Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Dinas ar Dân
← Teulu'r Glep | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Corwynt → |
DINAS AR DAN.
(Buddugol.)
(Darn i'w Adrodd.)
OCH! gynhwrf! clywch dwrf cloch dân—yn galw
Y trigolion syfrdan;
O'u tai oll troant allan
I ferw mwy—fawr a mân.
Dirfawr dwrf—mae'r dref ar dân—i'w dymchwel
Caf loew ufel am wneyd cyflafan.
Trwy'r gwyll yn deryll ymdora—y fflam,
A pha le ceir noddfa?
Yn anrhaith i'r oddaith â
Mawr gampwaith—a'r mur gwympa!
O'r tân mawr—blyngfawr yw bloedd—a gwelw
Yw golwg minteioedd;
Galar a rodia'r ystrydoedd—ddyn, gwel
Hwnt wreichion ufel hyd entrych nefoedd.
Erch ymwau wna torchau mŵg,
Ac wele'r tân a'i gilwg
Yn treiddio fel mellt trwyddynt
A'i frwd gref ddifrodgar hynt.
Yn llwyr oddaeth, llawer haddef—welwn,
Anwyliaid heb gartref;
DDUW IOR, at ei orsedd Ef,
Heddyw dêl gwaedd a dolef!
Llu o dai gwych yn lludw gaf,
Ac fe wyla cyfalaf.
Ysir, dinystrir pob nwydd,
Dodrefn a phob diwydrwydd.
A cholled fawr, fawr a fydd
Dan astrus law'r dinystrydd!
Ha! meibion dewrion fel dur
Ddodant y diffoddiadur,
Awr ing i dori angerdd
Y tân llym yn gyflym gerdd
Taflant a lluchiant drwy'r lle
Ddylif o ddyfroedd, wele
Arafa rhwysg yr ufel,
O radd i radd yn llai'r êl.
Er ysu eu preswyl—rhoi mawl i'w Rhi
Y mae rhieni am eu rhai anwyl.
Eiliwn glod gan foli'n glau
Duw arbedwr bywydau.