Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru
← Melys cofio y cyfamod | Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru gan Morgan Rhys |
Calfaria fryn! mae f'enaid prudd → |
385[1] Cariad at Grist.
88. 87. D.
1 RWY'N teimlo f'enaid 'n awr yn caru
Yr Oen ogwyddodd droso'i 'i ben;
Dywedodd Iesu mawr "Gorffennwyd "
Wrth dalu 'nyled ar y pren
'R wy'n caru hardd lythrennau enw
Yr Hwn fu farw yn fy lle:
'D oes gyfaill yn y byd 'r wyf ynddo,
A bery'n ffyddlon fel Efe.
Morgan Rhys
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 385, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930