Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Alice
← Llinellau priodasol Griffith Owen a Maggie Evans | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Yr Aderyn Bach → |
ALICE.
ALICE anwyl a swyna—fy enaid;
Yn fynych fe 'i mola;
Ior doeth drwy gymeriad da
Uwch adwyth a'i gwarchoda.
Deuddeg oed! Ha, diddig awr—yw heddyw
Heb gystuddiol dymawr;
Drwy ei hoes caed yn drysawr
O ras mwyn yr Iesu mawr.
Eiddunaf am ddaioni—i Alice,
Heb helynt na chroesni;
Rhag cwyn a blinder cyni
Arbed Ior ei bywyd hi!
Drwy fy enaid erfyniaf—i rinwedd
Ei chlaerwynu'n dlysaf:
Iddi yn nerth, caed nawdd Nâf—yn helaeth,
A diwedd alaeth a fo 'i dydd olaf!