Caniadau Buddug/Heddyw ac yfory

Iesu Grist Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Alice ar ben ei blwydd

HEDDYW AC YFORY

(Cyflwynedig i Gyfaill)

GALAR ac wylo, llawenydd a chân
Yw'r bywyd cymysglyd ymhlith mawr a mân,
Tymorau gwahanol, yw'n hoes ar ei hyd,
Neu heulwen a dryghin yw'r cyfan i gyd.

Y llyfnfor sydd heddyw yn dawel ei wedd,
Ei olwg yn wylaidd, a'i wyneb yn hedd;
Ond och! bydd y fory o donn wen i donn,
A'i olwg ffyrnigwyllt yn arswyd i'm bron.

Y dolydd ysblennydd sydd heddyw'n ddi—ail,
Ond fory'n ddisymwth bydd cwympiad y dail
Gan adael y goedwig yn oer ac yn llwm,
A cherfio dwys drymder ar bob dol a chwm.

Rhosynau sydd heddyw yn britho yr ardd,
Yn sawyr eu harogl y galon a chwardd;
Ond fory ceir gweled y lili a'r rhos
Yn dyrrau crinedig yn nyfnder y ffos.

Y dwylaw chwareuodd y delyn hoff swyn,
Y gwyneb a wenodd mor hynod o fwyn;
A ddaliwyd gan ddrannoeth, ac angau du erch
A wywodd y bysedd, a rewodd y serch.

Y ceraint sy'n wylo a'u calon fel plwm,
Eu gofid sy'n chwerw, eu hiraeth yn drwm,
Ond cariad sy'n nerthol, a'r ffydd sydd yn wan,
Aroswch tan 'fory cewch weled eich Ann.