Caniadau Buddug/Ann Griffiths
← I chwaer yn ei chystudd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Gwawr (dyfyniad) → |
ANN GRIFFITHS.
AETH heibio i deganau'r llawr,
Aeth hwnt i ser y nen,
Uwchlaw i'r cymyl, at y wawr
Cartrefa draw i'r llen:
Cyffyrddodd yn y goleu claer
Sydd ar yr orsedd lân
Nes dwyn y Gair yn sylwedd byw,
Tragwyddol yn ei chân.
Nid oedd ond Gethsemane Ardd,
R'odd iddi Faban Mair;
Ei Nardus a'r Phomgranad teg,
A dyfodd yn y Gair.
Ni feddai anian iddi hi
'Run swyn, na bri o'r bron,
Cydgasglodd holl ogoniant byd
I Rosyn Saron hon.