr, yn gwneuthur gwaith ei Feistr, yn dwyn iau ei Feistr, yn amcanu at ogoniant ei Feistr, ac yn y canlyniad fe dderbyn wobr ei Feistr. Yr ydych yn sylwi yn niwedd eich llythyr fod genych resymau ag sydd yn peri i chwi gredu fod eich cymhelliad i'r gwaith o Dduw. Byddwch sicr o hyny, yna nid rhaid ofni oddiyma i'r farn.

Gan wir ddymuno a thaer weddio am i chwi fod tan ddwyfol gyfarwyddyd yn mhob un o'r achosion pwysig uchod, ond yn enwedigol y trydydd, y terfynaf. Yr eiddoch yn ddiffuant ynddo Ef, yr hwn a fu farw ac a gyfododd drachefn,

EBENEZER RICHARD.

AT WRAIG WEDDW AR FARWOLAETH EI GWR.

Tregaron, Medi 21, 1830.

FY ANWYL CHWAER,
Yr wyf yn teimlo tuedd ynof i ysgrifenu atoch yn eich tywydd presennol; ac eto, wedi dechreu, nis gwn pa beth yn iawn, na pha fodd, byddai goreu ysgrifenu. O mor dda yw gair yn ei amser!' Fe roddes yr Arglwydd Dduw i'r Cyfryngwrdafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol; ac fe all ef roddi i minau bin yr ysgrifenydd parod, tra byddwyf yn amcanu anfon gair o ddyddanwch at un o ferched cystudd.

Wrth yr hanesion a dderbyniais, tebygwn fod eich diwrnod yn debyg i'r un a ddisgrifir gan y prophwyd Zechariah, xiv. 7. Ond bydd un diwrnod, hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd; nid dydd ac nid nos, ond bydd goleuni yn yr hwyr.' Fe fu arnoch chwi ddiwrnod, nid amser anmhennodol, ond diwrnod; nid â byth yn ddau ddiwrnod; diwrnod a fydd,—nid amser annherfynol, ond un diwrnod. Y mae yr Arglwydd yn mesur ac yn pwyso gorthrymderau ei bobl wrth y gronynau. Wrth fesur pan el allan, yr ymddadleu âg ef; mae yn attal y gwynt garw ar ddydd y dwyreinwynt.' Am hyny y llefodd Job, O gan bwyso, na phwysid fy ngofid!' At hyn y cyfeiria y Salmydd hefyd, Salm lxxx. 5, wrth gŵyno tywydd yr eglwys, Porthaist hwynt â bara dagrau, a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.' Deliwch sylw, fy chwaer, dagrau wrth fesur mawr,' eto nid heb fesur: os oeddynt fesur mawr, yr oeddynt wedi eu mesur yn ofalus. Felly hefyd y mae y prophwyd Jeremiah, xxx. 11, yn cysuro Jacob, Eithr, medd Duw, mi a'th geryddaf di mewn barn, (mewn mesur, yn ol y Saesoneg,) ac ni'th adawaf yn gwbl ddigerydd.'

Cofiwch hefyd, Hwnw a adwaenir gan yr Arglwydd.' Fe fu arnoch chwi helbulon mawrion yn ddiweddar, na wyddai Iluaws o'ch cyfeillion nemawr am danynt; eto er hyn fe'u hadwaenir hwy gan yr Arglwydd. Nid aeth awr na munud heibio yn holl gystudd eich anwyl briod, nas adwaenir hwy oll gan yr Arglwydd; ïe, nid aeth un loes iddo ef, nac un ochenaid i chwithau, heibio, heb sylw arnynt gan yr Arglwydd. Y mae efe yn eu hadwaen oll i'r manylrwydd mwyaf. Y mae dydd gofid yn ddydd a gwbl adwaenir ganddo ef, yr achos o hono, a'r dybenion sydd iddo, yn nghyd a'r ffrwyth a fydd arno; canys y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sydd wedi cynnefino âg ef. A dyma yr holl ffrwyth, sef tynu ymaith ei bechod.' Y mae efe yn eistedd fel purwr a glanhawr arian, Mal. iii. 3. Y mae efe yn bresennol yn holl gystuddiau ei bobl yn gwneuthur iachawdwriaeth iddynt. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifont trosot: pan rodiech trwy y tân ni'th losgir, ac ni ennyn fflam arnat.'

