Caniadau Buddug/Ar dderbyniad Beibl
← Blodyn Eira | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Ar dderbyniad pwysi o lilac → |
AR DDERBYNIAD BEIBL.
BOED ei Awdwr yn arweinydd,
Trwy'r anialwch dyrus blin;
Ei gynwysiad baro imi,
Fynych, fynych blygu glin;
A phan ddelo awr ymfudo,
Boed ei addewidion per
Yn adenydd im ehedeg
At f' Anwylyd uwch y ser.