Calfaria fryn! mae f'enaid prudd
← Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru | Calfaria fryn! mae f'enaid prudd gan John Philips (Tegeidion) |
Caed ffynnon o ddŵr ac o waed → |
386[1] Aros wrth y Groes.
886. 886.
1.CALFARIA fryn! mae f'enaid prudd
Yn teimlo'i rwymau'n mynd yn rhydd,
Wrth gofio'i chwerw loes:
Nid oes a'm lleinw'n berffaith lawn,
Ond cael mwynhau o felys iawn
Fendithion angau'r groes.
2.O! na chawn bellach dreulio f'oes
Mewn myfyr sanctaidd wrth y groes,
Ar ben Calfaria fryn.
Ym mhen rhyw oesoedd maith di-ri',
Fy nghân fydd angau Calfari,
A'r rhyfedd goncwest hyn.
John Philips (Tegeidion)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 386, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930