Caniadau Buddug/Can y Jiwbili (1887)
← Tyred i Gymru | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Beth yw cariad? → |
CAN Y JIWBILI, 1887.
AR Ben urddasol Prydain Fawr,
Y torrodd hyfryd jiwbil wawr:
Cydganed pawb yn ddiwahan
Ei chlod mewn gorfoleddus gân,
Victoria fawr ei bri.
Cydganwn i'w rhagorion mad,
Ei henw da sy'n llanw'r wlad :
Croesawn yr egwyl euraidd hon,
A dyrchwn fawl fel tonn ar donn,
Victoria fawr ei bri.
Ei charedigrwydd hael y sydd,
Fel gemog wlith ar doriad dydd;
A chura dan ei choron ddrud,
V galon oreu yn y byd:
Victoria fawr ei bri.
Caiff goron arall cyn bo hir,
O berlau anfarwoldeb clir;
Sef coron gras, o gariad byw,
Am wasanaethu dyn a Duw,
Victoria fawr ei bri.