'Drachefn, mai nid dydd ac nid nos' oedd hi arnoch. Duw a wnaeth amser adfyd ac amser gwynfyd; y naill ar gyfer y llall, er mwyn na chai dyn ddim ar ei ol ef.' Dyma gyd-dymheru cywrain a gofalus iawn. Yn awr, fy chwaer brofedigaethus, ni a gawn ganu am drugaredd a barn. Nid dydd i gyd, ac nid nos i gyd; nid yr oen i gyd, nid dail surion i gyd; nid pren yw'r cwbl, ac nid dyfroedd Mara yw'r cwbl y ddau yn nghyd. Nid y demtasiwn yw y cwbl, ond diangfa hefyd. Nid y swmbwl yn y cnawd yn unig yw y cwbl, ond digon i ti fy ngras i hefyd. Nid claddu priod hoff a thad tirion yw y cwbl, ond ei gladdu gartref, a chael ymddiddan âg ef, a'i ymgeleddu. Nid ei weled yn marw oedd y cwbl, ond ei weled yn marw mewn heddwch. Nid dattod yr undeb rhyngddo ef a chwi oedd y cwbl, ond ei undeb â Christ yn dyfod i'r golwg yn eglurach nag erioed. Nid gwlaw, lifeiriant, a gwyntoedd yn unig, ond ar y graig yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi.' Nid diwedd y gwr hwnw a welwyd yn unig, ond diwedd y gwr hwnw yw tangnefedd.' Hi a aeth yn hwyr, o ran i haul ei fywyd naturiol fachludo, ond bu goleuni yn yr hwyr. Nid ymadael a wnaeth eich priod, ond myn'd yn mlaen. Trwsiwn ninau ein lampau, fel y gallom heb betrus fod yn barod i fyned i mewn gyda'r priodfab i'r briodas, cyn cau y drws.

Ond, meddwch chwithau, er hyn i gyd yr wyf fi heddyw yn weddw, a'm plant bach yn amddifaid! Gwir, chwaer, ond y mae genych hawl yn awr i addewidion dwyfol nad oedd dim a wnelych â hwy o'r blaen. A gaf fi genych chwi sylwi ar yr Ysgrythyrau canlynol, Exod. xxii. 22-24. Na chystuddiwch un weddw nac ymddifad. Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gwaeddi o honynt ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt. A'm digofaint a ennyn, a mi a'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.' Deut. x. 18, Yr hwn a farna yr ymddifad a'r weddw, ac y sydd yn hoffi y dyeithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.' Pen. xxiv. 19, 21, Pan ysgydwech dy olewydden, na loffa ar dy ol: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw. Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i'w chymeryd: bydded i'r dyeithr, i'r ymddifad, ac i'r weddw, fel y bendithio'r Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylaw.' Pen. xvii. 19, Melldigedig yw yr hwn a wyro farn y dyeithr, yr ymddifad, a'r weddw; a dyweded yr holl bobl, Amen.' Salm cxlvi. 9, Yr Arglwydd sydd yn cadw y dyeithriaid efe a gynnal yr ymddifad a'r weddw, ag a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.' Jer. xlix. 11, Gâd dy ymddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.' Salm lxviii. 5, Tad yr ymddifaid a barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd.'

Gwraig weddw borthodd Elias. Gwraig weddw a ddododd y ddwy hatling yn y drysorfa, ac a wnaeth gymaint o son am dani hyd y dydd hwn. Gwraig weddw oedd Anna y brophwydes, Luc ii. 37. Gwraig weddw a lwyddodd gyda y barnwr anghyfiawn. Ac mae Paul yn gorchymyn anrhydeddu y gweddwon, 1 Tim. v. 3. Anrhydedda y gwragedd gweddwon sy wir weddwon.

Darllenwch yn ofalus, a gweddiwch yn daer uwch ben y gweddwon hynod sydd yn yr Ysgrythyrau sanctaidd; meithrinwch yr un dymher, a chanlynwch eu hol: Naomi, Ruth, y weddw o Nain, gweddwon Joppa, oeddynt o'u nifer. Act. ix. 39, 41, 'A'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef, yn wylo, ac yn dangos y pethau a wnaethai Dorcas tra yr ydoedd hi gyda hwynt. Ac wedi galw y saint a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi ger bron yn fyw.'

Ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a wneir yn nod o grefydd bur a dihalogedig. Ymddiriedwch yn Nuw. Efe a all eich cadw, a chyflawni eich holl raid chwi; eich amddiffyn rhag eich holl elynion; dial pob cam, a gwneuthur dyddiau eich gweddwdod i fod yn helaeth mewn heddwch a chysur; darpar cyfeillion i chwi a'ch plant amddifaid. Os cewch ewyllys da Duw, chwi a feddiennwch olud dirfawr, anrhydedd anniflanedig, a dedwyddwch annrhaethol; yna y peidia eich galar, ïe, 'cystudd a galar a ffy ymaith.'

Mae fy anwyl gymhares yn dymuno ei chofio atoch yn garedig, ac yn cydymdeimlo yn ddwys â chwi yn eich colled.

