Caniadau John Morris-Jones/Syr Lawrens Berclos
← Fy Mreuddwyd | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Pa le mae Gwen? → |
SYR LAWRENS BERCLOS
'R oedd Cymru wen yn dechreu 'mysgwyd
Dan gadwyni heyrn y Sais;
Od oes raid i'r Sais orthrymu,
Oes raid i'r Cymro ddioddef trais?
"Na raid," medd Glyn Dẁr yn flyrnig,
A chododd Cymru wrth ei lais.
Yr adeg hon, 'r oedd gwr bonheddig
Yn tramwy Cymru gyda'i was;
Gŵr anarfog oedd, ac estron,
Ond fe hoffai, ym mhob plas,
Glywed am Lyn Dŵr a holi
Pwy oedd ei ffrind a phwy ei gas.
Fe ddaeth i blas Syr Lawrens Berclos,
Llefarodd yn nhafodiaith Ffrainc;
A mawr y croeso gafodd yno,
Fe'i rhoddwyd ar yr uchaf fainc;
Hyfryd, hyfryd fu'r ymddiddan,
Llwyr y canwyd llawer cainc.
Cyn hir, 'r wy'n disgwyl," medd Syr Lawrens,
"Gweld Glyn Dŵr gynllwynwr mall;
Mae pawb o'm gwŷr dan dwng i'w ddala
"A'i ddwyn ef yma gynta' gall."
"Gwaith da fai diogelu hwnnw,
"Od oes a allo," medd y llall.
Ni chyfrifir Lawrens Berclos
 gẁr bonheddig, yn ei oes,
Ail i hwn ym mhob syberwyd,
Pob rhyw geinder, mwynder moes.
Deisyfodd arno'n daer i dario,
A phedwar diwrnod yr ymdroes.
Wedi rhodio, ymddifyrru
Yn y ddawns ac wrth y bwrdd,
Fe ddaeth yr awr i'r gŵr ymado—
Gobeithiai Lawrens eto 'i gwrdd;
Rhoes yntau 'i law a'i ddiolch iddo
Wrth gychwyn gyda'i was i fwrdd:
"Diolch am dy holl ledneisrwydd,
"Am bob rhyw fwyniant, pob rhy w fri;
"O barth i'th fwriad dithau ataf,
"Dyma'm llaw a'm llw i ti
"Na chofiaf mono, chwaethach dial—
"Yn iach," medd ef, "Glyn Dŵr wyf fi! "
Fel y gwelaist gysgod cwmwl
Yn diflannu dros y bryn,
Felly'r aeth Glyn Dŵr a'i gyfaill,
A Lawrens mewn mudandod syn;
Ac ni chadd Lawrens byth ei barabl,
Os gwir yr hanes, wedi hyn.