Caniadau'r Allt/Hen Fwynderau
← Ymson Mam | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Dafydd ap Gwilym i Forfudd → |
HEN FWYNDERAU.
O, y dyddiau gwisgi gynt
Pan o'em blant ymhlith y blodau
A'n chwerthiniad yn y gwynt;
O, y dyddiau gwisgi gynt
Pan gynhullem gae'r ystodau:
Nid oes ond ein serch fel cynt—
Beth i serch yw yd a blodau?
O, y nosau melys, mwyn,
Pan fynychem erw'r tonnau,
A phan aem tan fwa'r llwyn;
O, y nosau melys, mwyn!
Os darfuant, mae eu swyn
Fyth yn oedi'n ein calonnau—
Mêl y cyfamodau mwyn,
Draw yn erw'r llwyn a'r tonnau.