Caniadau Buddug/Tyred i Gymru
← Blodau ac adar | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Can y Jiwbili (1887) → |
TYRED I GYMRU.
TYRED i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Gwlad caredigrwydd a chartref y gân;
Tyred yn ebrwydd, rho ffarwel i'r estron,
Hiraeth am danat orfuodd yn lân;
Croesaw a chariad â breichiau agored,
Sy'n disgwyl dy dderbyn yn gynnes i'w côl,
O! fel y dychlamai fy nghalon wrth weled,
Fod gobaith cael derbyn fy ngwron yn ol.
Tyrd adref i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Gwlad caredigrwydd a chartref y gân;
Tyred yn ebrwydd, rho ffarwel i'r estron,
Hiraeth am danat orfuodd yn lân.
Tyred i Gymru, anwylyd fy nghalon,
Cei groesaw mor gywir a man wlith y nos;
Tyred i Gymru, cei gusan dy Wenfron,
Mor wresog a chusan yr heulwen i'r rhos;
Canmil rhagorach yw symledd y bryniau,
Ddyrchafant eu pennau gan gyfarch y nen;
Na chelfyddydau yr estron a'i foethau,
Mae gwenau y nefoedd ar Gymru wen.
Tyrd adref i Gymru, &c., &c.