Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Duw yn Noddfa

Yr Anudonwr Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Y Dawelnos

DUW YN NODDFA.

DERFYDD holl rwysg daearfyd,—di-aros
Yn mwynderau bywyd;
Brau yw'n hoes, ber iawn ei hyd,
Gwyro mae pawb i'r gweryd.

Ond Duw erys yn darian—i'r duwiol
Drwy 'i dywydd yn mhobman;
O! loches gynes fe gân
Uwch drygfyd mewn iach drigfan.

Doed dylif, dued heuliau,—o'i gyraedd
Gwasgared planedau,
Noddfa glyd mewn haddef glâu—yn yr Ion
Rhag gelynion ga'r pur eu calonau.


Nodiadau

golygu