Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Dymuniad am yr Ysbryd Glan
← Y Ddeilen (2) | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Tysteb Mr Hughes, Postfeistr → |
EMYN
(Dymuniad am yr Ysbryd Glan,)
YN yr anial blin, sychedig,
Mae fy ysbryd yn llesgau,
Nid oes ond y gwin puredig
Wnai f'enaid lawenhau,
O! am ddafnau
I ireiddio'nghalon wyw.
Mae pleserau'r byd yn denu
Fy myfyrdod bob yr awr;
Ceisio 'th garu eto'n methu,
Rho dy Ysbryd Arglwydd mawr;
Os caf hyny
Boddlawn fyddaf yn y byd.
Dyro'r dafnau byw grisialaidd
Sydd yn moroedd gras yn llawn;
Mae dy ysbryd dwyfol, sanctaidd
Yn gyfoethog o bob dawn,
Lân Ddiddanydd,
Cymer f'enaid yn dy law.