Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Cydymdeimlad a "Carneddog" ar farwolaeth ei Fam
← Englynion ar briodas William Owen a Sarah Roberts | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Tuchangerdd—"Y Teithiwr wrth raid" → |
CYDYMDEIMLAD
a "Carneddog" ar farwolaeth ei Fam.
ANWYL gyfaill, ai'n y dyfnder
Y myn angau i chwi fod?
Ai wrth gwympo'r rhai hawddgaraf
Y derbynia hwn ei glod?
Pam'r anela hwn ei fwa,
A'i wenwynig farwol gledd?—
Eich anwylaf berthynasau
Deifl o un i un i'r bedd.
Rhaid fod teulu mwyn Carneddi
Mewn rhyw ffafr yn ngwlad yr hedd;
Rhaid mai llywodraethwyr ydynt
Yn y byd tu draw i'r bedd:
Gwel'd cyfyngdra gwlad y ddaear
Rhaid eu bod, fy nghyfaill cun,
Pan y galwant chwi fel teulu
Oddiyma o un i un.
Felly credaf nad yw angau
Ddim yn elyn i chwi, frawd,
Ond yn hytrach cymwynaswr—
Estyn teyrnas i un tlawd;
Ond yr ydym mor anianol—
Anhawdd ysbrydoli hyn;
Anhawdd sylweddoli pethau
Pan yn isel yn y glyn.
Gwir fod gofid, gwir fod galar,
Yn beth hysbys iawn i chwi;
Gwyddoch am Ddiddanydd hefyd,
Yn y bwlch all wrando 'ch cri;
Gwyddoch chwi fod "Tad 'r amddifaid"
Eto'n fyw; ac yn ei law
Llechu byddoch nes gwneir chwithau
'N dywysog yn y deyrnas draw.