Caniadau Barlwydon Llyfr 1/Pen Blwydd Arthur Madog
← Englyn ar Gerdyn Coffadwriaethol fy Nhad | Caniadau Barlwydon Llyfr 1 gan Robert John Davies (Barlwydon) |
Fall fawr Chwarel y Welsh Slate, Ffestiniog → |
PEN BLWYDD "ARTHUR MADOG,"[1]
(Mebyn Dr. Jones, Bl. Ffestiniog.)
EGINYN tlws ei gynydd,—heddyw'n flwydd
Ddaw'n ei flaen yn 'splenydd;
Arwydda hyn daw ryw ddydd
Yn deilwng o ardalydd.
Barn gwlad am Arthur Madog—yw y dêl
Fel ei dad yn enwog:
Caed oes faith a thaith o hedd,
A rhinwedd yn goronog.
Nodiadau
golygu- ↑ Dr Arthur Madock Jones 1889-1961. Bu'n uwchgapten yn yr RAMC (adran feddygol y fyddin) yn y ddau ryfel byd ac yn feddyg teulu yn Llandudno. [Erthygl coffa North Wales Weekly News, Mehefin 1961]