Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Corwynt
← Dinas ar Dân | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Y Gwlithyn → |
Y CORWYNT.
(Geiriau Canig).
GWGU mae amrantau'r nefoedd,
Anian yn hylldremu sydd,
Gwisga'r nos ei thywell fantell—
Araf gilia teyrn y dydd;
Swn ystorom sydd yn rhuo
Yn y dyffryn dwfn is—law,
Ac mae'r gwyntoedd yn ymgodi
A'r cymylau'n llawn o wlaw.
Mae y corwynt mewn awdurdod—
Mor ofnadwy yw ei rym!
Mae yn gwatwar pob cadernid
Gyda 'i nerthol edyn llym;
Fel arwrol gawr herfeiddiol
Gwisg ddialedd ar ei wedd,
Rhycha wyneb llyfn yr afon,
Cwympa'r goedwig gyda'i gledd!
Y mae'r eigion mewn cynddaredd,
Chwery angeu yn mhob ton;
Heria'r corwynt bob celfyddyd,
Cerfia arswyd ar bob bron;
Y mae'r dyfnder yn ymagor
O flaen nerth y corwynt cryf,
A gwrthddrychau fyrdd arswydant
Pan darana'i ddinystr hyf.
Dacw belydr o oleuni
Draw yn nghol y t'w'llwch mawr,
Ffoi mae'r 'storm o flaen yr heulwen
Anian a groesawa'r wawr;
Chwifia'r goedwig ei banerau,
Aeth ei galar oll yn gân;
Sûa'r awel dyner eilwaith,
Siriol wena'r blodau mân,