Caniadau John Morris-Jones/Mewn breuddwyd tywyll safaf

Pa fodd, a mi'n fyw eto Caniadau John Morris-Jones

gan John Morris-Jones

Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd

XVI

Mewn breuddwyd tywyll safaf,
Edrychaf ar ei llun;
Ac megis ymadfywio
Mae wyneb hardd fy mun.

A rhyfedd wên a chwery
Ar ei dwy wefus bur,
A'i llygaid sy'n disgleirio
O loewon ddagrau cur.

Mae 'nagrau innau'n treiglo
I lawr fy ngruddiau'n lli;
Ac O, ni allaf synio
Im eto 'i cholli hi.


Nodiadau

golygu