Caniadau John Morris-Jones/Y Cwmwl
← Pa le mae Gwen? | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Arianwen → |
Y CWMWL
Mae 'r eigion fel yr arian draw
Gan belydr haul y nef,
A chwmwl ar yr haul ei hun
Yn cuddio'i wyneb ef.
F'anwylyd, pan ddaeth cwmwl gynt
Am ennyd rhyngom ni.
Tywynnai ar fy nghof o hyd
Dy hyfryd wenau di.
Daeth awel o ddeheuwynt teg,
A'r cwmwl dudew ffoes;
A goleu pur dy eglur wedd
Sy fyth yn heulo f'oes.