Gras, trugaredd, a thangnefedd, a fyddo eich rhan chwi, a'ch plant bach hefyd, a rhan eich gwas yn yr efengyl,

EBENEZER RICHARD.

Y mae y llythyr canlynol yn cyfeirio at drefn cynnaliad, &c., Cyfarfod Deufisol perthynol i'r Ysgol Sabbothol.

AT MR. WILLIAM MORRIS, COED-Y-CYMMER.

Tregaron, Hyd. 12, 1830.

GYFAILL CAREDIG,
Eich llythyr, yr hwn a ddyddiwyd y 22ain o'r mis diweddaf, a ddaeth i law y boreu heddyw, ac wele i chwi ateb o'r fath ag ydyw o fewn corph yr un dydd. Mewn atebiad i eich hymofyniad am faterion i fod tan sylw yn eich Cyfarfodydd Deufisol, rhaid i mi ddywedyd, yn ngeiriau Pedr, Yr hyn sydd genyf, hyny yr wyf yn ei roddi i ti;' ac efallai nas bydd yn llwyr anfuddiol, ar ol y pethau a enwyd genych chwi, sylwi ar y pethau a ganlyn, sef, yn 1af. Ar briodol sain yr egwyddor Gymraeg, h. y. bod rhyw un athraw o bob ysgol i fyned trwy yr egwyddor yn ol y dull y byddir yn ei dysgu yn eu hysgol hwy, yna cewch weled pwy sydd gywir a phwy sydd anghywir, a chyfodi seiniad unffurf yn yr holl ysgolion. 2il. Am sillebu. 3ydd. Am ddarllen wrth y nodau a'r attaliadau, y pwyslais, a'r pethau priodol i ddarllen hyrwydd. 4ydd. Am ymadroddion cyffelybiaethol a throellawg yr Ysgrythyrau, megis trawsenwad, cyforddwyn, gormoddiaeth, gwawdiaith, trawsymddwyn, &c.; h. y. amcanu rhoddi i'ch gilydd ryw ychydig o insight, neu olwg i mewn, i'r troellau, ond nid myned i lawer o fanylrwydd na meithder chwaith, rhag ofn dadleuon anfuddiol. Ar ol gorphen y pethau uchod, cewch yn 5ed. Y gorchwyl mawr ag sydd wedi cymeryd i fynu y pum mlynedd diweddaf o ein hamser yn y sir hon, hyny ydyw, sylwi ar lyfrau yr Ysgrythyr Lan bob un o'r bron, gan ddechreu ar Genesis, sef, fod athrawon pob ysgol i sylwi (er siampl) ar Genesis, 1. Arwyddocad yr enw Genesis. 2. Pwy oedd yr awdwr. 3. Dros ba faint o amser o'r byd y mae yn hanesu. 4. Pa sawl pennod ac adnod mae yn gynnwys. 5. Cyffyrddiad byr a

chryno ar y pethau mwyaf hynod yn y llyfr. Bod araeth i ddyfod o bob ysgol yn cynnwys y penau uchod, a hono wedi ei hysgrifenu, eto ni chaniateir ei darllen, namyn ei hadrodd ar dafod leferydd gan ryw athraw hyawdl; ac, ar ol ei hadrodd, rhodded ei bapur i mewn i'r ysgrifenydd i'w gadw. Ni feddaf amser yn bresennol i ychwanegu: os mynwch gael rhyw eglurhad pellach ar rai o'r pethau uchod, anfonwch ataf.

Y mae agoriad eich haddoldy newydd yn gwbl allan o'm cyrhaedd, gan ei fod (heblaw lluaws o bethau eraill) yn disgyn ar ddyddiau Cyfarfod Misol ein sir ni, sef 27ain a'r 28ain.

Gyda serchus goffa at eich teulu a chwithau, y terfynaf, gan ddymuno i chwi esgusodi yr ysgrif anghelfydd hon a ysgrifenwyd currente calamo; a chredu fy mod yr eiddoch yn llafur yr efengyl,

EBENEZER RICHARD.

Yma y canlyn lythyr tra difyr a dderbyniodd Mr. Richard yn haf y flwyddyn 1832, oddiwrth y gweinidog enwog a pharchus hwnw, y diweddar barchedig Richard Lloyd, Beaumaris.

AT Y PARCH. EBENEZER RICHARD, TREGARON.

