Caniadau'r Allt/Gŵyl Ifan
← Camp Llyn yr Onnen | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Aeres y Wern → |
GŴYL IFAN.
Rhed y goferi
I'w dawns dan y deri,
A minnau a wn mai Gŵyl Ifan yw hi ;
Clywch y per sisial
Hyd raean o risial,
A siffrwd y llafrwyn ar eddi y lli.
Mae y coedlannau
Dan wyrddion lumanau
Am ddyfod o hirddydd Mehefin i'w oed;
Clywch y chwibanu,
A'r loddest o ganu,—
Ni chlybu Rhiannon well ceincio mewn coed.
Pery'r chwedleua
Ar faes y cynhaea,
Nes cyfyd y lleuad ar faenol a llwyn:
Rhowch im fy ngwyliau,
Mae'r chwa fel y diliau,
A glan pob afonig yn lan medd 'dod mwyn.