Caniadau'r Allt/Gwron
← Gyda'r Wawr | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Heddwch → |
GWRON.
Mae'r gloch yn ei alw'r eiltro,
Ei alw i'w le wrth y llyw;
Ond dwylo ei briod a'i ddeulanc bach
Sy amdano 'n gadwyni byw.
Hoff ydyw o'i deulu bychan,
Cyn hoffed â neb, mi wn;
Ac ni bu mor anodd ganddo erioed
Eu gadael â'r dwthwn hwn.
Gŵyr fod ei long yn fregus,
A bod maglau tân yn y bae;
Gwelodd yr estyll, ddaeth ddoe i dir,
Ac arnynt ysgrifen gwae.
Gŵyr fod y môr yn heigio
O lefiathanod brad;
Ond eu beiddio raid, a'r rhyfel mor hir,
A bwyd mor brin yn y wlad.
Mae'r gloch yn ei alw eto,
A'r alwad ddiwaethaf yw:
Cusana ei briod a'i ddeulanc bach,
A chymer ei le wrth y llyw.
1917.