Caniadau Buddug/Yr amddifad
← Noddfa a nerth | Caniadau Buddug Caniadau gan Catherine Prichard (Buddug) Caniadau |
Croes → |
YR AMDDIFAD.
Pan araf osodir yr olaf dywarchen,
Fel clo ar y beddrod lle gorwedd dan gudd
Y fam gyda'i phriod ym mynwes y ddaear,
Gadewir amddifad i ochain yn brudd ;
A'i law gan yr estron yn wyw a chrynedig,
A'i lygaid yn foddfa gan ddagrau di-rith,
'Does wyr ond y nefoedd beth sydd gynwysedig,
Mewn hylif mor buraidd a gloew a'r gwlith.
Fe gollodd y bychan sydd heddyw'n amddifad,
Fendithion rhagoraf y ddaear i'r llwch :
Fe gladdwyd pob gronyn o'i obaith a'i gariad
Ym medd ei rieni dan lenni oer trwch;
Try'n unig a gwelw ei wyneb plentynaidd,
I'r byd am drugaredd ynghanol ei glwyf,
Ond nid oes gan hwnnw ddim sydd fwy caruaidd,
Na chartref i'r truan yn Nhloty y Plwyf.
Ond, blentyn amddifad, beth pe gwybuasit
Yr eiddo, sy'n eiddo mor gyfiawn i ti;
Dy ddagrau llifeiriol yn fuan sychesit,
Pe gallet ti gredu mor freiniol dy fri!
Pan ydoedd yr arfau ar eirch dy rieni,
A'u twrf yn anafu dy galon fel brath,
'Roedd twrf gan guriadau Anfeidrol dosturi,
Yn uchel ddiaspedain fod Tad i dy fath.
Pwy bynnag a feiddia ddirmygu'r amddifad,
Mae'n meiddio yn erbyn un mwy nag yw ef,
Pwy bynnag a fyddo'n ddiystyr o'i deimlad,
Mae'n poeri yngwyneb Tywysog y nef;
O blentyn amddifad, yr wyt yn gyfoethog,
Ti ydyw yr uchaf o bawb yn y wlad,
Etifedd y ddaear a'r nefoedd doreithiog,
Tydi biau'r cyfan, wyt blentyn dy Dad.