FY MRAWD PARCHEDIG,
Mewn taer annogaeth oddiwrth yr holl dadau a brodyr mewn Cyfarfod Misol, oedd ar gylch drefnol mewn lle a elwir Bethel, ddoe ac echdoe, sef y 14eg a'r 15ed o Mai, 1832, nodwyd i mi ysgrifenu atoch yn y modd mwyaf taer a oedd bosibl, ac mewn dull mor agerddol ac awchus ag a allwn, gan atolygu, dymuno, a deisyfu, gan gofio o honoch yn ddinag i ddyfod i'n Cymdeithasiad Flynyddol, a fydd yn Llanerchymedd wythnos ar ol Cymanfa y Bala.

Mae y Gair Da yn ein dysgu i gynnorthwyo asyn yr hwn a'n casâ, pan y gorweddo dan ei bwn. My dear Sir, mae yn swydd Mon lawer o asynod yn gorwedd dan eu pynau. O deuwch i'n cynnorthwyo. Mae y Gair Mawr hefyd yn dywedyd am i'r rhai a fwytasant ac a yfasant o frasder a gwin eu brodyr, am godi a'u cynnorthwyo hwynt; ond och, ni bu gan y Moniaid tlodion ond ychydig o frasder a gwin i'w Lefiaid erioed; eto deuwch, a chynnorthwywch ni. Diragrith ydym yn ein hannerchiad atoch, fel y gwnaeth gwŷr Gibeon anfon at Josua i Gilgal.—Na thyn dy law oddiwrth dy weision, tyred i fynu i'n cynnorthwyo ni; a Josua a aeth.' Gobeithio y bydd i Mrs. Richard, a holl gyfeillion y fro, pan y gofynir am danoch, ddywedyd, Efe a aeth i'r Gogledd i gynnorthwyo ei frodyr yno.' Nid oes ammheuaeth na ddywed yr Arglwydd wrthych fel y dywedodd wrth Josua, Cyfod a dos, a myfi a fyddaf gyda thi.' Pan ddaeth Amasiah, pennaeth y capteniaid, o Siglag at Dafydd idd ei gynnorthwyo, yna Dafydd a'i croesawodd ef, ac a'i gosododd ef yn ben ar yr holl fyddin. Wele yn awr, anwyl frawd, dewch, a ni a'ch croesawn chwi, ac a'ch gosodwn chwi yn ben ar yr holl fyddin yn Llanerchymedd am ddeg neu ddau, a'ch Meistr f'o gyda chwi.

Act. xv. 36. 'Dychwelwn, ac ymwelwn â'n brodyr.' 1. Yr ymwelwr, Mr. Richard. 2. Yr ymweledig, brodyr Mon, cyfranogion o'r un gras ac yntau, yr un berthynas â Duw, yr un cariad yn eu calonau: mae'n fraint i ni gael brawd i ymweled â ni, ac nid gelyn, &c. 3. Yr ymweliad, dychwelwn ac ymwelwn.' Fe ofyn Duw dâl am boen yr ymweliad: byddai yn well bod heb ymweliad na bod yr ymwelwr heb ei neges. 4. Cyfaddasrwydd amser yr ymweliad, wedi rhai dyddiau y dyddiau a dreulir o Dregaron i'r Bala, ac o'r Bala i'r Beaumaris, &c. 5. Manylrwydd yr ymweliad— i bob dinas: Bangor, Llanfair, Llandegfan, Llangoed, Llanddona, Pen-y-garnedd, &c. 6. Natur yr ymweliad—pregethu gair yr Arglwydd. Efe ydyw awdwr y Gair, efe ydyw testun y Gair, ac efe sydd yn ei lwyddo. Yn 7fed. Dyben yr ymweliad-i edrych pa fodd y maent hwy; 1. A ydynt yn aros yn y ffydd. 2. A oes dim cyfeiliornadau yn dyfod i mewn. 3. A oes dim ymraniadau yn eu plith. 4. A ydynt yn cynnyddu mewn gras. 5. Pa un ai cybyddlyd ai haelionus, &c. Edrychwch yn ddyfal ar bob llaw: mae yma waith mawr yn yr eglwysi ac yn y byd hefyd. Odeuwch a chynnorthwywch ni.

Rhoddwch fy ngwasanaeth at Mrs. Richard, a'r plant, a chwithau, yn nghyd ac yn ogyfuwch.

Danfonasom ddau o'r brodyr, T. O. a J. J., i Dalgarth. Yr oedd yn ofidus iawn genym nad oedd neb o Fon yn Aberystwyth. Er mwyn cariad, na roddwch eich cyhoeddiad wrth ddyfod o'r Bala, ond ar eich dychweliad o Fon.

Ydwyf eich ufudd a'ch annheilyngaf gyd-was,

RICHARD LLOYD,

Mai 16, 1832.
Beaumaris yn Mon."

Nodiadau

golygu
  1. Y rhai ni ddaethant byth i law.
  2. Y Parch. John Evans, New Inn, a'r Parch. Thomas Evans, Caerfyrddin.