Caniadau'r Allt/Ymson Mam
← Yr Hufen Melyn | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Hen Fwynderau → |
YMSON MAM.
O na chawn ei ben bach cynnes
Eto i nythu yn fy mynwes,
O na chlywn ei isel chwerthin yn ei grud:
Cym'rai pawb ef yn eu dwylo,
Gan ei fwytho a'i anwylo,
Ond ei fam oedd biau'i galon fach i gyd.
Am chwe blynedd melys, melys,
Sipiwn fêl o rôs ei wefus—
Cân a chusan bob yn ail oedd bywyd im :
Dyma'i gap, a'i bais fach resog,
A dwy bleth o'i wallt modrwyog
Sydd yn cadw fel yr aur heb ddylu dim.
Ugain fydd ei oed eleni,
A phan ddelo dydd ei eni,
Daw o'r dref i'r hen hen aelwyd yn y wlad :
Aiff â mi am dro yn dirion,
Hyd y ddôl, a thros yr afon,
Gyda'i fraich yn dyn am danaf fel ei dad.
Gwn ei fod yn dal a hoyw,
A'i Gymraeg yn bur a chroyw,
Ond maddeued onid wyf mor wyn fy myd:
O, na chawn ei ben bach cynnes
Eto i nythu yn fy mynwes,
O na chlywn ei isel chwerthin yn ei grud.