Caniadau John Morris-Jones/Arianwen
← Y Cwmwl | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Yr Hwyr Tawel → |
ARIANWEN
Pan ganai'r adar ar y pren
Y wen Arianwen roed
I orwedd mwy mewn pridd a main,
Yn rhïain ugain oed.
Ei thad a'i mam yn ymdristau,
Llifeiria'u dagrau dwys;
A llawer sydd yn llaith eu grudd
Roi honno'n gudd dan gŵys.
Ond ni wybuant archoll un,
Pan roed y fun i fedd;
Ar hwnnw 'n wir ni sylwodd neb
Na'i wyneb gwael ei wedd.