Ar y ffordd rosynnog honno
A gerddaswn hanner oes,
Ryw brynhawn ymhlith y blodau
Gwelwn drom a garw groes.
Mi a fynnwn fyned heibio,
Neu yn ôl, ond ger fy mron
Safodd gŵr ag wyneb disglair,
A dywedodd,—"Cyfod hon."
Ieuanc oeddwn fryd a chalon,
Ac ni welswn groes cyn hyn;
Mwy cynefin wyf â blodau,"
Meddwn wrth yr angel gwyn.
Ac ni wyddwn fwy am ofid
Nag am ddolur ambell ddraen;
Cofiais hynny, yna syllais
Ar y groes oedd 'nawr o'm blaen.
"Rhaid i ti fel pawb ei chodi,"
Ebe'r gwr yn ddeufwy mwyn;
"Da yw gwynfyd, gwell yw gofid,—
Câr dy groes, daw'n hawdd ei dwyn."
Chwerw im oedd taflu'r blodau
Hoffwn gymaint, gŵyr y Ne;
Chwerwach im oedd meddwl cario
Croes wywedig yn eu lle.
Ond pan oeddwn yn petruso,
Ebe'r gŵr â'r wyneb gwyn,—
"Cyfod di dy groes yn gyntaf,
Cei dy flodau wedi hyn."