Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Englyn ar Gerdyn Coffadwriaethol fy Nhad

Tysteb Mr Hughes, Postfeistr Caniadau Barlwydon Llyfr 1

gan Robert John Davies (Barlwydon)

Pen Blwydd Arthur Madog

LLINELLAU CYFARCHIADOL
Ar Gyflwyniad Tysteb o 100p. i Mr. Hughes,
Postfeistr, Blaenau Ffestiniog.

HAWDD yw anrhydeddu arwr,
Hawdd yw anrhydeddu dyn,
Hawdd gan awen wel'd boneddwr,
A myn weithiau dynu'i lun,
Felly heddyw
Hi ga'dd gymhorth gan yr haul.

Tyr'd fy awen i'r Llythyrdy,
Yno cyfarfyddir dyn;
Mangre lle bu'n ymddadblygu
Yno mae'n ei le ei hun,
Ti gei yno
Ddarlun perffaith iawn o'r dyn.

A pha bryd y gwelodd awen
Ei anrhydeddusach ef?
Siriol, heini, bywiog, llawen,
Llenor o athrylith gref,
Dyma'r arwr
Anrhydeddwn ni yn awr.

Gwr gyd-dyfodd gyda'i ardal
Gwr a garodd les ei blwy',
Os bydd bywyd—pwy a'i hatal?—
Rhaid i fywyd fyn'd yn fwy,
Fel y dderwen,
Yntau ymddadblygu wnaeth.


Edrych yn ei lygaid hawddgar,
Caredigrwydd yno sydd;
Ac mae'i galon gymwynasgar,
Fel yr haul ar ganol dydd,
Yn ymarllwys
Geiriau tyner wrth bob un.

Gwasanaethodd blwyf Ffestiniog
Ac fe'i dygodd hyd yn hyn;
O ddinodedd llwyd anghenog
Megis dinas i ben bryn,"
Fel mae bellach
Drwy y byd yn hysbys iawn.

Dyma lenor craff, meddylgar,
Mae'i leferydd ar ein clyw
Megis nodau clychau seingar—
Ac mae'n meddu awen fyw,
Lle athrylith
Ydyw brig y pren o hyd.

Mae'n ddiddanwch i'w gyfeillion,
Mae'n hapusrwydd i bob bron,
Weled un a gar ein calon
Heno'n cael yr anrheg hon,
Mwy pleserus
Fuasai cael bod yn ei le.


Nodiadau

golygu