Eisteddai fy nhaid fel arfer
Ar gyfer y tanllwyth mawn;
A'm tad ar y fainc yn ymyl
Yn plethu ei linyn rhawn:
Eu hoffter oedd trin yr enwair
A'r dryfer, fel pawb o'u tras;
A gwyddent am enw pob llyn a maen
O'r pandy i goed y plas.
A dyna fy nhaid yn cychwyn,
Fel ganwaith, i'w heini hynt.
Ar flaen ei gyfoedion cofiadwy,
Tan dalgoed y dyddiau gynt:
A chanddo caem aml ystori
Am gampau fu'n falchter bro;
A champ llyn yr onnen a'r eog mawr
A ddôi fel wrth reddf yn ei thro.
"Ni thwnnai y ser," ebe'r henwr,
Ac nid oedd mo eisiau 'r un ;
Na, dim ond y seren o gotwm
A wnaethem â'n llaw ein hun:
Ni theimlem y tir o tanom,
Wrth weu rhwng cysgodau'r gwydd,
Ysgafnder ieuenctid oedd yn ein gwaed,
A rhyfyg yr oesau rhydd."
'Cyneuwyd y ffagl yn union,
A gwelem y gemwas gwyn,
Cyn loywed â llafn o arian,
Yn llonydd yng nghrych y llyn: