Caniadau Buddug/Y deigryn (2)
← Trydydd ar ddeg o Dachwedd | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Margaret → |
Y Deigryn
(Buddugol)
HA! dyna fe, yr hylif prydferth drud,
Mor fychan yw ! ac O! mor hynod fawr !
Pwy sydd all ddirnad ei hyawdledd mud,
Mor anorchfygol yw a thoriad gwawr !
Ymguddia yng nghil llygad baban bach,
Rhy wan y rhaiadr i'w gymharu ag ef!
Pwy sydd all ddweyd ei ryfedd, ryfedd âch,
Ei nerth symuda Dduwdod yn y nef!
Gabriel, tydi archangel Gwynfa lân,
Rwyt ti yn byw yn ymyl gorsedd Duw,
A wyddost ti am destyn tlws fy nghân?
Y Deigryn, ie, deigryn, dyna yw,
'Rwyt ti'n cael mwydo'th esgyll gwynion mawr
Ynghanol y gogoniant perffaith wyn:
Cei gennad weithiau i roi tro i'r llawr,
Difera, i leithio y penhillion hyn!
Dychmygaf glywed Gabriel yn dweyd im,—
"Nid ydwyf fi yn gwybod fawr am hwn,
Nis gallaf ddwedyd pa beth yw na dim,
Nid oes un deigryn yn y nef a wn:
Ond mae rhyw drydan rhyfedd ynddo'n wir,
Pan fyddo un o blant fy Nuw ar lawr,
A'i edi feirwch yn ei ddeigryn clir,
Mae'n gallu'r ffordd i'r nef mewn munud
awr."
Mae byd o ofid yn y deigryn prudd—
Mae môr o deimlad yn ei gynnwys drud—
Mae cenllif gorwyllt cariad ynddo 'nghudd,
Llawenydd lifa dros ei geulan glyd;
Belydryn teg, mor gywir yw ei wedd,
Nis gall un rhagrith drigo ynddo fe,
Elfennau dyrys, hanfod twyll, ni fedd,
Ond gem o burdeb yw o dan y ne.
Mae'i rym yn fwy angerddol na grym tân;
Y garreg oer a dry y tân yn llwfr:
Ond dyma rin ynghylch y deigryn glân,
Wna galon adamant fel llyn o ddwfr !
Mae hinsawdd hwn yn falmaidd ac yn chweg,
Fel chwa Mehefin ar y werddlas ddol,
Ni rewa teimlad byth mewn tywydd teg,
Y gwres a dry yr oerni yn ei ol.
Mae fel amrywiol olygfeydd diball
Yn gweithio allan o'r teimladau cudd,
Does neb ond Hollwybodol byth a all
Ddadlennu y cyfrinion ynddo sydd:
Edrycher arno yn disgleirio'n hardd;
Ar ruddiau pur Emanuel ei hun;
Portread bywiol yw gan Ddwyfol Fardd,
I ddangos calon fawr y Duw i ddyn.