Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Y Ddeilen (2)
← Y Dawelnos | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Dymuniad am yr Ysbryd Glan → |
Y DDEILEN.
Ddeilen yn arwydd a welaf—o
Fywyd wedi gauaf;
Ei gwerdd olwg arddelaf
Flaenredydd i hirddydd haf.
Lifrai'r pren a'i ganghenau,—bywiol led
Mhlith blodion a ffrwythau;
Ac yn eu mysg yn ymwau
Ni gawn hudol ganiadau.
Eiddil yw hon—arwyddlunia—fer oes
Farwol bywyd yma;
Fe gwymp i'r bedd ddiwedd ha'
Y Ddeilen lwydwedd ola'.