Caniadau John Morris-Jones/Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd
← Mewn breuddwyd tywyll safaf | Caniadau John Morris-Jones gan John Morris-Jones |
Fel y lloerwen oleu'n dianc → |
XVII
Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd,
A phrudd oedd sêr y nef;
A mi fy hun oddiyma 'mhell
Yn fy nhirionaf dref.
Nesheais at ei chartref draw,
Cusenais drothwy'r drws
Lle 'n aml y gwibiodd ysgafn droed
Ac ymyl gwisg fy nhlws.
Yr oedd y nos yn oer a maith,
A'r garreg honno'n oer;
Ond gwelais wyneb mwyn drwy'r dellt
Yn gann yngoleu'r lloer.