Caniadau Buddug/Ar dderbyniad pwysi o lilac

Ar dderbyniad Beibl Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Nodyn cynta'r tymor

AR DDERBYNIAD PWYSI O LILAC.

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon,"
Am bwysi o flodau mor hardd;
A draethant mewn ffraethder mor wiwlon,
Iaith enaid, iaith calon, iaith gardd;
O'r ffasiwn nid ant yn oes oesoedd,
Hen flodau adwaenai fy nain,
Maent heddyw mor newydd a'r nefoedd ;
Mor ddenol, mor gywir, mor gain.

Ni welir anwylach na'r lilac,
O'r Ddyfrdwy hyd Fenai ddi fai;
Ni wenodd erioed ei ragorach,
Er teced holl flodau mis Mai;
Pan ydoedd cariadau Paradwys
Yn rhodio dan gangau y coed,
Diameu fod hwn yn ymarllwys
Persawredd tro cyntaf erioed.

Mae'n debyg mai gwyn oedd pryd hynny,
Cyn dyddiau yr enfys a'r gwlaw;
Cyn pechod liw porphor i ddenu,
A llenwi Gardd Eden å braw;
Na hidiwn os cafodd y lilac
Baradwys heb 'sgarlad yn bod,
Cawn ninnau un arall berffeithiach,
Cyn laned a gwynned a'r ôd.