Caniadau Buddug/Noddfa a nerth

Brwydr Dirwest â Bacchus Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Yr amddifad

NODDFA A NERTH

NODDFA a nerth sydd yn ein Duw,
Mae'r frwydr yn ei ddwylaw Ef;
Noddfa a nerth, O! feddwyn clyw,
Dyrchafa ato'n awr dy lef;
Estyn ei fraich anfeidrol werth,
Dyrchafwn ninnau weddi'r ffydd,
Cysylltwn weddi yn y nerth,
Daw'r gwannaf o'i gadwynau'n rhydd.

Concwest ni ddaw o'r dwyrain dir,
Nac o'r anialwch cras-boeth nen;
Nac o'r gorllewin chwaith yn wir,
Duw sydd yn barnu, Ef sydd ben;
O'i enau Ef, ein Duw a'n Tad,
Rwym y cymylau, sych y môr;
Gwaeddwn ar Dduw i sobri'n gwlad,
Cydiwn ein llef wrth allu Ior.