Caniadau Buddug/Gwawr (dyfyniad)

Ann Griffiths Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Aralleiriad (The Daffodils)

"GWAWR."

(Dyfyniad o Riangerdd)

CYNT na'r eryr ar yr awel,
Cynt na'r wiwer yn y coed,
Cynt na chyflym droed y camel,
Y daeth Gwawr yn ddeunaw oed.
Llithrodd dyddiau maboed heibio,
Megis afon tua'r môr,
Ac efelly yn ymsuddo
I'r anneirif ryfedd stor.

Ond nid felly yr ymgollodd
Caredigrwydd calon Gwawr,
Ei rhinweddau a ymgododd
Fel y gwreichion uwch y llawr.
Nid fel gwrechion yn diffoddi,
Ond fel hynny'n fwy o dân,
Gan gynhesu wrth ymroddi
I was'naethu mawr a mân.

Buan iawn yr aeth ei henw,
Yn ddiareb yn y fro,
Pawb wrth gofio'r enw hwnnw,
Gofiai ryw garedig dro.
'Roedd ei hynod ddiniweidrwydd
Yn ei gwneyd yn ysgafn fron,
'Roedd ei phryd yn llawn serchawgrwydd
Nefoedd yn ei gwyneb llon.

Pan fa'i rhywun mewn cyfyngder
Gwawr oedd gyntaf yn y fan;
Truan tlawd mewn rhyw iselder,
Gwawr a helpai tua'r lan.

Gair oedd ganddi i'r oedranus,
Gwen i'r ieuanc, lawn o swyn,
Olew cysur i'r galarus
Ydoedd gwedd ei gwyneb mwyn.

'Roedd prydferthwch ei gweithredoedd
Yn ei gwneyd i bawb yn hardd,
Nid teleidion natur ydoedd
Yn ei gwneyd fel blodyn gardd;
Er ei bod yn dlws efelly,
Gydag aeliau duon main,
A dau lygad yn pelydru
Byd o degwch drwy y rhain.

Mae y fath wahaniaeth dirfawr,
Yn ein barn ar bwnc y tlws,
Un edmyga rosyn rhwysgfawr,
Llall y briall ger ei ddrws.
Un am lygad fel y saphir,
Arall am y duaf un,
Un am wallt fel aur i'w feinir,
Ail am wineu idd ei fun.

Pawb a gydolygai'n hapus,
Pawb a ddelai i'r un farn;
Ond eithriadau tra dirmygus,
Sydd ry wael i fod yn sarn;
Pawb ond hynny ganai'r cydgan,
Gan ymuno fach a mawr,
Yn y geiriau syml diddan,
Gwyn ei fyd a gaffo Gwawr.