Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Yr Anudonwr

Cerddoriaeth Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Duw yn Noddfa

YR ANUDONWR.

DUW yn dyst, dyna 'i destyn—oganwr
Gyda genau di-gryn,
O flaen ei Dduw—aflan ddyn—
Ei wadu a wna wed'yn.

Un â genau drygionus,—llunia dwyll
Llawn o dawch afiachus;
Ond ei iaith nid yw ond ûs—
Celwyddog, cywilyddus.

Ei weflau ffiaidd, aflan—gair Duw Ion
Geir danynt yn gruddfan;
Genau twyll yn cyneu tân
Yn ei enaid ei hunan.


Nodiadau

golygu