Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Englynion ar briodas William Owen a Sarah Roberts
← Cywydd "Y Cwmwl" | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Cydymdeimlad a "Carneddog" ar farwolaeth ei Fam → |
ENGLYNION
Ar briodas Mr. William Owen, 5, New Market Square, a
Miss Sarah Roberts, Isallt.
WEDI siarad a Sarah—fe welaf
William yn y ddalfa;
Ymgeledd ga'dd mi goelia',—
Drwy hiroes eu hoes fo'n ha'.
Oes ddi-loes, ddi-groes, ddi-graith—ddigymar
Oes ddi-gwmwl berffaith;
Oes o hedd hyd fedd, oes faith—
Yn felus bo'u nef eilwaith.
Oes euraidd fo i Sarah—a William,
Oes heulog drwy'u gyrfa;
Leiciwn ddweyd fy "lwc yn dda,"
A'u Hîon doeth a'u bendithia.