Caniadau'r Allt/Gyda'r Wawr

Nadolig 1916 Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gwron


GYDA'R WAWR.

Gorweddai ger ein llwybr,
Yng ngwawr y bore llwyd;
A llanc o wladwr ydoedd,
O rywle'n Nyffryn Clwyd.

A gwelem yn ei ymyl
Ei gymrawd yn y gad,
Fagesid megis yntau
Ar dyddyn pell ei dad.

Ac er mai ffoi yr oeddem
Am nawdd y gwersyll draw,
Safasom yno ennyd,
A'n helmau yn ein llaw.

Ac yna mynd, a'u gadael
Heb orchudd a heb arch;
A'r llanc a'i ddwylo'n gwlwm
Am fwa gwddf ei farch.

Nodiadau

golygu