Caniadau Buddug/Margaret
← Y deigryn (2) | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Hafod Lon → |
MARGARET
GWYDDOST ystyr tlws dy enw,
Pur yw hynny, onide?
Cadw'n fyw yr ystyr hwnnw,
Rho i burdeb gael ei le;
Pur dy foes, a'th lwybrau cyson,
Pur dy ymarweddiad syw:
Gwyddost yr addewid ffyddlon,—
"Pur o galon "—"gweled Duw."