Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Yr Aderyn Bach
← Alice | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Yr Ysgrif-bin → |
YR ADERYN BACH.
I aderyn bychan tlws,—
Cenaist ganwaith wrth fy nrws;
Dywed im, y cerddor bychan
Pwy a wnaeth dy gywrain organ?
Canu'r ydwyt ti erioed,
Fel dy deulu yn y coed;
Ti ganiedydd bychan melus,
Pwy dy ddysgodd di mor fedrus?
Ganwaith yn y goedwig werdd,
Fe wrandewais ar dy gerdd;
Er a geni arni beunydd,
Mae dy gân bob tro yn newydd.
Lleddfaist lawer calon friw,
A dy alaw uchel—ryw;
Myrdd ddiddenaist mewn gofidion—
Dyma un o'th negeseuon.
Fel aderyn ar y pren—
Os bydd awyr las uwchben
Ceisiwn ninau weithiau ganu,
Ond daw discord cyn diweddu,
Fywiog hoew gerddor pur,
A oes yn dy galon gur?
Wyddost ti am ryw ofidiau
All effeithio ar dy nodau?
Mewn edmygedd lawer gwaith
Syllais ar dy siaced fraith;
Dywed i'm y tlws caruaidd
Pwy a wnaeth dy edyn euraidd?
Pell uwchlaw ein daear ni
Ymbleseru gwelais di;
A oes i ti ryw gyfrinion
A gororau gwlad angylion?
Pe'n aderyn awn a chân
Fry i fro'r angylion glân;
Canu wnawn trwy'r eangderau,
Uwch y ddaear a'i blinderau.
Fry yn uwch ar aden gref,
Esgyn wnawn trwy byrth y nef;
Yno canwn uwch gofidiau
Byth yn ngwlad yr aur—delynau..
Fel aderyn bach o hyd,
Ceisiwn esgyn uwch y byd,
Er mwynhau a chael cymundeb
A sylweddau tragwyddoldeb.