Caniadau'r Allt/Syr Barrug

Eu Hiaith a Gadwant Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Croes a Blodau


V. CANIADAU HUD A LLEDRITH



—————————————

SYR BARRUG.

Pa swynwr fu o dŷ i dŷ
Ar ôl dechreunos neithiwr?
Ai un o dylwyth broydd hud,
A bryd mwy cain nag ungwr?
Ni welodd un mo'i ledrith lun,
Trwy'r dellt, yng ngoleu'r lloergan;
Ond caed pob ffenestr ar ei ôl
Fel dôl o redyn arian.

Pa lawrudd mwyn fu trwy y llwyn,
O'r machlud hyd y plygain?
Ai rhyw gonsurwr ar ei dro
A ddaeth o fro y dwyrain?
Ni thorrodd frig o brennau'r wig,
Na hun y dail na'r adar;
Ond ni bu dim mor dlws erioed
A choed y bore cynnar.

Pa ddewin gwyn fu wrth y llyn
Pan oedd y tonnau 'n cysgu,
A'r hesg yn synnu ar y sêr
Mewn llewyg pêr, o'r ddeutu?
Ni chlywyd sain y pensaer cain,
Na thinc ei forthwyl dyfal;
Ond troes y merddwr cyn y wawr
Fel llawr i blas o risial.

Nodiadau

golygu