Caniadau Buddug/Iesu Grist
← Cariad gwraig y meddwyn | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Heddyw ac yfory → |
IESU GRIST
(Emyn)
Ti Iesu yw fy noddfa glyd,
Rhag pob rhyw storom gref;
Ac ynnot ti yn unig mae
Fy ngobaith am y nef;
Mae bywyd a thragwyddol hedd
Yn enw Mab y Dyn,
Nid oes a leinw f'enaid i
Ond Iesu Grist ei hun.