Caniadau John Morris-Jones/Pa le mae Gwen?

Syr Lawrens Berclos Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Y Cwmwl

PA LE MAE GWEN?

Glas ydyw'r awyr,
A'r ddaear sy werdd,
A phob rhyw aderyn
Yn canu mwyn gerdd,
Tywynnu maeV heulwen
Yn gannaid uwchben,
A minnau'n pryderu
Pa le mae fy Ngwen.

Nid ydyw na'r awyr
Na'r ddaear i mi,
Na'r heulwen na'r adar
Yn ddim hebddi hi;
Nid oes yn eu lloniant
Ond somiant a sen,
A minnau'n pryderu
Pa le mae fy Ngwen.


A weli di, heulwen,
O'th awyr las di,
A ddwedi di, ddaear,
Pa fan y mae hi?
Ehed, yr aderyn,
O frigyn y pren,
A chân iddi 'nghwynion.—
Na, dacw fy Ngwen!

Glas fyddo'r awyr,
A'r ddaear fo werdd,
A phob rhyw aderyn
A gano 'i fwyn gerdd,
Tywynned yr heulwen
Yn gannaid uwchben;
Caf finnau ymlonni
Yng nghwmni fy Ngwen.


Nodiadau

golygu