Caniadau Buddug/Blodyn Eira

Ffarwel aeaf blin Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Ar dderbyniad Beibl

BLODYN YR EIRA.

BLODYn gwyn yr eira glân,
Ydwyt destyn cu i'm cân:
Mae dy hedd yn ymdywynnu,
Mae dy wyneb fel goleuni;
Heb frycheuyn du na chrychni,
Arian wedd yr eira mân.

Gwyn a glân wyt, flodyn cain,
Gwynnach nac un llian main :
Megis alaw yr aderyn
Cyntaf glywir yn y gwanwyn,
Ydwyt tithau, deg flodeuyn,
Swyn rhyfeddol sydd i'r rhain.

Blodyn glân yr eira gwyn,
Testyn cân o bridd y glyn;
Rhwymau tynion rhew ac eira,
Anian ynnot ymagora'n
F'ywyd newydd wedi hyn.