Caniadau Buddug/Cariad gwraig y meddwyn
← Y bedd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Iesu Grist → |
CARIAD GWRAIG Y MEDDWYN
I BETH y cyffelybaf fi
Y cariad rhyfedd sydd gan hon?
Athroniaeth ddofn a'm hetyb i,
Nis gellir byth ddim plymio'i bron;
Ceir myrdd rhesymau a phaham
Y câr y fam ei baban bach.
Rhinweddau fil ddyrchefir am
Ragorion yr un heinyf iach.
Ond, wele'r pentwr, aflan, hyll,
Yw'r adyn meddw yn y llaid,
Da ydyw iddo gael y gwyll
I guddio ei druenus raid.
A heibio yr offeiriad gwych
A'r Lefiad yntau yr un modd,
Gadawant ef i warth yn ddrych,
A'i garedigion gynt a ffodd.
Ond ha! dynesa un drwy'r oll,
Er siglo megis llong yr aig,
Dwys chwilia am ryw un sy'n ngholl,
Pwy ydyw? Ond ei anwyl wraig!
Nid yw yn edliw cwpwrdd gwag,
Na chefnau llwm eu hanwyl blant,
Na'r aberth rydd i'r ddiod frag,
Ar allor wael ei wancus chwant.
Ei serch sydd fel colomen hardd,
Yn hedeg uwch y stormydd blin,
A thra o'i galon bywyd dardd
Bydd deilen gobaith rhwng ei min;
Er curo ar greigiau siomiant erch,
Daw fel y donn drachefn yn ol,
A chyda'r gallu sydd gan ferch,
Anghofia ei holl droion ffol.
Pa ddiolch sydd i'n cariad ni
Ymserchu ar wrthrychau teg?
Anhawsder fyddai atal lli
Atynnol sydd mor hynod chweg;
Ond, gwraig y meddwyn gâr mor hael,
Fel mai'r tebyca'n ddiau yw
I'r cariad at greadur gwael
Y sydd ym mynwes fawr fy Nuw.